Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 2:32 pm ar 16 Hydref 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Delyth Jewell Delyth Jewell Plaid Cymru 2:32, 16 Hydref 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd. Weinidog, gwn y byddai'r gymuned Gwrdaidd yng Nghymru yn dymuno imi ddiolch ichi am godi pryderon gydag Ysgrifennydd Tramor y DU ynghylch penderfyniad Twrci i ymosod ar diriogaethau Cwrdaidd yn Syria. Gwn eich bod yn poeni am sefyllfa'r Cwrdiaid, fel ninnau ym Mhlaid Cymru, ac rwy'n falch o weld Llywodraeth Cymru yn gweithredu ar hyn. Bydd hanes yn cofio penderfyniad Donald Trump i ganiatáu i Dwrci ymosod yn greulon a milain ar y Cwrdiaid fel gweithred ddieflig a disynnwyr. Llwyddodd y Cwrdiaid dewr i atal ISIS. Maent wedi bod yn gynghreiriaid dibynadwy i wledydd y gorllewin ers blynyddoedd, ond yn lle cael eu cefnogi, cawsant eu bradychu unwaith eto. Nid oes ryfedd fod y Cwrdiaid yn dweud nad oes ffrindiau ganddynt oni bai am y mynyddoedd. Ond Weinidog, mae'r DU o'r diwedd wedi rhoi'r gorau i werthu arfau i Dwrci, ac fel aelod o Gyngor Ewrop, mae Twrci yn rhwym i'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol, sy'n gosod dyletswydd ar aelod-wladwriaethau i ymatal rhag lladd yn anghyfreithlon. Nawr, gan fod gweithredoedd Twrci yn amlwg yn mynd yn groes i'r dyletswyddau hyn, a ydych yn cytuno â mi fod dadl i'w chael dros ddwyn achos yn erbyn Twrci yn Llys Hawliau Dynol Ewrop?