3. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:12 pm ar 15 Hydref 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour 3:12, 15 Hydref 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch, Bethan, am godi'r materion hyn. Byddaf yn sicr yn cael trafodaeth gyda'r Gweinidog sy'n gyfrifol ar y ddau fater hyn, o ran pryd y gallwn roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud o ran cam-drin domestig, ac yn benodol, sut yr ydym yn gweithio gyda'r heddlu er mwyn gwneud hynny. Gwn fod gwaith yn mynd rhagddo, er enghraifft, o ran hyfforddiant ar gyfer dulliau gweithredu sy'n seiliedig ar drawma ac ati, sy'n bwysig iawn wrth ymdrin â phobl sydd wedi profi profiadau anodd iawn.

Ac unwaith eto, mi fydda i'n cael yr un sgwrs am y gefnogaeth yr ydym ni'n ei rhoi i geiswyr lloches, oherwydd mae'n bwysig ein bod ni, mewn gwirionedd, yn genedl noddfa, fel yr honnwn ein bod ni. Rwy'n gwybod bod Llywodraeth Cymru, o'i rhan hi, yn gwneud llawer iawn i geisio gwireddu hynny, ac yn gwneud i bobl deimlo bod croeso iddyn nhw yma pan fyddan nhw'n dod yma. Rydym yn cydnabod eto, yn yr un modd, fod llawer o bobl sydd wedi ceisio noddfa gyda ni wedi bod trwy amgylchiadau hynod o anodd, na all llawer ohonom hyd yn oed ddechrau eu dychmygu. Ac rwy'n gyfarwydd â'r achosion a ddisgrifiwyd gennych; gwelais Otis ychydig benwythnosau'n ôl, fel y gwn y gwnaethoch chithau hefyd. Gwn ei fod yn arbennig o ddiolchgar am y gefnogaeth y mae wedi'i chael gan y gymuned yn Abertawe a thu hwnt.