5. Datganiad gan y Prif Weinidog: Polisi Cyfansoddiadol

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:41 pm ar 15 Hydref 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 3:41, 15 Hydref 2019

(Cyfieithwyd)

Wel, Llywydd, a gaf i ddiolch i Paul Davies am y cyfraniad meddylgar ac adeiladol hwnnw, a llawer o bwyntiau y credaf ein bod ni'n cytuno arnyn nhw i ryw raddau? Ceisiaf ymdrin â'i gwestiynau orau y gallaf i. Fe ofynnodd am adroddiad ar y sefyllfa ddiweddaraf o ran trafodaethau ar gysylltiadau rhynglywodraethol. Ac mae'n ddrwg gennyf i ddechrau gyda nodyn sy'n llai na chadarnhaol, ond fe fydd yn gwybod y cytunwyd ar adolygiad o gysylltiadau rhynglywodraethol mewn cyfarfod llawn o gyd-bwyllgor y Gweinidogion 18 mis yn ôl—y cytunwyd arno rhwng fy rhagflaenydd i, Carwyn Jones, a Mrs May y Prif Weinidog a Nicola Sturgeon. Cafodd cyfrifoldebau eu rhannu ymysg y gwledydd i arwain ar chwe gwahanol thema yn yr adolygiad hwnnw, ac eto ni chafodd yr adolygiad hwnnw byth ei orffen. Heb unrhyw gyfarfod llawn o gydbwyllgor y Gweinidogion yn y dyddiadur, nid oes unrhyw fecanwaith i adrodd ar y cynnydd sydd wedi bod, hyd yn oed. Ac, a bod yn deg, rwy'n clywed gan swyddogion fod rhywfaint o gynnydd wedi bod ar rai o'r meysydd hynny—y prif feysydd y mae Llywodraeth Cymru yn arwain arnyn nhw, a rhywfaint o gynnydd mwy diweddar o ran dulliau annibynnol o ddatrys anghydfodau, ac fe fyddai hwnnw'n gam gwirioneddol ymlaen, pe baem ni'n gallu gwneud cynnydd yn y maes hwnnw. Ond mae'r cynnydd yn ofnadwy o araf. Nid oes digon o ymdeimlad o frys, sy'n angenrheidiol, o gofio'r ffaith ein bod ni efallai ar drothwy ymadael â'r Undeb Ewropeaidd o fewn ychydig ddyddiau. Ac mae hynny'n adlewyrchiad o'r rhwystredigaeth sydd gennym ni pan ydych chi hyd yn oed yn cael cytundeb â Llywodraeth y DU bod angen gwneud rhyw waith, fod hynny'n ymestyn i dragwyddoldeb cyn ichi gael unrhyw ymdeimlad o ddatrysiad.

Llywydd, roeddwn i'n falch iawn o glywed yr hyn a ddywedodd arweinydd yr wrthblaid am allu i ddeddfu sy'n gorgyffwrdd. Oherwydd wrth galon rhai o'r cynigion yn ein dogfen ni, ceir gwahanu'r cyfrifoldebau hynny a chilio'n ôl oddi wrth y caniatâd yn y setliad presennol i Senedd y DU fod â'r gallu i ddiystyru cymhwysedd deddfwriaethol a chyfrifoldeb ac, yn wir, y broses o wneud penderfyniadau yn y cyrff datganoledig.

Rydym wedi cyflwyno cynigion ar gyfer confensiwn Sewel. Mae Sewel i fod yn amddiffyniad rhag deddfu gan Lywodraeth y DU yn fympwyol mewn meysydd datganoledig. Ond fel y dywedodd y Goruchaf Lys yn achos Miller, confensiwn cwbl wleidyddol yw hwn ac mae angen ei godeiddio o leiaf, yn y ffordd a nodir gennym ni. Oherwydd, ar hyn o bryd, y ffordd y mae Sewel yn gweithio yw mai Llywodraeth y DU yn unig sydd i bennu pryd y penderfynir bod cyfres o amgylchiadau 'heb fod yn arferol'. Y nhw sy'n gwneud y penderfyniad hwnnw; y nhw sy'n penderfynu sut i weithredu. Nid oes raid iddyn nhw adrodd yn ôl ar sut y bu iddyn nhw ddod i'r casgliad hwnnw, ac rydym ni wedi nodi ffyrdd y gellid codeiddio Sewel. Gellid ei nodi mewn cyfres o reolau a fyddai'n bosibl o leiaf i'w herio gan rai sydd o farn arall. Rydym ni wedi cynnig y byddai gan Dŷ'r Cyffredin a Thŷ'r Arglwyddi gyfrifoldebau ar wahân i gael adroddiadau ar weithrediad Sewel. A phe bai Llywodraeth y DU yn penderfynu ceisio deddfu mewn maes a ddatganolwyd i ni, yn groes i ewyllys y Cynulliad, fe fyddai gennym ni, neu'r Cynulliad Cenedlaethol, yn hytrach, y gallu i gyflwyno sylwadau i Dŷ'r Cyffredin a Thŷ'r Arglwyddi i gyflwyno'r safbwynt arall. Credaf fod honno'n ffordd o ddiwygio'r sefyllfa bresennol, ond rydym yn mynd ymhellach na hynny yn y papur ac yn cynnig dyfodol lle bydd gwahanu eglur yn y cyfrifoldebau a byddai gallu Llywodraeth y DU i ymyrryd yn cael ei ddisodli.

Rwy'n cytuno'n fawr iawn, Llywydd, â'r hyn a ddywedodd Paul Davies am ddatganoli at ddiben penodol. Pan fyddwn ni'n penderfynu ar egwyddorion sybsidiaredd, lle y dylai pwerau orwedd, fe ddylai hynny ddigwydd oherwydd bod rhesymeg y tu ôl i hynny. Ceir thema yn y papur y bydd ef wedi ei weld lle mae rhai o'r ffyrdd y caiff pwerau eu gwasgaru ledled y Deyrnas Unedig yn gwbl ddiffygiol o ran cydlyniant. Ac felly, rydym ni'n dadlau o blaid yr ymdeimlad hwnnw o resymoldeb yn y ffordd y caiff pwerau eu dosbarthu, a phwerau yn cael eu dosbarthu am fod yna reswm iddynt gael eu lleoli yno.

O ran cyfrifoldebau cyllidol, rydym yn dadlau o blaid fframwaith cyllidol i'r DU; fe wnaethom ni sôn am hynny'n gynharach y prynhawn yma. Ond pe byddai fframwaith cyllidol i'r DU, yna fe fydd yn rhaid i'r broses o'i weithredu gael ei hategu gan fecanwaith datrys anghydfod sy'n annibynnol ar unrhyw un o'r pedair plaid. Felly, nid ydym yn gofyn am hynny i fod yn ein dwylo ni, ond ni ddylai fod yn nwylo'r Trysorlys ychwaith, ac ar hyn o bryd mae'n gyfan gwbl yn nwylo'r Trysorlys—sef y barnwr a'r rheithgor a'r dienyddiwr: mae'r holl rannau'n cael eu chwarae gan yr un chwaraewr. Nawr, rydym yn nodi ffyrdd y gellid cyflwyno lefel newydd o annibyniaeth i hynny.

O ran sut y gellid diogelu setliad newydd, wel, fe fyddwn ni'n edrych gyda diddordeb ar adroddiad Arglwydd Andrew Dunlop, y gwnaeth y cyn-Brif Weinidog, Theresa May, ofyn iddo wneud darn o waith ynglŷn â gweithrediad y Deyrnas Unedig yn y dyfodol. Fe wnes i gyfarfod ag Arglwydd Dunlop yn y fan hon ar 17 Medi, a mwynhau fy sgwrs gydag ef. Mae'n bwriadu cyflwyno adroddiad ym mis Tachwedd. Byddwn ni'n edrych ar yr adroddiad hwnnw i weld a oes modd y gellir gweld system ddi-syfl o ddatganoli, sydd wedi'i diogelu'n wirioneddol rhag difrod gan eraill, yn cael ei rhoi ar y llyfr statud.

Ac yn olaf, o ran ymgysylltu â dinasyddion, rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn dweud mai confensiwn i'r DU gyfan yw'r math o gonfensiwn yr ydym ni'n ei awgrymu yn y cynnig terfynol yn y papur. Nid confensiwn Cymreig yn dibynnu ar Lywodraeth Cymru neu ddinasyddion Cymru yn unig mohono. Mae'n rhaid iddo fod yn gonfensiwn sy'n cynnwys y Deyrnas Unedig gyfan—y pedair rhan gyfansoddol—lle byddai ymgysylltu â dinasyddion yn digwydd ledled y Deyrnas Unedig. Byddem yn dymuno chwarae ein rhan ni yma, ond fe fyddai'n dibynnu ar eraill y tu hwnt i Gymru.