1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 1:42 pm ar 16 Hydref 2019.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Nick Ramsay.
Diolch, Llywydd. Prynhawn da, Gweinidog.
Sut y gallwn ddisgwyl gweld yr arian ychwanegol ar gyfer Llywodraeth Cymru, sy'n deillio o'r adolygiad diweddar o wariant gan Lywodraeth y DU, yn sicrhau manteision i Gymru yng nghyllideb Llywodraeth Cymru sydd ar y ffordd?
Diolch. Wel, rydym eisoes wedi nodi yn y datganiad a wneuthum ar yr adolygiad o wariant y bydd y GIG yng Nghymru yn parhau i fod yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru er mwyn sicrhau bod gan bobl fynediad at ofal iechyd rhagorol lle bynnag y maent yn byw yng Nghymru. Ond ochr yn ochr â hynny, rydym yn awyddus iawn i sicrhau bod llywodraeth leol yn cael y setliad gorau posibl am lawer o'r rhesymau rydym eisoes wedi'u trafod y prynhawn yma—felly, pwysigrwydd gofal cymdeithasol, er enghraifft, a phwysigrwydd yr holl wasanaethau sy'n cynnal ein cymunedau.
Felly, dyna ein dau faes blaenoriaeth, ond cefais drafodaethau gyda'r holl Weinidogion ar draws y Llywodraeth i archwilio sut y gallwn eu cynorthwyo gyda'r pwysau sy'n eu hwynebu. Oherwydd, fel y gwyddoch, un o'r meysydd gwariant mwyaf—oddeutu 50 y cant o gyllideb Llywodraeth Cymru—yw talu cyflogau. Ac mae'n wych gweld codiadau cyflog, ond os nad yw'r cyllid ychwanegol yn dod yn llawn gan Lywodraeth y DU, sydd heb ddigwydd, yna mae hynny'n rhoi mwy o bwysau ar Lywodraeth Cymru.
Ond rydym wedi bod yn edrych ar draws y Llywodraeth hefyd, drwy lens yr wyth maes blaenoriaeth, i archwilio meysydd lle y gallwn wneud ymrwymiadau cyllido newydd ac ychwanegol o bosibl a fydd yn gallu gwneud gwahaniaeth yn yr wyth maes penodol hynny a nodwyd gennym fel y rhai a allai gael yr effaith fwyaf ar bobl yng Nghymru.
Diolch, Weinidog, rwy'n sylweddoli ei bod yn ddyddiau cynnar ac edrychaf ymlaen at graffu arnoch yn y Pwyllgor Cyllid, gyda fy nghyd-Aelodau hefyd, mewn perthynas â'r gyllideb. Rydych newydd ddweud eich bod yn brin o arian neu nad ydych wedi derbyn arian gan Lywodraeth y DU, ond fel y byddech yn cydnabod rwy'n siŵr, bydd cyllideb adnodd Llywodraeth Cymru yn cynyddu mwy na £485 miliwn yn 2019-20, a bydd y gyllideb gyfalaf hefyd yn cynyddu bron i £70 miliwn yn 2020-21. Felly, er nad ydych wedi derbyn yr arian hwnnw heddiw efallai, fel y mae pethau, mae'n sicr wedi'i glustnodi ar gyfer y sefydliad hwn. Felly, hoffwn glywed gennych beth y bwriadwch ei wneud ag ef er mwyn gwneud defnydd da ohono.
Fe sonioch chi am lywodraeth leol. Rwy'n sylweddoli bod cyllidebau awdurdodau lleol wedi bod dan bwysau, fel y dywedoch chi eich hun. Yn ddiweddar, mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi adrodd bod cyllid grant craidd wedi gostwng 20 y cant ar ôl addasu ar gyfer chwyddiant yn 2019-20. Os nad ydych yn cynnwys cyllid ysgolion, fel sy'n digwydd mewn llywodraeth leol yn Lloegr, mae cyllid craidd hyd yn oed yn is na hynny, felly yn amlwg, mae cyllidebau awdurdodau lleol dan bwysau. Sut rydych chi'n cynllunio, yn eich cyllideb, er mwyn ceisio rhoi peth o'r arian nad ydynt wedi bod yn ei gael i lywodraeth leol, fel bod ganddynt yr arian hollbwysig hwnnw ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus yn lleol yng Nghymru?
Wel, credaf ei bod yn bwysig myfyrio ar y rhesymau pam fod llywodraeth leol wedi bod yn ei chael hi'n anodd dros y blynyddoedd diwethaf, ac mae hynny i raddau helaeth oherwydd y ffaith bod eu cyllidebau wedi bod yn gostwng wrth i gyllideb Llywodraeth Cymru ostwng. Y llynedd, cafwyd cyllid a oedd yn llai o lawer na'r cyllid y byddent wedi’i gael hyd yn oed 10 mlynedd ynghynt, felly credaf ei bod yn bwysig myfyrio ar yr anawsterau yn hynny o beth. Credaf ei bod hefyd yn bwysig cofio, er bod fformiwla Barnett yn rhoi arian, ei bod hefyd yn cymryd arian oddi wrthym, a dyma un o'r materion rydym yn ceisio mynd i'r afael â hwy ar hyn o bryd, o ran y cylchoedd gwario diweddaraf. Felly, cafwyd addasiad negyddol o oddeutu £180 miliwn gan Lywodraeth y DU. Nawr, gallwn ddeall oddeutu hanner hynny, ond mae swm sy'n weddill, o £90 miliwn, na allwn ei egluro. Felly, rydym yn cael trafodaethau gyda Llywodraeth y DU i archwilio a allwn gael atebion i hynny. Ond os na chawn ateb, yn amlwg, bydd yn rhaid i ni gyflwyno dadl ar hynny yng Nghyd-bwyllgor y Gweinidogion.
Wel, rwy'n gweld beth a olygwch pan ddywedwch fod y Barnett yn rhoi arian ac yn ei gymryd—mae hwnnw'n ymadrodd da mewn sawl ffordd. Ddoe cefais ddogfen —'Diwygio ein hundeb', a grybwyllwyd yn natganiad y Prif Weinidog—ac mae'n cynnwys adran ddiddorol ar gyllid yma lle mae'r Prif Weinidog neu Lywodraeth Cymru yn cydnabod bod cyllid gwaelodol Holtham—y fframwaith cyllidol a ddeilliodd o'r trafodaethau hynny—wedi bod yn cyflawni dros Gymru mewn gwirionedd, ac rydym yn derbyn mwy am bob punt yng Nghymru bellach o ganlyniad i hynny. Credaf y gallwch gadarnhau bod hynny'n £1.05 am bob punt yn wreiddiol, gan godi i £1.15. Felly, mae'r arian hwnnw'n dod inni, Weinidog. Felly, roeddwn ychydig yn siomedig â'ch ateb pan ddywedoch fod cyllid awdurdodau lleol wedi bod yn gostwng gyda chyllid Llywodraeth Cymru, oherwydd yn sicr, nid yw hynny'n wir ar hyn o bryd.
Os caf ehangu ychydig ar hynny i sôn am y fformiwla ariannu, a grybwyllais ynghynt, ac a gaf fi wneud apêl arall? Oherwydd os edrychwch yn fanwl ar gyllid awdurdodau lleol ledled Cymru, mae'n amlwg fod awdurdodau gwledig wedi'i chael hi'n arbennig o wael dros y blynyddoedd diwethaf. Felly, pan ddywedwch wrthym eich bod yn awyddus i roi arian tuag at wasanaethau cymdeithasol ac arian tuag at awdurdodau lleol yn y dyfodol, a allwch warantu y bydd y gacen honno'n cael ei rhannu'n deg ac y bydd cyllidebau awdurdodau lleol ledled Cymru, mewn ardaloedd gwledig, hefyd yn cael bargen well na'r hyn y maent wedi'i gael yn y gorffennol, fel bod cyllidebau yng Nghymru yn y dyfodol ar gyfer awdurdodau lleol yn decach nag y buont yn y gorffennol?
Wel, mae'r Gweinidog llywodraeth leol wedi dweud yn glir iawn wrth awdurdodau lleol ei bod hithau a minnau yn agored iawn i drafodaethau os oes gan awdurdodau lleol ffordd well o ddosbarthu'r cyllid a roddir i awdurdodau lleol. Ac yn amlwg, mae'r fformiwla ariannu fel y mae yn ystyried ystod eang o bethau—ac mae gwledigrwydd yn un ohonynt. Ond rydym wedi dweud yn glir iawn: os oes ffyrdd i lywodraeth leol ddod i gonsensws ynglŷn â beth y dylai'r newidiadau fod, byddem yn fwy na pharod i edrych ar y newidiadau hynny. Ond rydym yn awyddus, fel y dywedaf, i sicrhau bod awdurdodau lleol yn cael y setliad gorau posibl ynghanol yr holl heriau sy'n ein hwynebu.
Llefarydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth.
Diolch, Llywydd. A wnaiff y Gweinidog grynhoi'r prif ffactorau a gwerthoedd sy'n penderfynu beth ydy blaenoriaethau cyllidol Llywodraeth Cymru?
Diolch yn fawr iawn. Gellir gweld y prif ffactorau a'r blaenoriaethau sy'n pennu blaenoriaethau Llywodraeth Cymru yn ein rhaglen lywodraethu, ac fel rwy'n dweud, rydym yn edrych drwy'r gyllideb benodol hon, drwy lens yr wyth maes blaenoriaeth a nodwyd gan Lywodraeth Cymru fel y rhai, os gallwn weithio'n agosach ac mewn ffordd fwy cydgysylltiedig ar draws y Llywodraeth, a all sicrhau y gallwn gael yr effaith fwyaf ar fywydau pobl. Felly, maent yn cynnwys pethau fel tai, y blynyddoedd cynnar, gofal cymdeithasol, bioamrywiaeth, datgarboneiddio, cyflogaeth a sgiliau ac ati. Felly, dyna'r meysydd a nodwyd gennym fel y ffyrdd allweddol y gallwn wneud gwahaniaeth. Ond fel Cabinet, rydym wedi penderfynu y bydd iechyd yn parhau i fod yn flaenoriaeth i ni yn y gyllideb nesaf hon, ac unwaith eto, fel y dywedais, rhoi’r setliad gorau posibl i awdurdodau lleol.
Diolch am y sylwadau yna, ac yn cyfeirio at y rhes o werthoedd y gwnaethoch chi eu crybwyll, dwi'n meddwl y gallem ni gytuno y byddai'r rheini'n cael eu rhoi o dan y label 'llesiant', o bosib, a dwi'n croesawu'r sylwadau yn hynny o beth.
A gaf i ddyfynnu i chi gan yr economegydd Joseph Stiglitz a ddywedodd y llynedd:
Os ydym yn canolbwyntio ar les materol yn unig—ar gynhyrchu nwyddau, er enghraifft, yn hytrach nag ar iechyd, addysg a'r amgylchedd—cawn ein gwyrdroi yn yr un ffordd ag y mae'r mesurau hyn wedi'u gwyrdroi; rydym yn dod yn fwy materol... Os ydym am roi pobl yn gyntaf, mae'n rhaid i ni wybod beth sy'n bwysig iddynt, beth sy'n gwella eu lles a sut y gallwn ddarparu mwy o beth bynnag sy'n gwneud hynny.
Dwi'n meddwl eich bod chi'n cytuno efo'r math yna o sylw. Mae llesiant pobl yn bwysig i ni. Yn enwog erbyn hyn, mae Seland Newydd wedi cyflwyno dull newydd o gyllido yn canolbwyntio'n benodol ar geisio delifro ar gyfer yr hyn sy'n bwysig i lesiant pobl. Yn agosach at adre, mae Llywodraeth yr Alban hefyd yn mesur ei chyraeddiadau a'i pherfformiad drwy national outcomes, efo pwysau statudol yn cael ei roi i'r rheini drwy'r Community Empowerment (Scotland) Act 2015.
Allwch chi, fel Gweinidog, gadarnhau i fi os oes cais wedi cael ei roi, neu wahoddiad wedi cael ei roi, i Lywodraeth Cymru i ymuno â chynghrair llesiant rhyngwladol, lle mae nifer o wledydd yn gweithio efo'i gilydd i ddatblygu'r union fath o gyllidebau llesiant yma dwi wedi crybwyll yn yr Alban a Seland Newydd?
Diolch yn fawr iawn. Rwy'n gyfarwydd â'r sefyllfa yn Seland Newydd, ac mae swyddogion Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio'n agos gyda swyddogion o Seland Newydd i ddeall eu dulliau ei gilydd yn well, oherwydd, mewn gwirionedd, mae llawer o'r pethau yn null Seland Newydd o bennu cyllidebau wedi'u hymgorffori yn ein hymagwedd at ddeddfwriaeth Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Felly, credaf fod llawer o ddrychau yn hynny o beth.
Ac o ran yr Alban a’u dull o fesur llesiant, wel, mae gennym ni, wrth gwrs, ein dangosyddion cenedlaethol, sy’n deillio o Ddeddf llesiant cenedlaethau’r dyfodol. Felly, unwaith eto, credaf fod llawer o synergedd yma, ac wrth gwrs, rydym yn agored i ddysgu gan wledydd eraill a rhannu ein harferion gorau hefyd.
O ran y rhwydwaith a'r sefydliad penodol y cyfeirioch chi atynt, nid wyf yn ymwybodol o unrhyw wahoddiad, ond nid yw hynny'n golygu nad oes un wedi'i roi. Byddaf yn sicr yn edrych ar hynny, oherwydd, fel rwy'n dweud, rydym yn awyddus i ddysgu gan eraill.
Diolch. Deallaf fod gwahoddiad wedi'i roi a bod Llywodraeth Cymru wedi gwrthod y gwahoddiad i ymuno â'r gynghrair llesiant hon. Rwyf am ysgrifennu atoch fel Gweinidog i rannu mwy o wybodaeth am hynny. Ac os yw'n wir, credaf fod hynny'n siomedig. Mae gennym Ddeddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol, ond ni allwn ddibynnu ar honno.
Credaf i chi ddweud ychydig wythnosau yn ôl, yn y Pwyllgor Cyllid, fod addasiadau cyllidebol bob amser yn cael eu gwneud yng nghyd-destun Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol. Credaf mai'r ymateb a gafwyd gan un cyn-Weinidog, Alun Davies, oedd ei fod wedi cymryd rhan mewn sgyrsiau ynglŷn â rhai o'r addasiadau hynny ac nad yw'n cofio unrhyw sgyrsiau am Ddeddf cenedlaethau'r dyfodol na 'Ffyniant i Bawb' yn unrhyw un o'r sgyrsiau hynny. Felly, mae cwestiynau gwirioneddol i'w gofyn ynglŷn â'r hyn sy'n digwydd ar lawr gwlad mewn gwirionedd. Gan ein bod ni ym Mhlaid Cymru wedi dweud y byddem, fel Llywodraeth, yn awyddus i ymuno â'r math o gynghrair o Lywodraethau cyllideb llesiant y soniais amdani, a fyddech yn cytuno y byddai Llywodraeth Cymru yn colli cyfle pe na bai'n manteisio ar bob cyfle i ddysgu gan eraill wrth roi'r math o gyllidebau ar waith sydd mewn gwirionedd yn gweithio tuag at wella llesiant pobl Cymru?
Wel, fel y dywedaf, fe edrychaf ar yr achos penodol hwnnw ynglŷn â'r rhwydwaith y cyfeiriwch ato.FootnoteLink Fel y dywedaf, nid yw'n rhywbeth a gafodd ei ddwyn i fy sylw, ond mae Llywodraeth Cymru yn arbennig o awyddus i gymryd rhan mewn rhwydweithiau a dysgu gan eraill, yn enwedig ar hyn o bryd yng nghyd-destun Brexit, wrth gwrs, gan fod ein cysylltiadau rhyngwladol mor bwysig ag erioed o ran gallu dangos beth a wnawn yng Nghymru a'r gwerthoedd sydd gennym yma yng Nghymru, gwerthoedd a rennir gan lawer ledled y byd yn fy marn i, ac o ran dysgu gan eraill hefyd, oherwydd yn sicr, nid oes monopoli gennym ar syniadau da.
Llefarydd Plaid Brexit, Mark Reckless.
Diolch, Lywydd. Weinidog Cyllid, rydych yn disgrifio'r cynnydd yng nghyfraddau llog y Bwrdd Benthyciadau Gwaith Cyhoeddus fel cam yn ôl. Wrth wneud hynny, a oeddech yn adlewyrchu'r datganiad i'r wasg gan y Trysorlys, a ddywedai, drwy gynyddu'r gorswm ar fenthyciadau newydd 100 pwynt sylfaen, ei fod yn adfer cyfraddau llog i'r lefelau a oedd ar gael yn 2018? Ac a fyddech yn cytuno â fy asesiad fod y Trysorlys yn awyddus i ffrwyno nifer go helaeth o gynghorau lleol? Rwy'n ymwybodol o rai ohonynt dros y ffin yn Lloegr sydd wedi bod yn adeiladu portffolios sylweddol iawn o eiddo masnachol, weithiau y tu hwnt i ffiniau eu hardaloedd cyngor, ac weithiau'n talu symiau sylweddol iawn am eiddo manwerthu sydd wedi bod yn amhoblogaidd ar y farchnad fasnachol. Ac un enghraifft: benthycodd Cyngor Bwrdeistref Spelthorne £405 miliwn gan y Bwrdd Benthyciadau Gwaith Cyhoeddus er mwyn prynu canolfan ymchwil fyd-eang BP. Ac a yw hyn yn adlewyrchu'r raddfa fwy o gyni y mae awdurdodau lleol Lloegr wedi'i gweld yn gyffredinol? Er enghraifft, yn Spelthorne, £22 miliwn yn unig yw eu cyllideb gyffredinol, ac eto mae'r £405 miliwn hwn sawl gwaith yn fwy na hynny, a chredaf eu bod yn disgwyl, eleni, cael £10 miliwn o'u cyllideb o £22 miliwn o'r elw net ar eu portffolio eiddo. A yw hynny'n rhywbeth y mae'r Trysorlys wedi cymryd camau gweithredu yn ei erbyn ac a ydym ni yng Nghymru wedi cael ein llyncu i mewn i hynny?
Wel, fel y dywedwch, newidiodd y gyfradd llog yn ddirybudd o 1.8 i 2.8 y cant ar unwaith yr wythnos diwethaf. Ac mae hynny'n peri anhawster i awdurdodau lleol yng Nghymru, wrth gwrs, gan y bydd yn rhaid iddynt ailasesu eu holl gynlluniau benthyca a'r cynlluniau sydd ganddynt ar gyfer buddsoddiad strategol mewn tai cymdeithasol yn arbennig, ond hefyd mewn ysgolion a phrosiectau cyfalaf eraill, yn enwedig yng Nghymru.
Credaf ei bod yn bwysig nodi hefyd fod Llywodraeth Cymru, dros gyfnod hir, wedi ymgyrchu i gael gwared ar y cap ar fenthyca ar gyfer awdurdodau lleol ac i ganiatáu i awdurdodau lleol fenthyca hyd at derfyn a oedd yn synhwyrol iddynt. Yn sicr, ni roesoch unrhyw enghreifftiau yng Nghymru o ble rydym wedi gweld benthyca i raddau sy'n anghyfrifol mewn unrhyw ffordd. Felly, credaf ei bod yn broblem fawr i awdurdodau lleol yng Nghymru, oherwydd wrth gwrs, mae'n golygu ailasesu eu cynlluniau.
Weinidog, fe gyfeirioch chi at weithgareddau adfywio a thai cymdeithasol fel enghreifftiau cadarnhaol o ble y gallai llywodraeth leol yng Nghymru fod yn benthyca arian, ond ceir hefyd—ceir rhywfaint o dystiolaeth, o leiaf, o fenthyca llywodraeth leol yng Nghymru sydd wedi'i ysgogi gan fuddsoddiad y portffolio eiddo masnachol. Un enghraifft yw Sir Fynwy, ac rydym wedi clywed sawl tro yn y Siambr hon pa mor anodd yw'r gyllideb i Sir Fynwy o ran y swm llawer iawn llai y mae'n ei gael gan Lywodraeth Cymru na llawer o gynghorau eraill. A tybed ai dyma eu hymateb i hynny yn y ffordd a welsom gan y cynghorau hyn yn Lloegr.
Roedd gan Sir Fynwy bortffolio eithaf sylweddol o eiddo masnachol eisoes, ond cafwyd dau gytundeb eleni lle maent wedi ychwanegu ato, a hynny drwy gyllid y Bwrdd Benthyciadau Gwaith Cyhoeddus. Prynwyd Parc Busnes Castlegate yng Nghil-y-coed am £7 miliwn, ac yna ym mis Mawrth, am bris uwch o £21 miliwn prynwyd Parc Hamdden Casnewydd, sydd y tu allan i ardal cyngor Sir Fynwy—gwariwyd £21 miliwn ar hynny, ac maent yn gobeithio cael £1.4 miliwn mewn rhent. Felly, os oes gennym gynghorau yn benthyca ar 1.8 y cant, bellach ar 2.8 y cant, ac o bosibl yn cael arenillion o 6 neu 7 y cant, onid yw hyn yn rhywbeth sy'n mynd i barhau a thyfu o bosibl, a beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau bod benthyca o'r fath yn briodol a bod gan y cynghorau lleol dan sylw yr arbenigedd angenrheidiol ac nad ydynt yn cymryd risgiau gormodol a allai arwain at ofyn am gymorth gan Lywodraeth Cymru yn y dyfodol?
Bydd yn rhaid i awdurdodau lleol gyfiawnhau eu penderfyniadau gwario eu hunain i'w hetholwyr lleol. Felly, ar gyfer yr enghreifftiau a roesoch yn Sir Fynwy, mater i'r etholwyr lleol fyddai archwilio, neu benderfynu mewn gwirionedd a ydynt yn gyfforddus â'r penderfyniadau y mae awdurdodau lleol yn eu gwneud. Ond o ran effaith gyffredinol y penderfyniad hwn ar awdurdodau lleol yng Nghymru, wrth gwrs, bydd y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol a minnau’n cyfarfod eto gyda’r is-grŵp cyllid, fel y gwnawn yn rheolaidd, felly bydd hon yn eitem y gallwn ei harchwilio gyda hwy. Ac rwy'n fwy na pharod i anfon mwy o wybodaeth atoch am y canllawiau rydym ni, drwy'r Gweinidog llywodraeth leol, yn eu rhoi i awdurdodau lleol ar fenthyca.
Tynnwyd cwestiwn 3 [OAQ54543] yn ôl. Cwestiwn 4, felly, Siân Gwenllian.