Part of the debate – Senedd Cymru am 3:36 pm ar 15 Hydref 2019.
A gaf i ddiolch i'r Prif Weinidog am ei ddatganiad y prynhawn yma? Mae Prydain bellach yng nghanol proses gyfansoddiadol ddigynsail, a bydd ymadawiad y DU â'r Undeb Ewropeaidd yn newid y berthynas rhwng rhannau cyfansoddol y Deyrnas Unedig. Wrth i Brydain fynd rhagddi yn y broses hon, mae'r cysylltiadau rhynglywodraethol rhwng pob rhan o'r DU yn gwbl dyngedfennol o ran cael sefydlogrwydd cyfansoddiadol i'r Undeb. Mae'n amlwg bod adroddiad Llywodraeth Cymru, 'Diwygio ein Hundeb', yn galw am ddiwygio'r mecanweithiau rhynglywodraethol presennol o'r bôn i'r brig, gan gynnwys memoranda cyd-ddealltwriaeth, i ateb yr heriau newydd sy'n ymwneud â'r byd wedi Brexit. Felly, fy nghwestiwn cyntaf i'r Prif Weinidog yw holi pa drafodaethau rhynglywodraethol uniongyrchol sydd wedi bod rhyngddo ef a'i gymheiriaid ledled y DU ar y mater penodol hwn, gan fod cysylltiadau rhynglywodraethol effeithiol yn hanfodol i sicrhau bod cymwyseddau'r Undeb Ewropeaidd yn cael eu trosglwyddo heb drafferthion i'r gweinyddiaethau datganoledig.
Mae datganiad heddiw ar adroddiad 'Diwygio ein Hundeb' Llywodraeth Cymru yn cydnabod yn gywir y dylid ystyried yr egwyddorion sy'n sail i ddatganoli yn sylfaenol i gyfansoddiad y DU. Ar hyn o bryd, mae gan Lywodraeth y DU gymhwysedd deddfwriaethol di-ben-draw ledled y DU, ac rwy'n credu bod cryn sylwedd i'r ddadl y gellid cyflwyno setliad newydd i sicrhau nad yw Llywodraethau'r DU yn deddfu yn y dyfodol ar faterion o fewn cymhwysedd datganoledig. Wrth amlinellu'r achos hwn, mae'r Prif Weinidog wedi sôn eto am gysyniad sybsidiaredd, gan gydnabod sofraniaeth y bobl ym mhob rhan o'r DU, ac roedd Pwyllgor Cyfansoddiad Tŷ'r Arglwyddi o blaid y cysyniad hwnnw hefyd yn ei ymchwiliad i'r undeb a datganoli. Serch hynny, daeth yr adroddiad hwnnw i'r casgliad hefyd mai dim ond i genedl benodol y dylid datganoli pwerau, pan fyddo hynny er lles pobl y genedl honno, heb amharu ar yr undeb yn ei gyfanrwydd. Felly, yng ngolau hyn, a all y Prif Weinidog ddweud wrthym beth yw ei farn ef ynglŷn â sut y gellir rhoi prawf effeithiol ar egwyddor sybsidiaredd wrth geisio datganoli pwerau ymhellach, fel na all Llywodraethau Cymru yn y dyfodol, o unrhyw liw, geisio datganoli pwerau mewn unrhyw achos sy'n ddymunol yn eu golwg, ar sail eu hewyllys gwleidyddol eu hunain?
Mae pryderon hefyd ynghylch datblygu fframweithiau cyffredin wrth i Brydain ymadael â'r Undeb Ewropeaidd. Mae toreth o drafodaethau i'w cael eto ynghylch natur rhai o'r fframweithiau hynny—er enghraifft, a fyddan nhw'n cael eu llunio ar ffurf deddfwriaeth neu efallai drwy femorandwm dealltwriaeth. Efallai y gallai'r Prif Weinidog, yn ei ymateb, fanteisio ar y cyfle i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau ynglŷn â'n sefyllfa ni o ran datblygu fframweithiau cyffredin.
Wrth gwrs, ni fydd unrhyw drafodaeth ar ddiwygio cyfansoddiadol wedi ei chwblhau heb roi ystyriaeth i gyfrifoldebau ariannol y deddfwrfeydd datganoledig. Mae'r datganiad heddiw yn cadarnhau bod cyfrifoldeb cyllidol wedi dod yn rhan gynyddol bwysig o'r newidiadau diweddar i'r setliadau datganoli ledled y Deyrnas Unedig. Ac rydym ni, ar yr ochr hon i'r Siambr, wedi galw ers amser am ddiwygio ariannol a fyddai'n gweld cydbwysedd tecach o ran pŵer ac adnoddau ledled Prydain. Ac felly, rwy'n falch bod Llywodraeth Cymru yn argymell disodli fformiwla Barnett gyda system sy'n seiliedig ar anghenion. Mae'r Prif Weinidog yn egluro ei fod ef o'r farn na ellir diogelu cyfreithlondeb fframwaith cyllidol y DU yn iawn heb gytuno arno ar y cyd a'i sicrhau a'i weithredu'n annibynnol. Ac efallai y gwnaiff y Prif Weinidog roi rhywfaint o wybodaeth sy'n fwy penodol ynglŷn â'r cynnig hwn.
Wrth wraidd unrhyw ddiwygio cyfansoddiadol mae'n rhaid cael ymrwymiad gan bob deddfwrfa, ledled y DU, er mwyn parchu'r setliad datganoli. Rwy'n cytuno â'r Prif Weinidog y dylai'r berthynas rhwng pedair Llywodraeth y Deyrnas Unedig fod yn seiliedig ar barch y naill at y llall, ac yn sicr fe allaf weld rhinweddau mewn confensiwn cyfansoddiadol fel cyfrwng i ddwyn datblygiadau cyfansoddiadol ymlaen yn y dyfodol. Wrth gwrs, bydd yn rhaid i Gymru gael sedd wrth y bwrdd pan ddatblygir polisi cyfansoddiadol newydd, ond mae'n rhaid inni fod yn ofalus nad yw unrhyw drefn gyfansoddiadol newydd yn achosi cyfaddawd o ran y setliad datganoli ac, yn wir, o ran undeb y Deyrnas Unedig. Felly, a all y Prif Weinidog ddweud wrthym sut y mae ef yn rhagweld y byddai'r confensiwn newydd hwn yn gweithio? A pha mor hyderus yw ef y gall y setliad datganoli gael ei ddiogelu gan y cyfrwng cyfansoddiadol newydd hwn?
Wrth i ddyfodol cyfansoddiadol Prydain ddechrau newid yn sgil tynnu'n ôl o'r Undeb Ewropeaidd, mae'n bwysicach nag erioed i bobl y DU fod â rhan lawn yn y drafodaeth am strwythur y DU. Rwy'n credu ei bod yn deg dweud bod pobl, ar y cyfan, yn poeni mwy am ansawdd eu gwasanaethau cyhoeddus ac atebolrwydd eu llywodraethau, ac felly mae'n rhaid i ni, wrth eu cynrychioli nhw, wneud mwy i ymgysylltu â phobl Cymru ynglŷn â'r dyfodol. Mae'r Prif Weinidog yn sôn am roi llais i'r dinesydd yn y broses hon, ac felly efallai y gallai ddweud ychydig mwy wrthym am gynlluniau ymgynghori ac ymgysylltu Llywodraeth Cymru gyda phobl Cymru ynglŷn â'u barn nhw am faterion o ran sefyllfa gyfansoddiadol ein gwlad yn y dyfodol.
Felly, gyda hynny, Llywydd, rydym ni, ar yr ochr hon i'r Siambr, yn unfryd ag ymrwymiad y Prif Weinidog i weld Cymru yn ffynnu mewn Teyrnas Unedig gadarn, ac rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda Llywodraeth Cymru a llywodraethau ledled y DU yn adeiladol ar gyfer parchu'r setliad datganoli ac amddiffyn Undeb y Deyrnas Unedig i'r dyfodol.