Part of the debate – Senedd Cymru am 5:05 pm ar 15 Hydref 2019.
Rwyf wedi fy nghalonogi'n arbennig gan yr ymrwymiad cynllunio integredig gan sefydliadau cefnogi yng Nghymru, gan gynnwys EASC, WHSSC, partneriaeth cydwasanaethau y GIG ac NWIS—dylwn i ddweud o ran yr holl fyrfoddau gwahanol yn y maes iechyd, y Pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys, Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, a Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru. Nid oes dyletswydd statudol arnyn nhw i ddatblygu cynllun tymor canolig integredig, ond er hynny maen nhw wedi cofleidio gofynion ac ysbryd y Ddeddf yn llwyr. Maen nhw'n chwarae rhan allweddol o ran galluogi a chydgysylltu'r system. Nid oes dyletswydd ar hyn o bryd ar Addysg a Gwella Iechyd Cymru, fel awdurdod iechyd strategol newydd, ond dewisodd ddangos ei ymrwymiad i gynllunio drwy gyflwyno cynllun integredig yn ei flwyddyn gyntaf. Felly, mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru'n chwarae rhan allweddol wrth weithio gyda byrddau iechyd ac ymddiriedolaethau mewn partneriaeth ac ar y cyd i fynd i'r afael â heriau allweddol o ran y gweithlu a hyfforddiant. Mae hyn yn allweddol er mwyn sicrhau y gall ein gwasanaethau ddarparu gofal a thriniaeth effeithiol pan fo angen.
Edrychaf ymlaen, nawr, at y cylch cynllunio nesaf, ar gyfer y cyfnod 2020-23, pan ddisgwyliaf weld cynnydd pellach i wella ein hymagwedd at gynllunio integredig. I gefnogi'r nod hwn, rwyf wedi dwyn cyhoeddi'r cynllun tymor canolig integredig cenedlaethol ymlaen bedwar mis. Roedd datblygu cynllun tymor canolig integredig cenedlaethol yn un o 40 o ymrwymiadau a wneuthum wrth gyhoeddi 'Cymru Iachach'. Bydd y cynllun tymor canolig integredig cenedlaethol yn helpu i wneud cyfraniad pellach at gryfhau ein system gynllunio integredig. Bwriad y ddogfen gychwynnol hon yw edrych yn ôl ac ystyried canlyniad ac effaith y cylch cynllunio diwethaf. Rwyf hefyd yn glir mai fy mwriad ar gyfer y ddogfen oedd gosod y cywair a'r cyfeiriad ar gyfer y cylch nesaf. Mae cyhoeddi'r cynllun tymor canolig integredig cenedlaethol yn gynnar wedi golygu ein bod yn dechrau'r cylch cynllunio nesaf gyda mwy o eglurder a chyfeiriad, sydd wedi cael ei groesawu gan y gwasanaeth.
Canfu'r cynllun tymor canolig integredig cenedlaethol dystiolaeth bod sefydliadau yn gwneud cynnydd da mewn meysydd fel gofal sylfaenol a chymunedol, iechyd meddwl, arloesi, cydweithio, ac ymchwil a datblygu. Er bod gwelliannau wedi'u gwneud yn y meysydd penodol hyn, mae angen o hyd sicrhau gwell gafael ar drefniadau comisiynu, canolbwyntio ehangach ar atal ac ymagwedd gryfach at gynllunio rhanbarthol ar gyfer gwasanaethau iechyd. Drwy gyhoeddi'r cynllun tymor canolig integredig cenedlaethol, rwyf wedi ailddatgan cyd-destun strategol clir ar gyfer y cylch cynllunio nesaf. Mae 'Ffyniant i Bawb', a gefnogir gan 'Cymru Iachach' a'n cyfres unigryw o ddeddfwriaeth flaengar, yn creu'r fframwaith ar gyfer y system gynllunio integredig yng Nghymru. Byddwn yn parhau i ddefnyddio'r cyd-destun hwn i gofleidio newid a chreu cadernid a chynaliadwyedd i gleifion ledled Cymru, lle bynnag maen nhw'n byw.
Mae ymrwymiad y Llywodraeth i gynaliadwyedd a dad-garboneiddio yn faes y mae sefydliadau'r GIG yn ei gofleidio, a gellir gweld effaith newid eisoes. Mae cynlluniau arloesol yn cael eu rhoi ar waith sy'n mynd i'r afael â heriau newid yn yr hinsawdd a hefyd yn dod â manteision iechyd a lles. Mae'r ffaith fod Bae Abertawe yn canolbwyntio ar ddad-garboneiddio a bioamrywiaeth yn golygu mai hwn yw'r bwrdd iechyd cyntaf yng Nghymru i ddatblygu prosiect twf gwyrdd. Rwy'n awyddus i gynaliadwyedd fod yn faes y byddwn yn canolbwyntio arno yn y cylch nesaf o gynlluniau i wneud y defnydd gorau o'n hadnoddau cyfyngedig. Byddwn yn mynd i'r afael â hyn fel mater o frys ac yn dangos arweiniad yn y maes hwn gan y gwasanaeth iechyd.
Wrth gwrs, mae'n ofynnol i gynlluniau fod yn gytbwys o ran eu sefyllfa ariannol. Rwy'n falch o nodi'r lleihad parhaus yn y diffygion ariannol ar draws GIG Cymru. A ninnau'n dal i orfod gwneud mwy gyda llai, rhaid i'r duedd gadarnhaol honno barhau. Disgwyliaf weld gostyngiadau pellach yn y diffyg cyffredinol yn y blynyddoedd i ddod.
Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gyda phob bwrdd iechyd ac ymddiriedolaeth, yn enwedig y rhai sydd wedi eu huwchgyfeirio, i ddarparu'r cyngor, yr her a'r cymorth sydd eu hangen arnyn nhw i weithio tuag at gyflawni cynlluniau cymeradwy. Mae ansawdd yn parhau i fod yn ganolog i'r system iechyd a gofal yng Nghymru. Rwyf yn benderfynol ein bod yn dal i godi'r safon i bawb er mwyn sicrhau tegwch, lleihau anghydraddoldebau iechyd a gwireddu'r weledigaeth a nodir yn 'Cymru Iachach'.
Yn olaf, hoffwn ailddatgan fy ymrwymiad i agenda gynllunio'r GIG yng Nghymru. Rwyf wedi buddsoddi mewn datblygu ac atgyfnerthu sgiliau cynllunio drwy'r academi gynllunio newydd. Mae'r diploma newydd mewn cynllunio gofal iechyd yn dechrau'r mis hwn ac mae'r rhaglen yn cynnwys amrywiaeth o gyfleoedd i gymheiriaid ddysgu o'i gilydd.
Fy mhum blaenoriaeth ar gyfer ein system gofal iechyd yw: atal, lleihau anghydraddoldebau iechyd, darparu'r model gofal sylfaenol i Gymru, gofal amserol, ac iechyd meddwl. Bydd gwireddu'r weledigaeth a amlinellir yn 'Cymru Iachach' yn cyflawni'r blaenoriaethau hynny ar gyfer pobl Cymru. Gan edrych i'r dyfodol, rwyf eisiau gweld y boblogaeth wrth wraidd ein systemau cynllunio integredig. Mae rhoi pobl wrth wraidd system gynllunio integredig yn elfen allweddol hanfodol i'r cynnydd rydym ni i gyd eisiau ei weld. Yn union fel y mae'r Llywodraeth hon eisiau gweld pobl yn elwa ar Gymru werddach, fwy cyfartal a mwy ffyniannus, rwyf eisiau'r un peth i'n GIG ac i'r bobl yr ydym yn eu gwasanaethu. Diolch.