Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:09 pm ar 16 Hydref 2019.
Mae Awdurdod Cyllid Cymru yn cyhoeddi gwybodaeth alldro yn rheolaidd am y refeniw a gesglir o'r dreth trafodiadau tir a'r dreth gwarediadau tirlenwi. Mae disgwyl i Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi gyhoeddi'r flwyddyn lawn gyntaf o ddata alldro ar gyfraddau refeniw treth incwm Cymru ar gyfer y flwyddyn ariannol hon yn ystod haf 2021.