Part of the debate – Senedd Cymru am 5:10 pm ar 15 Hydref 2019.
Diolch, Gweinidog, am gopi o'ch datganiad o flaen llaw. Roedd yn ddiddorol iawn clywed eich cyfeiriadau at lwyddiant y system cynllunio tymor canolig integredig. Rwy'n gwybod, yn sicr o ran nifer o sefydliadau'r GIG, y buont yn torri'r wisg yn ôl y brethyn a'u bod wedi llwyddo i ddatblygu cynlluniau tymor canolig tair blynedd sydd wedi bod ar y trywydd iawn ar y cyfan. Ond, wrth gwrs, ni ellir dweud hynny am nifer o fyrddau iechyd nad ydyn nhw eto, gwaetha'r modd, mewn cylch cynllunio tair blynedd, ac, wrth gwrs, mae'r rheini'n cynnwys Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Bwrdd Iechyd Hywel Dda a Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, ac ni chytunwyd ar unrhyw gynlluniau tymor canolig integredig ar eu cyfer mewn gwirionedd.
Mae hynny'n peri pryder imi, oherwydd, yn amlwg, mae nifer o flynyddoedd wedi mynd heibio ers yr adeg y cyflwynwyd y ddeddfwriaeth sy'n rhoi dyletswydd statudol arnyn nhw i sefydlu'r cynlluniau hynny, ac, wrth gwrs, yn sicr yn achos dau o'r byrddau iechyd hynny, maen nhw'n gwario llawer mwy na'u hincwm ac wedi gwneud hynny ers sawl blwyddyn. Credaf fod angen edrych ar allu rhai o'r byrddau iechyd hynny i ateb yr heriau ariannol y maen nhw'n eu hwynebu mewn gwirionedd. Rwy'n gwybod eich bod wedi rhoi rhywfaint o adnoddau ychwanegol i Hywel Dda nifer o flynyddoedd yn ôl, ac roedd hynny i'w groesawu'n fawr, rwy'n credu, oherwydd y diffyg strwythurol a etifeddodd y sefydliad hwnnw pan gafodd ei sefydlu. Rwy'n credu y gellir dweud yr un peth, mewn gwirionedd, am Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, ac efallai y gallech chi ddweud wrthym ni tybed a ydych chi'n ystyried gwneud yr un peth o ran y diffyg strwythurol sydd yn fy marn i wrth wraidd sefyllfa gyllid bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr i weld a oes rhywbeth y gellir ei wneud o du Llywodraeth Cymru er mwyn cynorthwyo'r bwrdd iechyd hwnnw fel na all droi ei gefn yn llwyr ar wneud dyfarniadau ariannol priodol, ond y gall ganolbwyntio'n fwy efallai ar rai o'r materion perfformiad sydd hefyd yn rhoi'r bwrdd iechyd penodol hwnnw dan warchae.
Fe wnaethoch chi gyfeirio at y ffaith nad oes dyletswydd statudol ar rai o sefydliadau'r GIG eraill hynny sydd wedi bod yn datblygu eu cynlluniau eu hunain, gan gynnwys Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru, Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru a'r Pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys. Rwy'n credu ei bod hi'n ganmoladwy iawn eu bod yn gweithio yn yr un fframwaith cynllunio â sefydliadau eraill y GIG, ond efallai y gallech chi ddweud wrthym ni a fydd gennych chi gynlluniau rywbryd yn y dyfodol i roi cyfrifoldeb statudol ar sefydliadau eraill y GIG hynny nad ydynt yn fyrddau nac yn ymddiriedolaethau, oherwydd rwy'n credu y gallai hi fod yn ddefnyddiol, mewn gwirionedd, cael y dull hwn o weithredu ar draws y GIG, fel bod pawb yn gweithio ar y cyd.
Nawr, rwy'n gwybod, yn amlwg, bod llawer o heriau o'n blaenau o hyd. Yn amlwg, rwyf wedi edrych ar y blaenoriaethau yr ydych chi wedi'u hamlinellu yn eich fframwaith cynllunio, wrth symud ymlaen. Fe wnaethoch chi sôn am weithlu'n gynharach, ac, wrth gwrs, ceir heriau enfawr o ran sicrhau bod gennym ni weithlu sy'n gallu bodloni'r gofynion a osodir arno ledled y wlad. Tybed a allech chi roi ychydig mwy o fanylion i ni am y gwaith y mae Gwella Addysg Iechyd Cymru yn ei wneud mewn gwirionedd, a sut mae hynny'n cyd-fynd â gwaith byrddau iechyd unigol i wneud yn siŵr eu bod yn cydweithio i fynd i'r afael â'r materion hyn yn ehangach.
Mae cyfalaf ac ystadau, wrth gwrs, yn bwysig iawn o ran gallu sicrhau gwelliannau ym maes gofal iechyd, ac un o'r pryderon a godir yn rheolaidd gyda mi pan fyddaf yn ymweld â gwahanol fyrddau iechyd ar draws y wlad yw'r oedi wrth wneud penderfyniadau ynghylch ystadau. Nawr, rwy'n gwybod bod gennym ni swm cyfyngedig y gallwn ei fuddsoddi mewn seilwaith cyfalaf, ond, yn amlwg, os yw llawer o'r gwelliannau mewn gofal iechyd yn gwbl gysylltiedig â buddsoddi mewn ystadau, yna rwy'n credu nad yw hi ond yn addas a phriodol bod pobl yn gallu mynd rhagddyn nhw a bwrw iddi â buddsoddi mewn adeiladau newydd, neu estyniadau, neu adnewyddu adeiladau er mwyn gwneud i'r pethau hynny ddigwydd. Efallai y gallech chi ddweud wrthym ni pa waith y mae Llywodraeth Cymru'n ei wneud er mwyn gwella'i phenderfyniadau ynghylch cyfalaf, yn y dyfodol, er mwyn inni allu gwneud penderfyniadau'n gyflymach.
Hefyd, fe wnaethoch chi gyfeirio yn eich dogfen at ofal amserol, sydd, wrth gwrs, yn bwysig iawn i gleifion ledled Cymru, fel y mae cydraddoldeb o ran gallu cael gofal ym mhob rhan o Gymru. Nawr, un peth rydym ni'n ei wybod yw y gall perfformiad amrywio'n sylweddol rhwng un bwrdd iechyd a'r llall, a hoffwn wybod i ba raddau yn y cynlluniau tair blynedd hynny, ydych chi'n disgwyl gweld rhywfaint o unioni, os mynnwch chi, lefel y perfformiad gorau ledled Cymru, a sut ydych chi'n disgwyl i'r cynlluniau hynny ddangos cynnydd mewn gwirionedd tuag at unioni o'r fath, fel nad ydym ni'n colli momentwm ar gyfer gwella yn y dyfodol.
Yn olaf, os caf i, un cwestiwn olaf, ac mae hynny'n ymwneud â'r diploma mewn cynllunio gofal iechyd. Rwy'n falch iawn o weld hynny ar gyfer y dyfodol. Yn amlwg, mae'n bwysig bod y diploma hwnnw a'r hyfforddiant yn y diploma hwnnw ar gael i bobl ym mhob rhan o Gymru. A allwch chi ddweud wrthym mi a fydd hynny'n bosib, i wneud yn siŵr y gall bobl wneud y pethau hyn ar y cyd â'u gwaith bob dydd, gan y gall hynny fod yn eithaf anodd yn aml iawn? Pa adnoddau ydych chi'n eu darparu i annog pobl i fanteisio ar y cyfle hwnnw i gael eu hyfforddi yn y modd hwnnw? Diolch.