Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 1:58 pm ar 16 Hydref 2019.
Bydd yn rhaid i awdurdodau lleol gyfiawnhau eu penderfyniadau gwario eu hunain i'w hetholwyr lleol. Felly, ar gyfer yr enghreifftiau a roesoch yn Sir Fynwy, mater i'r etholwyr lleol fyddai archwilio, neu benderfynu mewn gwirionedd a ydynt yn gyfforddus â'r penderfyniadau y mae awdurdodau lleol yn eu gwneud. Ond o ran effaith gyffredinol y penderfyniad hwn ar awdurdodau lleol yng Nghymru, wrth gwrs, bydd y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol a minnau’n cyfarfod eto gyda’r is-grŵp cyllid, fel y gwnawn yn rheolaidd, felly bydd hon yn eitem y gallwn ei harchwilio gyda hwy. Ac rwy'n fwy na pharod i anfon mwy o wybodaeth atoch am y canllawiau rydym ni, drwy'r Gweinidog llywodraeth leol, yn eu rhoi i awdurdodau lleol ar fenthyca.