5. Datganiad gan y Prif Weinidog: Polisi Cyfansoddiadol

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:19 pm ar 15 Hydref 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Melding David Melding Conservative 4:19, 15 Hydref 2019

(Cyfieithwyd)

Mae'n rhaid i mi ddweud, Prif Weinidog, fy mod yn teimlo ymlyniad emosiynol dwfn iawn wrth Brydeindod ac at Gymreictod, ac rwyf yn credu bod yr undeb yn llawer mwy na threfniant cyfansoddiadol. Felly, dyna'r sylw cyntaf y byddwn yn ei wneud am eich safbwynt bod angen diwygio cyfansoddiadol yn ddi-os.

Rwyf yn croesawu diwygio ein hundeb. Rwy'n meddwl ei bod yn ddogfen ddiddorol ac rwy'n lled-gefnogol ohoni, ar y cyfan. Ond mae gwendid mawr iawn ynddi sef yr ymdriniaeth o'r cysyniad o sofraniaeth. Mae sofraniaeth o ran meddwl am gymdeithasau gwleidyddol yn gysyniad dyrys iawn mewn athroniaeth wleidyddol, ond mae'n gofyn am feddwl dwfn iawn, ac ni allwn ni osgoi gwneud hyn oherwydd bod iddi ganlyniadau ymarferol iawn. Gwelwn hynny yn llawer o'r dadlau am Brexit ar hyn o bryd. Felly, rwy'n meddwl pan ddywedwch yn y ddogfen  y derbynnir bod sofraniaeth (y dylid rhannu rhywfaint ohoni) yn gorwedd gyda phob rhan o'r DU,

Rwy'n credu bod angen i chi fod yn ofalus iawn â'r gystrawen yn y fan yma. Mae'n gorwedd 'ym' mhob rhan o'r DU, rwy'n fodlon ar hynny, oherwydd rwy'n credu y dylai ein sefydliadau gael eu gwreiddio, ond mae hefyd wedi ymwreiddio ar lefel y DU ac mae hynny'n wahaniaeth hanfodol.

Sylwaf i'ch rhagflaenydd nodedig ysgrifennu yr wythnos diwethaf:

Rhowch derfyn ar sofraniaeth San Steffan a'i rhoi i'r pedair cenedl.

O wneud hyn, yn ôl pob tebyg, byddai rhyw fath o gronni ar gyfer amddiffyn, materion tramor, polisi macroeconomaidd ac ati. Ond, ni allaf gefnogi'r cysyniad hwn gan nad yw'n egwyddor ffederal. Mae'n gamgymeriad gweld ffederaliaeth wedi ei nodweddu gan ddatganoli mor radical. Yn hytrach, mae ffederaliaeth yn ceisio creu awdurdod sofran canolog ac effeithiol, er mai un cyfyng ei gwmpas ydyw.

Dywedir weithiau i Alexander Hamilton dderbyn ffederaliaeth fel y pris i greu Llywodraeth ganolog. Roeddynt, adeg cadarnhau cyfansoddiad yr Unol Daleithiau wrth gwrs, yn dioddef o'r anhrefn a oedd yn bodoli yn yr erthyglau cydffederasiwn. Felly, dyna oedd natur ffederaliaeth: creu awdurdod canolog a oedd â'r grym i weithredu.

Fodd bynnag, rwy'n credu y gallai'r syniadau hyn gael eu profi a'u harchwilio mewn confensiwn cyfansoddiadol ac ers dros 10 mlynedd rwyf wedi credu bod hyn yn angenrheidiol. Ac rwy'n nodi gyda chymeradwyaeth alwad Llywodraeth Cymru am i'r egwyddor o ddatganoli fod yn sylfaenol mewn cyfansoddiad ysgrifenedig. Credaf fod hynny wrth wraidd ffederaliaeth.

Yn olaf, mae'n hen bryd diwygio Tŷ'r Arglwyddi. Bu hynny ar fin digwydd, yn ôl y jôc, ers 1911, ac yn sicr dylai fod yn Dŷ'r Undeb. Ond gadewch i mi orffen ar y mater hwn o sofraniaeth. Rwy'n credu fod sofraniaeth boblogaidd, pan gaiff ei ddefnyddio'n llac, yn gysyniad peryglus iawn. Mae sofraniaeth yn sicr yn dod o'r bobl, ond mae bron bob amser yn cael ei fynegi mewn sefydliadau gwleidyddol. Mae ambell eithriad i hynny fel refferenda. Ac rwy'n meddwl bod angen llawer o ofal a manylder arnom ni pan fyddwn yn edrych ar hanfodion ein cyfansoddiad, ond mae'n rhaid cael y ddadl hon, ac mae hynny wedi dechrau o ddifrif.