Islwyn fel Cyrchfan i Dwristiaid

Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 2:23 pm ar 16 Hydref 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lord Dafydd Elis-Thomas Lord Dafydd Elis-Thomas Independent 2:23, 16 Hydref 2019

(Cyfieithwyd)

Yr hyn rwy'n arbennig o awyddus i'w hyrwyddo yw'r cysylltiad rhwng y dirwedd anhygoel a'r dreftadaeth ddiwydiannol bwysig iawn. Gan i chi grybwyll Cwmcarn, fe gofiwch imi agor y bwthyn a'r ganolfan antur yno, a ariannwyd drwy raglen cyrchfannau denu twristiaeth, ym mis Gorffennaf eleni. Credaf fod Cwmcarn yn atyniad sylweddol ynddo'i hun, ac rwy'n falch iawn o ddweud bod y gwaith y bu'n rhaid ei wneud ar y 160,000 o goed llarwydd heintiedig ar y safle hwnnw bron â gorffen. Yna, gallwn ddathlu pwysigrwydd y safle hwnnw unwaith eto.