Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 1:36 pm ar 16 Hydref 2019.
Diolch, Weinidog. Yn amlwg, ers i’r Llywodraeth ddatgan argyfwng hinsawdd, yn ôl ym mis Ebrill, rhywbeth a gymeradwywyd yn llawn gan holl Aelodau’r Cynulliad bron iawn, sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu asesu’r gyllideb sydd ar y ffordd yng nghyd-destun yr argyfwng hinsawdd a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015? A pha ddadansoddiad sy'n cael ei wneud o effaith penderfyniadau ynglŷn â'r gyllideb ar ein nod o gyflawni statws di-garbon?