7. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Y Wybodaeth Ddiweddaraf am Gynllunio'r GIG

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:20 pm ar 15 Hydref 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Lloyd David Lloyd Plaid Cymru 5:20, 15 Hydref 2019

(Cyfieithwyd)

A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am y datganiad ar gynllunio'r GIG? Yn amlwg, mae cynllunio'r GIG—unrhyw gynllunio yn y GIG—yn faes enfawr sy'n ymdrin â materion ar lefel ficro ac yn amlwg, ar lefel facro, y dyfodol, meddwl heb orwelion. A gaf i ddechrau yn gyntaf—? Mae'r pwynt cyntaf sydd gennyf yn ymwneud â'r academi gynllunio newydd, sy'n gysyniad rwy'n credu, i'w groesawu'n fawr o ran gwella ansawdd y cynllunio gweinyddol sy'n digwydd. Hoffwn ofyn am ychydig mwy o fanylion. Byddai rhai ohonom yn hoffi meddwl y gallwn annog a denu mwy o nyrsys a meddygon sydd â chymwysterau clinigol i fod yn weinyddwyr yn gyffredinol, ac yn enwedig pan ddaw'n fater o gynllunio gwasanaethau, oherwydd eu bod nhw'n tueddu i fod â syniad ynghylch yr hyn sydd angen ei wneud. Ond hefyd dydyn nhw ddim yn weinyddwyr, felly mae angen iddyn nhw fod yn gymwysedig hefyd. Ond o ran sut ydym ni'n mynd i ddenu mwy o weinyddwyr sydd â chymwysterau clinigol ac efallai cysyniad newydd o'u cael i gyfuno eu cyfrifoldebau clinigol â'u cyfrifoldebau gweinyddol hefyd, fel nad ydynt yn colli golwg yn llwyr ar eu problemau staffio ac adnoddau.

Mae croeso mawr i'r hyn roeddech yn ei ddweud eto am y gallu i sicrhau gofal yn nes at y cartref. Hyd yn oed gyda'r holl declynnau newydd sydd ar gael i ni, does dim byd tebyg i'r cysylltiad personol yng nghartref rhywun. Ond mae hwnnw'n gynllun gweithlu penodol yn y cymunedau. Felly, a wnewch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni am y gwaith sy'n digwydd o ran gofal sylfaenol a chefnogi'r holl bethau arloesol yr ydym ni wedi bod yn eu dweud am gael gofal yng nghartrefi pobl, yn agos at gartrefi pobl, fel y gallant aros yn y gymuned am gyhyd ag y maen nhw'n dymuno ac o bosib am byth—byth yn gorfod camu drwy ddrysau ysbyty o gwbl?

Mae'r ail bwynt yn ymwneud ag amseroedd ymateb ambiwlansys. Fel rydych chi wedi dweud, dros y blynyddoedd diwethaf, mae'r sefyllfa yn y gwasanaeth ambiwlans wedi newid, gyda'r holl gynllunio a chynllunio ar gyfer y gaeaf. Serch hynny, mae etholwyr yn dal i gysylltu â mi ynghylch oedi mawr, o ran ambiwlansys unigol yn cyrraedd achosion unigol, felly mae gwaith i'w wneud o hyd. Ond o ran cynllunio'r GIG  ar gyfer y gaeaf, fe wnaethoch chi gyhoeddi datganiad ysgrifenedig yn ddiweddar ar gynllunio ar gyfer y gaeaf o ran y gwasanaeth ambiwlans, a chadarnhau cynlluniau o ran yr adolygiad oren i gyflwyno mesurau newydd 'o'r alwad i'r drws' ar gyfer ymateb ambiwlansys i achosion o strôc yn benodol—gan siarad yn rhinwedd fy swydd yn gadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar strôc. Fel y gwyddoch chi, ymrwymodd yr adolygiad oren i fesur yr holl gyfnod gofal i gleifion, nad yw, yn amlwg, yn dod i ben wrth ddrws yr ysbyty. Nawr, rwy'n deall mai cam 1 yn unig o gyflwyno'r mesur newydd hwn yw'r mesur 'o'r alwad i'r drws', ac y bydd cam 2 yn cynnwys mesur yr amser y mae'n ei gymryd i gleifion gael triniaeth ar ôl cyrraedd yr ysbyty, oherwydd, yn amlwg, o ran strôc, mae hynny'n rheidrwydd sylfaenol. Nid yw danfon pobl at y drws yn unig yn ddigon da, mae angen i ni eu trin hefyd. Felly, a wnewch chi gadarnhau mai bwriad Llywodraeth Cymru yw gweithredu cam 1 a cham 2 y mesur newydd yn llawn er mwyn cyflawni'r ymrwymiad a geir yn yr adolygiad oren a'r agwedd ar gynllunio'r GIG sy'n ymwneud â chynllunio ar gyfer y gaeaf?

Gan aros gyda'r ambiwlansys, ond symud ymlaen at ein hambiwlansys awyr brys sy'n arwain yn fyd-eang—ein hambiwlansys awyr sy'n hedfan yn gyson. Mae hi'n briodol iawn ein bod yn dathlu—er y byddai hi, weithiau, yn fy marn i, yn briodol inni ddathlu ychydig yn fwy—gyflawniadau rhyfeddol ein hambiwlans awyr cymharol newydd, ein hofrenyddion sydd fel adrannau damweiniau ac achosion brys yn yr awyr, mewn gwirionedd. Maen nhw'n anhygoel, yn gwbl ryfeddol ac arloesol ac maen nhw'n achub bywydau nawr yn y fan a'r lle adeg damwain fawr pan nad oedd bywydau yn cael eu hachub o'r blaen, ac roedd hynny cyn lleied â phum mlynedd yn ôl. Mae ein gwasanaeth ambiwlans awyr brys wedi trawsnewid y sefyllfa'n llwyr, yn enwedig gofal iechyd gwledig, ac mewn gofal iechyd brys, nid mewn mannau anghysbell a gwledig yn unig, ond wrth gludo pobl i'r adran orau o fewn munudau. Gall hynny, o bosib, drawsnewid yn llwyr y ffordd yr ydym ni'n meddwl am gynllunio'r GIG ar lawr gwlad, mewn cysylltiad â'r berthynas â'r ddarpariaeth, dyweder, o ysbytai cyffredinol dosbarth, canolfannau trydyddol, yr hyn sydd ei angen ym mhobman, oherwydd yn aml iawn rydym yn anghofio am ein gwasanaeth ambiwlans awyr brys sy'n arwain yn fyd-eang. Mae hynny wedi'i ymgorffori weithiau yn y print mân o holl waith cynllunio'r GIG, ond rwy'n credu bod angen inni ei ddathlu gan fod hynny'n briodol a haeddiannol.

A chyda hynny, a gaf i groesawu ymrwymiad rhyfeddol staff y GIG a staff gofal cymdeithasol ar lawr gwlad i wneud yn siŵr bod cynlluniau'r GIG sydd gennym ar waith yn dwyn ffrwyth? Diolch.