Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 2:18 pm ar 16 Hydref 2019.
Wel, credaf ei bod yn bwysig iawn tanlinellu nad ydym mewn unrhyw ffordd yn ymbellhau oddi wrth ddenu mewnfuddsoddiad i Gymru, ond mae'n eithaf amlwg ar adeg fel hon o fflwcs economaidd, lle nad ydym yn gwybod beth fydd ein perthynas â'n partner economaidd agosaf, ei bod yn gwneud synnwyr inni ganolbwyntio ar allforion, fel yn wir y mae'r Swyddfa Dramor a Chymanwlad a'r Adran Masnach Ryngwladol wedi'i wneud. Ac felly, yr hyn a wnaethom, rydym yn falch iawn ein bod wedi derbyn cyllid ychwanegol o'r cyllid sydd wedi dod o ganlyniad i Brexit i helpu i annog mwy o allforwyr o Gymru, gan dargedu busnesau bach a chanolig eu maint yn arbennig, ac rydym wedi bod yn gwneud cryn dipyn o gynnydd ar hynny ac rydym wrth ein boddau gyda'r ymateb cadarnhaol iawn a gafwyd.