Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 2:34 pm ar 16 Hydref 2019.
Wel, diolch yn fawr iawn, ac rwy'n falch eich bod wedi cyfeirio at y ffaith ein bod wedi ysgrifennu at Dominic Raab, ond credaf ei bod yn werth tanlinellu'r pwynt fod materion tramor, mewn gwirionedd, yn faes y mae Llywodraeth y DU yn bennaf gyfrifol amdano. Ond credaf ein bod yn hynod sensitif i'r ffaith bod cymuned Gwrdaidd fawr yng Nghymru sydd â phryderon gwirioneddol am yr hyn sy'n digwydd yn yr ardal honno, ac rwy'n falch iawn hefyd fod Llywodraeth y DU wedi rhoi'r gorau i roi trwyddedau allforio arfau i Dwrci. Mewn perthynas ag a ddylem roi camau pellach ar waith, credaf mai penderfyniad i Lywodraeth y DU yw hwnnw. Rhaid i hynny fod yn gyfrifoldeb iddynt hwy, a hwy sy'n rheoli'r sefyllfa mewn perthynas â materion tramor.