Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 1:47 pm ar 16 Hydref 2019.
Wel, mae'r Gweinidog llywodraeth leol wedi dweud yn glir iawn wrth awdurdodau lleol ei bod hithau a minnau yn agored iawn i drafodaethau os oes gan awdurdodau lleol ffordd well o ddosbarthu'r cyllid a roddir i awdurdodau lleol. Ac yn amlwg, mae'r fformiwla ariannu fel y mae yn ystyried ystod eang o bethau—ac mae gwledigrwydd yn un ohonynt. Ond rydym wedi dweud yn glir iawn: os oes ffyrdd i lywodraeth leol ddod i gonsensws ynglŷn â beth y dylai'r newidiadau fod, byddem yn fwy na pharod i edrych ar y newidiadau hynny. Ond rydym yn awyddus, fel y dywedaf, i sicrhau bod awdurdodau lleol yn cael y setliad gorau posibl ynghanol yr holl heriau sy'n ein hwynebu.