Part of the debate – Senedd Cymru am 3:55 pm ar 15 Hydref 2019.
Rwy'n diolch i'r Aelod unwaith eto am gyfraniad diddorol ac ymgysylltiol. Fel y dywed ef, mae yna bethau yn y ddogfen yr ydym ni'n cytuno â nhw ar draws y pleidiau. Gadewch i mi gytuno ag ef mai'r cynnig mwyaf radical yn y ddogfen yw ailffurfio cysyniadau am sofraniaeth. Nid wyf i'n credu bod unrhyw amheuaeth, 20 mlynedd yn ôl, pan ystyriwyd datganoli gyntaf, ei bod hi'n gred ym meddyliau'r bobl a oedd yn trafod hynny fod sefydliadau datganoledig yn bodoli er mwyn gallu addasu polisi cenedlaethol i fodloni amgylchiadau lleol, a'r sefyllfa ddiofyn oedd bod y pwerau hynny yn San Steffan a bod rhai ohonyn nhw wedi cael eu rhoi ar osod ar sail amodol fel y gallai eraill eu hymarfer. Nawr, 20 mlynedd wedi datganoli, nid wyf i o'r farn fod hynny'n mynd i oddef ei archwilio erbyn hyn. A dyna pam yn y papur hwn rydym yn sôn am sofraniaeth y bobl, wedi ei gwasgaru ym mhob rhan o'r Deyrnas Unedig, wedi ei chefnogi gan refferenda, wrth gwrs, o'r lle y caiff sefydliadau datganoledig eu cyfreithlondeb a'i gadw. Ac yn y dyfodol, yr hyn sydd ei angen arnom yw nid ymdeimlad o sofraniaeth seneddol sydd â rhyw gymeriad diderfyn i bob golwg lle mae San Steffan bob amser yn gallu arfer cymhwysedd deddfwriaethol ar ran y Deyrnas Unedig gyfan, ond lle ceir y syniad hwnnw o sofraniaeth wasgaredig lle nad yw sofraniaeth yn cael ei throsglwyddo. Mae'r gair 'datganoli', hyd yn oed, yn fy marn i, yn gamarweiniol 20 mlynedd yn ddiweddarach, gan fod iddo yn ei hanfod yr ymdeimlad fod pethau'n parhau i gael eu trosglwyddo—yn cael eu dal yma ond wedi eu trosglwyddo—tra mai'r hyn yr ydym yn dadlau o'i blaid yn y papur hwn yw ymdeimlad o sofraniaeth a leolir yn y pedair gwlad ac yna'n cronni'n ôl yn wirfoddol at ddibenion y cytunir eu bod yn cael eu cyflawni orau yn ôl y patrwm ehangach hwnnw. Ac mae'n debyg mai'r anghytundeb mwyaf rhyngom ni yw nad yw Plaid Cymru yn credu bod achos dros gronni'n ôl—nid ydych chi'n credu fod yna gyfres o ddibenion cyffredin y byddai'n well eu cyflawni ar sail y DU, tra ein bod ni'n parhau i gredu bod hynny'n wir. Ac er mwyn bod yn rhan o'r clwb mwy eang hwnnw, mae'n rhaid ichi fod yn aelod o'r clwb eang hwnnw, fel yr ydym wedi dadlau erioed yng nghyswllt yr Undeb Ewropeaidd. Ond mae hynny'n fater priodol ar gyfer dadl a gwahaniaeth barn a pherswadio ein gilydd ac eraill o rinweddau'r achos hwnnw. Ond rwy'n cytuno â'r hyn a ddywedodd Adam Price yn ei gyfraniad mai dyna'r newid mwyaf radical yn y ffordd yr ydym yn ffurfio cysyniadau o ran y ffordd y mae pedair rhan y Deyrnas Unedig yn gweithredu gyda'i gilydd. Ac yna fe ddadleuwn ni, fel y gŵyr ef, am i hynny gael ei ymwreiddio—i hynny fod y tu hwnt i allu un rhan yn unig o'r pedair rhan i'w wrthdroi. Rhaid i hynny ymwreiddio ym mhedair rhan y Deyrnas Unedig.
Fe holodd am y berthynas rhwng hyn a gwaith Alun Davies, ac mae hyn, wrth gwrs, yn seiliedig ar barhad y Deyrnas Unedig. Mae'n sôn am y ffordd y gall y Deyrnas Unedig barhau i oroesi a ffynnu. Ond fel y dywedais i yn fy natganiad, mae mwy o berygl i'w oroesiad heddiw nag a fu ar unrhyw adeg yn fy oes wleidyddol i, ac mae gan rannau eraill o'r Deyrnas Unedig ddewisiadau y gallan nhw eu hymarfer. A'r hyn y bydd Alun yn edrych arno yw'r dewisiadau a fyddai gan Gymru mewn amgylchiadau gwahanol i'r rhai y mae'r adroddiad hwn yn eu rhagweld. Dyna pam mai adroddiad gan y Llywodraeth yw hwn, a dyna pam y bydd ef yn cyflawni ei waith yn y ffordd fwy rhydd honno a fydd ganddo ef.
Diolch am eich cyngor ar gyfansoddiad y Blaid Lafur i'r dyfodol. [Chwerthin.] Gadewch imi ddweud yn syml yn y fan hon yr hyn a ddywedais i yn fy araith yng nghynhadledd y Blaid Lafur, lle'r oeddwn i'n amlinellu, yn rhagddweud, rhai o'r pethau sydd yma ac fe ddywedais i yno fod fy marn i am ddatganoli a'i ymwreiddiad yn y Deyrnas Unedig yn cael ei adlewyrchu yn fy marn i am y ffordd y mae angen i'r Blaid Lafur weithredu. Felly, nid wyf yn credu mewn annibyniaeth o'r Blaid Lafur, ond rwyf i'n grediniol fod yr egwyddorion yr ydym ni'n eu hamlinellu yma yn berthnasol i'r Blaid Lafur, yn union fel y maen nhw'n berthnasol i'n cyfansoddiad yn fwy cyffredinol.
Yn olaf, i ymdrin â'r materion ynglŷn â risg a gwobr a'r confensiwn cyfansoddiadol, rwy'n credu mai'r gwahaniaeth rhyngom ni, yn syml, yw hyn—fy mod i'n credu, ym marn Plaid Cymru am y Deyrnas Unedig, nad yw byth yn bosibl cael cyfrifiad lle mae'r gwobrwyon yn drech na'r risgiau. Ar y llaw arall, o'm safbwynt i, er bod yna adegau pan gredaf fod y cyfrifiad yn anffafriol, rwyf i o'r farn fod yna bosibilrwydd iddo fod fel arall, ac ar y cyfan fel arall y bu, ac ar y cyfan, mae ein haelodaeth ni o Deyrnas Unedig, gyda Gwasanaeth Iechyd Gwladol, gyda rhwyd diogelwch o nawdd cymdeithasol, gyda dull cenedlaethol o ddiwallu anghenion lles ein pobl—mae'r cyfrifiad wedi bod o blaid pobl Cymru, a phobl Cymru wedi elwa ar y cyfrifiad hwnnw. Nid yw bob amser mor eglur ag y byddwn i'n hoffi i hynny fod, ac y mae hynny dan straen, nid dim ond o achos Brexit, ond oherwydd degawd o gyni digyffelyb hefyd. Ond rwyf i o'r farn fod potensial i bethau fod fel arall, ac mae Llywodraeth Lafur gyda phrosbectws o'r math y byddem ni'n ei gyflwyno unwaith eto yn rhoi'r cyfrif hwnnw'n gadarn i gyfeiriad Teyrnas Unedig lle mae'r gwobrwyon yn fwy o lawer i Gymru nag y bydden nhw fel arall.
Nid wyf yn dymuno gorffen ar nodyn negyddol, ond rydym ni'n awyddus i gael confensiwn cyfansoddiadol ar sail y DU. Yr hyn a ddywedais i wrth Paul Davies—yw bod cychwyn ar hyn ar ein pennau ein hunain, mewn rhai ffyrdd, yn tanseilio holl ddiben y papur, sef tynnu eraill i mewn i'r sgwrs. Nawr, nid wyf yn dymuno swnio fel fy mod i'n diystyru'r syniad, pe na allwn ni gynnwys pobl eraill ynddo, ac os nad yw'r ymgais hon i ddenu pobl eraill i mewn yn mynd â ni i unman, na fyddem ni'n parhau i fod yn awyddus i gael rhyw sgwrs ar ein cyfer ni ein hunain. Ond byddai dechrau gyda sgwrs ar ein cyfer ni ein hunain, yn fy marn i, yn dechrau ar ben arall y daith y byddai'r papur hwn yn hoffi iddi ddechrau. Mae angen inni ddenu pobl eraill i mewn, oherwydd os nad gennym ni eraill gyda ni, ni fyddwn yn cyflawni'r hyn yr ydym yn awyddus i'w gyflawni yn y papur hwn. A dyna pam mae ein hymdrechion ni ar hyn o bryd wedi eu cyfeirio at geisio ysgogi'r sgwrs ehangach honno, oherwydd ar sail y sgwrs ehangach honno y bydd dyfodol y Deyrnas Unedig, yr ydym ni'n eiddgar i'w sicrhau, yn cael ei gyflawni.