7. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Y Wybodaeth Ddiweddaraf am Gynllunio'r GIG

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:28 pm ar 15 Hydref 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Caroline Jones Caroline Jones UKIP 5:28, 15 Hydref 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch am eich datganiad, Gweinidog. Fe hoffwn i hefyd ddiolch i'r holl staff yn y GIG sy'n gweithio o dan amodau anodd i gyflawni eu dyletswyddau. Er mwyn sicrhau bod ein GIG yn goroesi'r heriau hirdymor y mae'n eu hwynebu, mae angen inni weithredu cynllunio tymor hir ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, a bu'r cynllunio  hyd yn hyn, mae'n ddrwg gennyf ddweud, yn dameidiog. Nid yw cynllunio priodol yn golygu gosod cynlluniau ariannol am flwyddyn neu ddwy yn unig, mae angen i ni graffu ar y gorwel yn fanwl i ganfod unrhyw ddatblygiadau a heriau yn y dyfodol. Mae angen inni ystyried y system gyfan wrth gynllunio'r gweithlu mewn modd sy'n rhagweld newidiadau demograffig yn y dyfodol, datblygiadau mewn meddyginiaethau a thechnoleg iechyd, ac sy'n darparu gweithlu sydd â'r sgiliau cywir i fynd i'r afael â'r holl heriau hyn.

Rwy'n croesawu'r cyfle i bobl astudio ar gyfer y diploma, oherwydd mae annog pobl sy'n cymryd rhan yn gwneud iddyn nhw deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, a bydd hyn, drwy fuddsoddi yn eu dyfodol, yn rhoi balchder iddyn nhw barhau a gobeithio, cael gyrfa hir gyda'r GIG.

Mae'n rhaid i ni hefyd sicrhau nad yw atebion i fynd i'r afael â'r heriau hyn yn cymryd blynyddoedd i'w gweithredu. Er enghraifft, cynhaliwyd y gwasanaeth chwyldroadol 111 yn fy rhanbarth i, cafodd ei dreialu tua thair blynedd yn ôl bellach, ond ni chaiff ei gyflwyno ledled Cymru am ddwy flynedd arall. Rwy'n credu bod hyn yn eithaf rhwystredig gan ei fod yn drefniant llwyddiannus yma. Felly, pan fyddwn yn cynllunio gwelliannau i wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, ni ddylai gymryd chwe blynedd i'w gweithredu, pan fo cydnabyddiaeth eu bod eisoes yn arferion da. 

Felly mae angen gwneud llawer o waith hefyd ar amseroedd ymateb ambiwlansys, gan fod llawer o bobl yn cysylltu â mi ynghylch yr amseroedd ymateb hyn a hefyd faint o amser y mae'n ei gymryd i glaf, ar ôl ei dderbyn i'r ysbyty, gael gwely ar ward yn y pen draw. Mae'n 10 i 14 awr o fod mewn ward ochr. Felly, Gweinidog, sut bydd eich academi gynllunio yn sicrhau rhagweld heriau'r dyfodol, a sut fyddwch chi'n sicrhau y bydd yr holl heriau hyn yn cael eu gwireddu hyd eithaf eu gallu?

Hefyd, pa ran fydd gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru i'w chwarae o ran sicrhau bod gennym ni niferoedd digonol o bobl ifanc yn astudio ar gyfer gyrfa ym maes iechyd a gofal cymdeithasol yn y dyfodol? Beth mwy gellir ei wneud i helpu byrddau iechyd hefyd sy'n tanberfformio ar hyn o bryd ac sy'n wynebu heriau ariannol? Sut gallwn ni gael y byrddau iechyd sydd ag arferion gorau i feithrin y rhai nad ydyn nhw'n cyflawni eu huchelgeisiau ar hyn o bryd? Pa mor dda y mae arferion gorau yn cael eu rhannu?

Ac yn olaf, Gweinidog, gyda'r holl elfennau amrywiol sy'n gysylltiedig â darparu'r gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol, sut fyddwch chi'n sicrhau bod gennym ni system hyfforddi hyblyg, addasadwy sy'n cynllunio ar gyfer y dyfodol wrth wynebu, yn amlwg, heriau sylweddol y cyfnod hwn? Diolch.