Part of the debate – Senedd Cymru am 5:31 pm ar 15 Hydref 2019.
Diolch am y cwestiynau yna. Yn sicr, o ran eich pwynt olaf ynghylch sut y byddwn yn cynllunio ar gyfer y dyfodol, dyna ran o'r rheswm pam y gwnaethom ni greu Addysg a Gwella Iechyd Cymru. Mae'n gorff strategol i helpu i ragweld anghenion y gweithlu ac i lunio'r cynllun gweithlu cenedlaethol hwnnw y cyfeiriais ato'n gynharach. A'r ffordd y maen nhw'n gweithio ar y cyd â Gofal Cymdeithasol Cymru—. Oherwydd bob tro y cawn ni her ynghylch pwysau ar wasanaethau yn y Siambr hon, siaradwn yn rheolaidd am y staff a'r staff sydd eu hangen arnom ni, ac mae cydnabyddiaeth gymysg o'r ffaith na allwn ni bob amser recriwtio staff, yn sicr o fewn y DU, i lenwi pob un o'r bylchau hynny. Mae'n ymwneud yn rhannol â chynllunio ar gyfer ein gweithlu yn y dyfodol, deall ble a sut y byddwn yn gallu recriwtio o fewn y DU, o fewn Ewrop a'r heriau yn sgil Brexit, a'r byd ehangach hefyd.
Mae hynny'n mynd law yn llaw â'n cynllunio i gynyddu ein lleoedd hyfforddi. Yn y ddwy flynedd ddiwethaf, rwyf wedi cymeradwyo, hyd yn oed mewn cyfnod anodd iawn, cynnydd gwirioneddol mewn hyfforddiant gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, a chlywsom yn gynharach heddiw bod mwy o leoedd hyfforddi meddygon teulu ac eraill hefyd. Ac mae hynny'n arwain at yr ail bwynt ynghylch yr heriau o ran lle mae byrddau iechyd yn gweithredu'n unigol ond lle rydym ni wedi deall bod angen i ni weithredu'n genedlaethol er mwyn cyflawni'r enillion mwyaf. Felly bu ein hymgyrch 'Hyfforddi. Gweithio. Byw' yn enghraifft dda o gael dull gweithredu cenedlaethol y mae byrddau iechyd i gyd wedi'i ddefnyddio—nid dim ond y brandio cyffredin ac nid y negeseuon cyffredin yn unig, ond sut yr awn ati i wneud hynny, cael canolbwynt cenedlaethol ar gyfer amrywiaeth o'r meysydd hynny, a bu hynny'n llwyddiannus, yn enwedig o ran recriwtio meddygon teulu. Rydym hefyd wedi lansio—[Anghlywadwy.]—bydwreigiaeth i ddilyn nyrsio a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill hefyd. Felly, rydym ni'n dysgu o ble y buom ni'n llwyddiannus o ran yr ymgyrch honno'n ddiweddar ac, yn yr un modd, lle'r ydym ni'n gwybod bod mwy i ni ei wneud o hyd.
O ran eich pwynt am integreiddio cynllunio ar draws y gwasanaeth iechyd a chyda gwasanaethau eraill, eich pwynt yn arbennig am ambiwlansys a'r heriau, mae hwn yn fater ar gyfer y system yn ei chyfanrwydd—pobl y mae angen iddyn nhw fod mewn ambiwlans a phobl nad oes angen iddyn nhw fod mewn ambiwlans. Ar ôl cyrraedd drws blaen adran achosion brys, mae'n anodd iawn eu rhyddhau. Mae ambiwlansys yn cael eu cadw yno ac yn aros yn rhy hir, a'r hyn y mae hynny'n ei olygu i bobl sy'n abl yn feddygol yn yr ysbyty, ble bynnag y mae hwnnw, y gellid ac y dylid eu rhyddhau a'u helpu i ddychwelyd i'w cartrefi eu hunain. Mae hynny'n rhannol o fewn pŵer y gwasanaeth iechyd. Nid yw pob un person sy'n abl yn feddygol yn aros am ofal cymdeithasol, ond rydym ni yn cydnabod bod hynny, yn bwysig iawn, yn ymwneud â'r bartneriaeth rhwng gofal iechyd a gofal cymdeithasol i wneud yn siŵr bod pobl yn cael yr un sgwrs a dull o weithredu mwy integredig. Mae hynny'n sail i'n cronfa weddnewid a'n dull o weithredu, wrth gwrs, hefyd.
Ac rwy'n credu bod hynny'n ein harwain at y pwynt a wnaethoch chi am heriau'r dyfodol. Wel, mae heriau'r dyfodol eisoes yn ein hwynebu heddiw. Nid yw teleofal a gofal sydd wedi'i alluogi gan dechnoleg yn ymwneud mewn gwirionedd â'r ffordd o ddarparu gofal iechyd yn y dyfodol—mae hynny'n digwydd eisoes heddiw. Yr her i ni yw sut y gallwn ni fanteisio arnyn nhw i ddarparu'n llawer mwy cyson ledled y wlad. Nid ydyn nhw ar gyfer rhannau gwledig o'r wlad yn unig, ond ar gyfer pob un rhan o'r wlad i wella argaeledd a phrofiad. Ac rydym ni eisoes yn ystyried, er enghraifft, sut y bydd meddygaeth fanwl yn newid y ffordd y mae angen i ni gynllunio ar gyfer y gwasanaeth. Efallai'n wir fod gennym ni feddyginiaethau newydd drud y gallwn ni eu cael i'n system drwy'r gronfa triniaethau newydd, ond er hynny, gallem gael meddyginiaethau newydd drud ar gost gychwynnol lawer mwy sylweddol a allai yn wirioneddol wella pobl, a byddai honno'n sgwrs wahanol iawn ynglŷn â rhoi mwy o bwyslais ar gamau rhagarweiniol y buddsoddiad yr ydych chi'n ei wneud i allu gwella pobl, beth bynnag fo'r amgylchiadau.
Rwy'n cydnabod eich pwynt ynglŷn â chyflwyno 111, ond mae angen imi ymateb a dweud nad oeddem ni wedi cyflwyno 111 yr un pryd â Lloegr. Bu iddyn nhw weithredu'n gyflym iawn yn genedlaethol, ac roedd ganddyn nhw lawer iawn o broblemau yn Lloegr o ganlyniad i hynny—modelau gwahanol iawn, ac roedd hi'n broblem wirioneddol fawr mewn rhannau helaeth o'r system gofal iechyd i staff a'r cyhoedd. Yn fwriadol fe wnaethom ni gymryd mwy o amser i ddeall y model sydd arnom ni ei eisiau, a'r rheswm pam nad yw'n cael ei gyflwyno ar ras wyllt ar draws y gwasanaeth iechyd yw oherwydd ein bod wedi cymryd o ddifrif y gallu i gael y staff priodol yn y lle priodol ar yr adeg briodol i gyflawni'r gwasanaeth priodol, oherwydd, fel arall, ni fyddem yn gwneud dim mwy nag ailadrodd y camgymeriadau a wnaethpwyd yn Lloegr, ac nid wyf yn barod i wneud hynny.
Felly, yn olaf, rydym yn sicr yn cymryd safbwynt hirdymor. Wrth gwrs, mae gennym ni gynllun hirdymor yng Nghymru—a elwir yn 'Cymru Iachach'. Mae'n gynllun ar y cyd ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol yn ei gyfanrwydd, a bydd cynllunio'n fwy effeithiol yn caniatáu i ni wireddu'r weledigaeth a gyflwynais ger eich bron fwy na blwyddyn yn ôl.