Cefnogi Pobl 16 i 18 Oed

Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:14 pm ar 16 Hydref 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour 2:14, 16 Hydref 2019

(Cyfieithwyd)

Rydym yn asesu effaith ystod o ffactorau ar gynlluniau gwario Llywodraeth Cymru yn barhaus, gan gynnwys yr amcanestyniadau demograffig diweddaraf. Cyfarfûm â Chomisiynydd Plant Cymru ar 23 Medi fel rhan o fy ngwaith ymgysylltu â'r rhanddeiliaid perthnasol cyn y gyllideb sydd ar y ffordd.