Y Bortffolio Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 1:32 pm ar 16 Hydref 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mohammad Asghar Mohammad Asghar Conservative 1:32, 16 Hydref 2019

(Cyfieithwyd)

Weinidog, o'r 45,000 o bobl sy'n dioddef o ddementia, mae 17,000 o bobl yn byw mewn ardal wledig. Mae pobl â dementia sy'n byw mewn ardaloedd gwledig yn wynebu heriau ychwanegol, megis cysylltiadau trafnidiaeth gwael sy'n ei gwneud hi'n anos cael mynediad at gymorth, gofalwyr yn teimlo'n fwy ynysig a heb gefnogaeth, ac yn olaf, y ffaith bod gwasanaethau cymorth yn llai tebygol o fod ar gael. Mae honno'n senario drist i'r bobl hynny. Weinidog, pa ystyriaeth a roddwyd i anghenion pobl sy'n dioddef o ddementia ac sy'n byw mewn ardaloedd gwledig yng Nghymru wrth ddyrannu'r gyllideb i'r portffolio iechyd a gofal cymdeithasol?