Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 2:30 pm ar 16 Hydref 2019.
Diolch am hynny, ond, unwaith eto, rŷn ni'n sôn am dair blynedd mewn i'r Cynulliad yma, ac rwy'n sôn am bron hanner blwyddyn ers colloch chi eich Bil. Dyw e ddim yn edrych yn debyg i fi bod lot wedi newid yn y cyfamser. A pheth arall, efallai gallwch ddweud wrthyf sawl aelod o'r cyngor partneriaeth sydd â phrofiad personol o fod yn ddysgwyr Cymraeg eu hunain? Un o dair thema gwaith y bwrdd rhaglen yw cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg. A fydd hynny yn cynnwys dysgwyr sydd eisoes yn y system addysg bresennol neu'r byd gwaith? Dim ond 12 o athrawon Cymraeg newydd sydd wedi ymgymhwyso eleni. Mae bron cymaint o aelodau y cyngor partneriaeth ag sydd o athrawon Cymraeg newydd. Pam nad yw'ch strategaeth yn gafael ar ddychymyg athrawon newydd?