Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 2:31 pm ar 16 Hydref 2019.
Mae'n sialens i gael athrawon ar draws y byd ar hyn o bryd, a dwi wedi bod yn gweithio yn agos gyda'r Gweinidog Addysg i sicrhau ein bod ni'n edrych ar sut rŷn ni'n gallu helpu i gael lot fwy o bobl i gael diddordeb mewn dilyn cwrs dysgu Cymraeg. A dwi yn meddwl bod yna lot fwy o arian wedi mynd mewn i hyn. Er enghraifft, rŷn ni wedi rhoi £150,000 ychwanegol i sicrhau bod mwy o bobl yn ymgymryd â lefel-A Cymraeg, achos rŷn ni'n gwybod bod llawer o'r rheini yn mynd ymlaen i ddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg. A dwi yn meddwl hefyd ei bod yn bwysig ein bod ni yn rhoi gwybod i bobl ein bod ni wedi rhoi £5,000 ychwanegol i geisio sicrhau bod mwy o bobl yn deall bod yna symbyliad ychwanegol iddyn nhw os ydyn nhw'n hyfforddi trwy gyfrwng y Gymraeg. Felly, rŷn ni yn cymryd camau penodol. Mae e'n anodd, yn arbennig o ran addysg uwchradd, ond o ran addysg gynradd, dwi'n meddwl ein bod ni yn bendant yn y lle cywir.