Y Bortffolio Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 1:34 pm ar 16 Hydref 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Lloyd David Lloyd Plaid Cymru 1:34, 16 Hydref 2019

Rydym yn clywed bod staff rheng flaen ym maes gofal cymdeithasol yn poeni bod toriadau i gymorth cymdeithasol yn tanseilio annibyniaeth a lles pobl anabl yn gorfforol ac yn feddyliol. Nawr, mae llymder yn golygu bod pecynnau gofal yn cael eu lleihau i'r tasgau mwyaf sylfaenol, ac mae gweithwyr cymdeithasol yn gorfod brwydro am gyllid i gefnogi anghenion cymdeithasol a chymunedol pobl. A ydych chi yn derbyn, felly, fod y diffyg cyllid a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru i awdurdodau lleol yn ystod y blynyddoedd diwethaf yma wedi cyfrannu at y sefyllfa yma, sy'n effeithio ar ein pobl fwyaf bregus ni? A pha drafodaethau ydych chi'n eu cael â'ch cyd-Weinidogion i gywiro'r sefyllfa?