Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:02 pm ar 16 Hydref 2019.
Fel y gwyddoch, mae'r Gorchymyn ardrethu annomestig yn nodi'r telerau rydych newydd eu disgrifio—ar gael i'w osod am 140 diwrnod, wedi'i osod am 70 diwrnod—er mwyn bod yn fusnes hunanddarpar. Ac fe gyfeirioch chi at y rôl y mae Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn ei chwarae fel ceidwad y porth a'r ddogfennaeth sy'n ofynnol ganddynt, a'u bod wedi ymchwilio i ychydig o achosion a gyfeiriwyd atynt gan Gwynedd. Ond pa larymau sydd ar waith o fewn y system i sicrhau bod y swyddfa brisio yn ymchwilio ac yn gwirio sampl, o leiaf, o eiddo hunanddarpar honedig fel mater o drefn er mwyn sicrhau eu bod yn rhai dilys, gan gydnabod hefyd fod y telerau a roddwyd ar waith gan Lywodraeth Cymru yn gyfaddawd gyda'r diwydiant i amddiffyn busnesau cyfreithlon?