7. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Y Wybodaeth Ddiweddaraf am Gynllunio'r GIG

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:25 pm ar 15 Hydref 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 5:25, 15 Hydref 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch am y pwyntiau hynny. Dechreuaf gyda'ch pwynt cyntaf am yr academi gynllunio. Mae'n cael ei datblygu ar y cyd ag Ysgol Fusnes Caerdydd ac rwy'n falch o ddweud bod y rhaglen ddysgu yn ceisio cyrraedd ystod ehangach o weithwyr proffesiynol yn y gwasanaeth iechyd gwladol.

Rwy'n credu ei bod hi'n deg nodi mai eleni yw'r flwyddyn gyntaf i ni gael clystyrau gofal sylfaenol i ddatblygu eu cynlluniau eu hunain, ac mae hynny'n gam sylweddol ymlaen mewn gwirionedd, sy'n dweud rhywbeth wrthych chi am aeddfedrwydd y clystyrau hynny, sef ei fod yn datblygu. Ond hefyd rydym ni'n disgwyl y bydd cynnwys y cynlluniau hynny'n amrywio. Bydd rhywfaint o hynny yn ymwneud â deall anghenion y boblogaeth leol; bydd rhywfaint o hynny'n ymwneud â'r gwahanol raddau o aeddfedrwydd a'r gallu i ragweld a chynllunio ar gyfer y dyfodol. Ond rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn mai dyma oedd y cam nesaf yn natblygiad clystyrau, ond yn yr un modd byddant yn sail iddyn nhw, ac maen nhw'n cael eu darparu nawr i helpu i lywio cynlluniau tymor canolig integredig ar lefel y byrddau iechyd hefyd, yn hytrach na cheisio eu gwneud ar adegau hollol wahanol. Byddai wedi bod yn wirion beth bynnag pe byddai gennych chi gynllun tymor canolig integredig clwstwr ar ôl i'r bwrdd iechyd gyhoeddi eisoes yr hyn y dywedodd y byddai'n ei wneud dros y tair blynedd nesaf. Felly, rydym yn ceisio sicrhau bod ein system mewn trefn ddilyniannol gywir er mwyn manteisio ar hynny a gweld y gwelliant y bydd ei angen arnom ni ac yr ydym ni eisiau ei wneud.

O ran eich pwynt am yr adolygiad oren, rwyf wedi ymrwymo i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau am y cynnydd a wnaed o ran yr adolygiad oren, a bydd hynny'n cynnwys y gwaith anorffenedig sy'n digwydd gyda rhanddeiliaid ynghylch mesurau sy'n ymwneud ag unedau strôc. Nid yw'n gyflawn, ond rwy'n fodlon sicrhau fy mod yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau pan fydd diweddariad priodol i'w roi. Felly, yn sicr, nid yw wedi ei anghofio nac wedi ei roi o'r neilltu.

Rwyf wrth fy modd eich bod wedi sôn am yr hyn a alwyd ar y dechrau, am gyfnod, yn wasanaeth meddygon awyr Cymru. Wrth gwrs, mae'n fwy na meddygon yn unig. Mae gennym ni amrywiaeth o wahanol weithwyr proffesiynol sy'n hedfan mewn hofrenyddion, ond hefyd rydym ni'n defnyddio rhai o'r cerbydau sy'n addas ar gyfer pob math o dir ar gyfer y gwasanaeth adalw meddygol brys. Ac mae wedi bod yn llwyddiant gwirioneddol. Mae wedi ein helpu i recriwtio a chadw staff yma yng Nghymru. Mae pobl wedi gwneud cam pendant i ddod yma i Gymru oherwydd y gwasanaeth hwnnw. Rwyf wedi cwrdd â nifer o'r bobl hynny na fydden nhw yma fel arall. Ac mae'n ddefnyddiol o safbwynt ymchwil a gwella beth bynnag o ran ein gallu i elwa ar ofal brys yn benodol. Ond rwy'n credu bod y pwynt a wnewch chi yn ymwneud â gallu cael gofal gwell ynghynt, oherwydd nid yw'n ymwneud â chael llawer o declynnau'n unig, mae'n ymwneud â chludo pobl i'r man lle ceir y gofal cywir, cael y gofal cywir i ddechrau ac yna eu cludo i ble mae'r gofal cywir, boed hynny'n ysbyty cyffredinol dosbarth neu'n ganolfan drydyddol, neu Treforys os oes ar rywun angen yr uned losgiadau, neu yn wir yn y dyfodol pan fydd angen cludo pobl i'r ganolfan trawma mawr sy'n cael ei datblygu yng Nghaerdydd. Felly, mae hynny'n sicr yn rhan o'r cynllunio sydd eisoes yn digwydd, ac rwyf wrth fy modd eich bod wedi crybwyll y stori o lwyddiant gwirioneddol y dylai GIG Cymru yn bendant ei dathlu.