Ail Gartrefi

Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 1:59 pm ar 16 Hydref 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru 1:59, 16 Hydref 2019

Mae yna fater o annhegwch sylfaenol yn digwydd yn fan hyn. Mae nifer fawr o ail gartrefi yng Nghymru, sef tai domestig sy'n cael eu defnyddio fel ail gartrefi tra bo'r prif annedd yn rhywle arall, felly dwi ddim yn sôn am unedau busnes, arlwyo masnachol na busnesau gwyliau fan hyn. Ond mae yna fwlch yn y gyfraith, ac dwi'n credu bod eich Llywodraeth chi yn ymwybodol o hyn. Mae yna fwlch sy'n golygu bod nifer gynyddol o berchnogion ail gartrefi wedi canfod ffordd o beidio â thalu treth cyngor na threth busnes. Ydych chi'n cytuno bod angen canfod ateb buan i'r broblem yma? Ydych chi'n cytuno y byddai diwygio adran 66 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 yn un ffordd o gael gwared ar yr annhegwch hwn?