Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 2:19 pm ar 16 Hydref 2019.
Roeddwn yn awyddus i ganolbwyntio ar argymhelliad 5 a chylch gwaith y swyddfeydd tramor a sut y dylid eu cyfleu i fusnesau a sut y gellir gwneud y gorau ohonynt. Gwn, er enghraifft, fod gennych dair swyddfa yn India, ond rwyf hefyd yn gwybod am lawer o fusnesau yma yng Nghymru sydd â chanolfannau yn India nad ydynt yn cael unrhyw ohebiaeth o gwbl gan Lywodraeth Cymru, ac maent yn cwblhau eu teithiau masnach eu hunain i India, a chredaf y byddent yn croesawu cefnogaeth gan Lywodraeth Cymru i wybod sut y gallent gysylltu â'r swyddfeydd hynny. Felly, beth yw'r cylch gwaith, ac os ydynt yn gweithio gyda busnesau, beth yw'r busnesau hynny, a sut y gallwn sicrhau bod busnesau sy'n awyddus i gael cefnogaeth Llywodraeth Cymru yn y gwledydd hyn yn cael yr hyn y maent yn ei haeddu?