Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 2:24 pm ar 16 Hydref 2019.
Ddirprwy Weinidog, fe'ch clywais yn sôn am Gwmcarn. Croesawaf y buddsoddiad gan Croeso Cymru mewn atyniad newydd ar ffordd goedwig Cwmcarn, gan gynnwys canolfan chwarae antur a'r bythynnod moethus newydd, a agorwyd gennych ym mis Gorffennaf. Fe fyddwch yn gwybod hefyd fod ffordd goedwig Cwmcarn wedi bod ar gau dros y pum mlynedd diwethaf, oherwydd yr angen i gael gwared ar goed heintiedig. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn gobeithio ailagor ffordd goedwig Cwmcarn cyn gynted â phosibl yn gynnar y flwyddyn nesaf. Pan fydd hyn yn digwydd, Weinidog, a wnewch chi ymrwymo i weithio gyda Croeso Cymru i hyrwyddo a rhoi cyhoeddusrwydd i ffordd goedwig Cwmcarn fel bod cymaint o bobl â phosibl yn dod i fwynhau'r golygfeydd a'r harddwch a'r gweithgareddau yn y lleoliad gwych hwn yn ne-ddwyrain Cymru?