5. Datganiad gan y Prif Weinidog: Polisi Cyfansoddiadol

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:02 pm ar 15 Hydref 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Reckless Mark Reckless Conservative 4:02, 15 Hydref 2019

(Cyfieithwyd)

Rwy'n eich canmol chi, Prif Weinidog, am y ddogfen hon ac am eich cynigion diddorol chi, a hefyd am eich awydd i gymryd rhan mewn dadl ledled y DU yn hytrach na chyfyngu hyn i fanylion datganoli yng Nghymru. Rydych chi'n dweud na fydd Plaid Cymru byth yn gweld y risgiau'n gorbwyso gwobrwyon annibyniaeth—y maen nhw o leiaf, o bosibl, hyd 2030, ac rwy'n credu mai dyna'r dyddiad y maen nhw'n ei roi ar gyfer eu refferendwm. Ond rydych chi wedi rhoi amddiffyniad llawn iawn o'r Deyrnas Unedig heddiw. Rwyf i wedi teimlo bod rhai o'ch Gweinidogion chi ac yn sicr rai o Aelodau'r meinciau cefn wedi cloffi ynghylch y mater hwnnw, ond ni wnaethoch chi heddiw o gwbl, ac am hynny rwy'n diolch i chi.

Mae corff eich dogfen chi yn dechrau drwy ddweud mai'r ffordd orau o weld y Deyrnas Unedig erbyn hyn, beth bynnag ei tharddiad hanesyddol, yw fel cymdeithas wirfoddol o genhedloedd ar ffurf gwladwriaeth amlwladol y mae ei haelodau yn rhannu ac yn ailddosbarthu adnoddau a risgiau ymysg ei gilydd i hybu eu diddordebau cyffredin. Mae hwn yn ddisgrifiad eithaf allweddol o'r undeb, ond mae hefyd yn cydnabod y swyddogaeth sydd gan Lywodraeth y DU a Senedd y DU, yn ffeithiol ar hyn o bryd o leiaf, sut bynnag y byddech chi'n hoffi hynny, ac i ba raddau y maen nhw'n ailddosbarthu adnoddau ariannol, ar leiaf, o Loegr i'r tair cenedl arall? Ac onid yw hwnnw'n safbwynt sy'n gysgod dros y ddadl?

Mae eich dogfen chi yn fy argyhoeddi i fwyaf pan soniwch am y manylion a rhai o'r rhwystredigaethau sydd wedi eich wynebu yn Llywodraeth Cymru wrth ymdrin â Llywodraeth y DU ynglŷn â'r strwythurau gweinidogol ar y cyd yr oeddech chi'n eu hwynebu, ac yn benodol yr addewidion a gawsoch chi 18 mis yn ôl yr ymddengys nad oes fawr ddim symudiad wedi bod arnynt, os o gwbl. Ond mae'r ddogfen yn ei chyfanrwydd yn pwysleisio confensiwn, cydraddoldeb, ac rydych chi'n siarad ar sail egwyddorion cyffredinol. Ac rwy'n credu bod hynny'n llawer anos pan fyddwch chi o'r farn nad yw Llywodraeth y DU a Senedd y DU yn cyfateb i'r sefydliadau yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon, ond eu bod nhw'n siarad ar ran y genedl, sef Lloegr, sy'n cynnwys dros bum rhan o chwech o boblogaeth yr ynysoedd hyn, yn ogystal â Llywodraeth y Deyrnas Unedig sydd â'r holl swyddogaethau hynny sydd heb eu datganoli. Ac er nad wyf i'n dadlau yn eich erbyn chi, rwy'n holi pa mor realistig yw mynnu cydraddoldeb o egwyddorion cychwynnol, ac yn meddwl tybed a fyddai'n well ichi ganolbwyntio ar rai o'r dadleuon argyhoeddiadol iawn sydd gennych o ran y manylion ynglŷn â sut mae'r system yn methu a sut y gellid gwella hynny.

A gaf i fwrw rhyw ychydig o amheuaeth hefyd, yn dechnegol felly, ar un o'r meysydd yr ydych chi wedi bod yn anelu ato? Rydych chi'n cyfeirio at Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, ac yn y troednodyn mae'r rhan berthnasol. Rydych chi'n dweud bod ein sefydliadau yn rhan barhaol o drefniadau cyfansoddiadol y Deyrnas Unedig— mae hynny'n cael ei gyhoeddi yn y ddeddfwriaeth. Ond rydych chi'n dweud wedyn efallai nad yr amddiffyniad parhaol yw hwnnw y gallai darlleniad syml ohono ei awgrymu. Ac yna fe ewch chi ymlaen i ddweud:

rhoddir mynegiad pellach nad yw'r sefydliadau datganoledig i'w diddymu ac eithrio ar sail penderfyniad gan bobl Cymru/yr Alban drwy bleidleisio mewn refferendwm.

A gaf i holi: a yw hynny hefyd yn dod o Ddeddf Llywodraeth Cymru, ac a ydych chi'n bwriadu newid hynny? Oherwydd, mewn man arall yn y ddogfen, nid refferendwm i bobl Cymru yw'r amod a roddir gennych chi, ond cydsyniad y sefydliad hwn. A yw hynny'n adlewyrchu eich profiadau chi yn refferendwm yr UE? Ai symudiad bwriadol yw hwn oddi wrth ganiatáu refferendwm i Gymru benderfynu ar ddyfodol y lle hwn i ddweud, beth bynnag fydd barn pobl Cymru mewn refferendwm, na ellid byth â diddymu'r lle hwn, ac eithrio drwy ei benderfyniad ef ei hun?

A gaf i eich holi chi ychydig am y llysoedd a'r rhannau cyfreithiol sydd gennych chi—rwy'n meddwl mai rhannau 18 a 19 yn y papur? Mae gennym yr Arglwydd Thomas yn lansio ei adroddiad amser brecwast ddydd Iau nesaf, rwy'n credu, ac rwy'n edrych ymlaen yn fawr at glywed beth fydd ganddo ef i'w ddweud. A ydych chi'n gallu barnu o flaen llaw unrhyw beth y bydd ef yn ei ddweud yn yr adroddiad hwn? O'r blaen, ac fe gyfeiriodd Adam at hyn gynnau fach, roedd yna ddadl ynghylch a ddylem ni gael awdurdodaeth ar wahân, ac wedyn roedd pobl yn cyfeirio at honno fel awdurdodaeth neilltuol. Yn yr adroddiad hwn, rydych chi'n cyfeirio at system o lysoedd ar wahân ac awdurdodaeth ar wahân. A yw hwnnw'n wahaniaeth pwysig o ran ystyr? Ai disgrifiad yw hwn sydd hanner ffordd rhwng y ddau ddisgrifiad blaenorol, neu a wyf i'n darllen gormod i mewn i hynny?

Rwyf i'n eich annog chi hefyd i beidio ag edrych ar y canlyniad yn unig o ran pwy yw'r beirniaid. Rydych chi'n cyfeirio, ac yn argyhoeddiadol yn fy marn i, at y ddadl dros gael rhywun sydd â gwybodaeth am gyfraith Cymru yn aelod o'r Goruchaf Lys, ond mae'r mater hefyd yn ymwneud â'r modd y penodir y barnwyr uwch. Mae gennym ni banel, rwy'n credu, o bump, ac fe geir dau o'r barnwyr uchaf, Arglwydd Brif Ustus, Meistr y Rholiau, Llywydd y Goruchaf Lys, ac yna benaethiaid y tri chomisiwn penodiadau barnwrol. Felly, dim ond un ar gyfer Cymru a Lloegr gyfan, o'r safbwynt hwnnw, un ar gyfer yr Alban, ac un o'r panel o bump ar gyfer Gogledd Iwerddon. Mae'n ymddangos bod hynny'n rhoi llawer iawn o bwys i'r Alban ac yn enwedig i Ogledd Iwerddon ac ychydig iawn o bwys i Gymru. Tybed, yn ogystal â chwilio am yr un ynad yn y Goruchaf Lys, a ddylem ni ystyried adolygu'r ffordd y mae uwch-farnwyr yn cael eu penodi ynddi hefyd?