Part of the debate – Senedd Cymru am 3:03 pm ar 15 Hydref 2019.
Dwi am ofyn am ddatganiad ar ddyfodol y sector prosesu bwyd yng Nghymru yn ehangach. Rŷn ni wedi clywed am drafferthion Tomlinsons, wrth gwrs, a goblygiadau hynny, a hynny'n dod prin 18 mis ar ôl colli Arla yn Llandyrnog hefyd. Mae yna issues, felly, o safbwynt prosesu llaeth. Ond, wrth gwrs, mi glywon ni wythnos diwethaf hefyd am Randall Parker Foods yn Llanidloes, fydd bellach ddim yn prosesu cig eidion. Mae hynny'n mynd i arwain at oblygiadau difrifol i nifer o'r cynhyrchwyr, mewn sector, wrth gwrs, sydd eisoes mewn sefyllfa anodd iawn. Felly, mae yna gwestiynau, dwi'n meddwl, ynglŷn â'r rôl a'r lle a'r gefnogaeth sydd ar gael i'r sector prosesu bwyd yn ehangach yng Nghymru. Oherwydd os ydyn ni o ddifrif ynglŷn â datblygu economi fwyd hyfyw, a brand bwyd Cymreig gwerthfawr, mae'n rhaid inni gael y prosesyddion yna er mwyn ein cynorthwyo ni i gyflawni'r nod yna.
Dwi'n noddi yfory dathliad o fwyd a diod Cymreig. Mae'n Ddiwrnod Bwyd y Byd yfory, ac mae'n gyfle inni ddathlu yr hyn sydd gennym ni. Ond wrth inni weld colli prosesyddion fel hyn, wrth gwrs, mae e'n tanseilio’r sector ac yn tanseilio'r cyfle sydd gennym ni i adeiladau economi cefn gwlad ar gefn y sector hwnnw. Felly, byddwn i'n disgwyl bod gan y Llywodraeth, gobeithio, gyfle i wneud datganiad i amlinellu sut y mae hi'n gweld cyfle i dyfu'r sector ac i gefnogi'r sector yn y cyfnod anodd yma.
Gaf i hefyd ofyn am ddatganiad gan y Prif Weinidog ynglŷn â'r honiadau bod y Gweinidog materion gwledig wedi torri'r cod gweinidogol drwy ymyrryd, yn ei rôl fel Gweinidog, gydag achos yn ymwneud ag etholwr, er bod hynny y tu hwnt i'w chyfrifoldebau portffolio hi fel Gweinidog? Honiadau ŷn nhw, ond, wrth gwrs, dwi'n poeni bod yna ddim digon o dryloywder fan hyn. Dwi ddim yn gwybod a ydy'r Prif Weinidog wedi cynnal ymchwiliad neu beidio. Mae angen inni wybod hynny. Ac mae e unwaith eto, dwi'n meddwl, yn codi'r cwestiwn ynglŷn â pha mor addas yw hi mai'r Prif Weinidog sydd yn arwain ar brosesau fel hyn. Onid yw hi'n amser nawr, fel y mae nifer ohonom ni wedi awgrymu yn y gorffennol, y dylid bod yna ryw gorff neu unigolyn yn allanol i'r Llywodraeth yn ymchwilio i mewn i faterion fel hyn—ac yn dal i ddod ag adroddiad i'r Prif Weinidog, fel mai'r Prif Weinidog sy'n gwneud y penderfyniad terfynol, ond mae angen yr elfen hyd braich yma mewn achosion o'r fath, fyddai'n dod â gwell tryloywder? Dwi ddim yn meddwl ei bod hi'n iawn mai'r Prif Weinidog sydd yn farnwr, yn rheithgor ac yn ddienyddiwr, a buaswn i'n gofyn am ddatganiad, er eglurder yn yr achos penodol yma, ond hefyd ynglŷn ag unrhyw fwriad sydd gan y Llywodraeth, efallai, i ddiwygio'r broses.