Cefnogi Pobl 16 i 18 Oed

Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:15 pm ar 16 Hydref 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Joyce Watson Joyce Watson Labour 2:15, 16 Hydref 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch am hynny. Ond er gwaethaf blynyddoedd lawer o gyni Torïaidd, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i helpu plant o deuluoedd incwm isel i aros mewn addysg os mai dyna y dewisant ei wneud. Ac mae hynny'n amlwg o barhad y lwfans cynhaliaeth ac addysg ar gyfer pobl ifanc 16 i 18 oed yng nghynllun cyfredol y gyllideb a fyngherdynteithio, sy'n rhoi gostyngiad o 30 y cant ar deithiau bysiau yng Nghymru i bobl ifanc 16 i 21 oed, i'w helpu i allu fforddio cyrraedd eu gweithle neu leoliad addysg. Felly, pan fyddwch yn gosod y gyllideb nesaf, a wnewch chi ymrwymo i gynorthwyo pobl ifanc ym mha bynnag ffordd y gallwch, mewn cyferbyniad llwyr â'r hyn sy'n digwydd mewn mannau eraill lle mae'r Torïaid mewn grym?