Part of the debate – Senedd Cymru am 4:25 pm ar 15 Hydref 2019.
Rwy'n croesawu'r ffordd y cawsom ni ddadl ddifrifol a gwybodus am y materion hyn y prynhawn yma. Mae'r rhain yn faterion difrifol ynghylch sut yr ydym ni'n llywodraethu ein hunain. Nid wyf yn rhannu pryderon David ynghylch sofraniaeth. Caiff sofraniaeth ei harfer, wrth gwrs, gan y cantonau yn y Swistir, ac maen nhw'n gwneud hynny mewn ffordd effeithiol i sicrhau hunan-lywodraethu'r cydffederasiwn hwnnw. Dros y blynyddoedd, byddwn yn edrych ar wahanol fodelau ac yn ceisio ysbrydoliaeth o wahanol ffyrdd o lywodraethu ein hunain er mwyn sicrhau ein bod yn cyrraedd y fan lle dymunwn fod, ac wrth wneud hynny, byddwn, gobeithio, hefyd yn uno'r wlad.
Mae hanes ymreolaeth, wrth gwrs, wedi'i wreiddio ym Merthyr—ni allem ni siarad am ymreolaeth heb sôn am S. O. Davies hefyd—ac mae wedi'i wreiddio mewn ymdeimlad o le yng Nghymru, ac mae'r gwahanol agweddau yn dwyn ynghyd hanes Plaid Cymru gyda hyd yn oed hanes y Blaid Geidwadol. Wrth gwrs, gadawodd arch-elyn Gladstone, Joseph Chamberlain, yr Unoliaethwyr Rhyddfrydol er mwyn ymuno â'r Blaid Geidwadol, felly nid yw hyn yn eiddo i un traddodiad penodol, nac unrhyw sefydliad gwleidyddol penodol. Mae'n ymwneud â lle yr ydym ni fel gwlad a lle yr ydym ni eisiau bod fel gwlad. Wrth i ni wynebu'r amseroedd ansicr iawn hyn, mae'n bwysicach nag erioed ein bod yn gwreiddio'r dadleuon hyn a'n bod yn gwreiddio'r sgyrsiau hyn a'n bod yn gwreiddio'r trafodaethau hyn a gawn ni mewn synnwyr o bwy ydym ni a'r rhan yr ydym ni eisiau gweld Cymru yn ei chwarae yn y byd.
Rwy'n falch hefyd bod y Prif Weinidog—gobeithio fy mod yn ei ddyfynnu'n gywir—wedi wfftio'r gair 'datganoli'. Mae'n rhaid i mi ddweud fy mod yn casáu'r gair 'datganoli', peth ofnadwy a thechnocrataidd nad yw'n golygu fawr ddim i neb, ac fe fyddwn yn falch petai Kilbrandon heb feddwl amdano. Ond mae'n bwysig ein bod yn edrych y tu hwnt i'r elfennau technocrataidd a'r prosesau llywodraethu i edrych ar yr hyn yr ydym ni'n ceisio ei gyflawni. I mi, rhyddid y Senedd hon yw gwneud y penderfyniadau sydd eu hangen i gynrychioli anghenion buddiannau Cymru, ein bod yn gwreiddio ein sofraniaeth, ein bod yn cyfuno ein sofraniaeth â'n cyd-genhedloedd ar draws y ffin yn Lloegr a'r Alban ac ar draws y dŵr yng Ngogledd Iwerddon er budd holl bobloedd y gwledydd hynny, nid yn unig er budd pobl Cymru, ond er eu lles hwythau hefyd, fel ein bod yn estyn allan, gobeithio, ac yn rhannu sofraniaeth lle mae angen hynny er mwyn sicrhau gwell lywodraethu i bobl yr holl ynysoedd hyn.
Gobeithiaf yn y blynyddoedd i ddod—. Pan roedd yn Weinidog Cyllid, bu i'r Prif Weinidog gau pen y mwdwl ar y cytundeb rhynglywodraethol ar Brexit. Credaf fod hynny'n gyflawniad eithriadol, ac yn un na fu dealltwriaeth dda ohono weithiau yn y Siambr hon, ond yn sicr y tu allan i'r Siambr hon, wrth newid natur y ddealltwriaeth o'r modd y mae llywodraethau a seneddau a sefydliadau Prydain yn gweithio gyda'i gilydd yn y dyfodol.
Ni allwn beidio ag achub ar y cyfle hwn i sôn am fy ngobaith mawr mai dyma fydd diwedd Swyddfa Cymru, sefydliad dibwrpas bellach ers tro byd. Eisteddais unwaith yn un o'r swyddfeydd yno sydd ar fenthyg i ni, a minnau'n Weinidog, ac eisteddais ymysg toreth o gardiau Nadolig ar y ddesg yno. Roedd y cyfarfod ym mis Gorffennaf. Mae hynny bob amser yn aros yn fy nghof pan fyddaf yn meddwl am Swyddfa Cymru.
Gobeithio, hefyd, y byddwn yn edrych ar ddiwygio'r fan yma. Ni allwn ni barhau i bregethu ynglŷn â diwygio mannau eraill heb wneud hynny yn y fan yma. Fe gawsom ni yr hyn a gredwn i oedd yn ddadl dda iawn yr wythnos diwethaf ynglŷn â rhai materion, ond ni allwn ni—dywedaf hyn wrth ein cyfeillion Ceidwadol: ni allwch chi fynnu diwygio mewn mannau eraill, ond peidio â diwygio yma lle mae'n effeithio arnom ni. Dywedaf wrth aelodau o'm plaid fy hun: rhaid i'r diwygio hwnnw gynnwys diwygio etholiadol, ac nid diwygio sy'n fanteisiol i ni yn unig, ond efallai diwygio y tybir nad yw o fudd inni ein hunain. Felly, mae angen inni fod yn onest gyda'n hunain ynglŷn â'r math o ddiwygio yr hoffem ni ei weld.
Gorffennaf drwy ddweud hyn, Prif Weinidog: credaf y bu hon yn ddogfen eithriadol. Mae rhai materion lle byddwn yn awgrymu bod angen inni edrych ymhellach. Y materion sy'n ymwneud â chytundebau rhyngwladol a masnach ryngwladol, rwy'n credu bod angen i ni edrych ymhellach ar hynny. Roedd y dadleuon a gawsom ni ddoe yn y trafodaethau bord gron, y cyfeiriodd Mick Antoniw atynt, yn glir iawn bod enghreifftiau da iawn mewn mannau eraill o sefydliadau megis ein sefydliad ni yn cael mynegi barn yn glir iawn, ac efallai feto hefyd, ar rai meysydd o fasnach ryngwladol, a chredaf fod hynny'n fater y mae angen inni ei ddadlau a'i drafod ymhellach, ond hefyd y mater o gyllid ac ariannu'r undeb. Yr eironi yw, wrth sôn am barhad y Deyrnas Unedig, fod angen inni greu sefydliadau sydd ym mherchnogaeth y Deyrnas Unedig ond nid o anghenraid ym mherchnogaeth Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Ac rwy'n credu mai un o'r methiannau a welsom ni dros y blynyddoedd wrth ddiwygio'r Deyrnas Unedig yw drysu rhwng llywodraethiant y Deyrnas Unedig a Llywodraeth y Deyrnas Unedig, ac rwy'n gobeithio y byddwn yn gallu symud y tu hwnt i hynny.
Ac yn olaf, dywedaf wrth fy nghyd-Aelodau fy hun yn fy mhlaid fy hun, y mae rhai ohonyn nhw, yn ddiau, wedi'u dychryn yn llwyr gan y ddadl hon, mai'r gwendid mwyaf a welsom ni yng ngwleidyddiaeth gyfansoddiadol y Deyrnas Unedig, ar hyd a thrwy gydol y ganrif ddiwethaf, ers galwad herfeiddiol Keir Hardie am ymreolaeth, yw ein bod yn rhy aml wedi drysu rhwng undebwriaeth a chanoliaeth, ac mae angen inni symud y tu hwnt i hynny lle'r ydym ni'n gryf a lle'r ydym ni'n gweld undeb cryf ac effeithiol. Nid yw hynny'n golygu canoli, nid yw'n golygu unffurfiaeth; yr hyn y mae'n ei olygu yw seneddau sy'n gallu gweithio gyda'i gilydd, cyflawni dros y bobl yr ydym yn eu cynrychioli, a chyfuno'r sofraniaeth fel y gallwn ni i gyd gydweithio er budd pobl yr holl ynysoedd hyn.