Datblygu'r Gymraeg

Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 2:45 pm ar 16 Hydref 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Baroness Mair Eluned Morgan Baroness Mair Eluned Morgan Labour 2:45, 16 Hydref 2019

Diolch yn fawr, John. Dwi’n falch bod y de-ddwyrain wedi elwa ar gyllid cyfalaf i ehangu addysg a gofal plant cyfrwng Cymraeg sy’n cael eu darparu yn yr ardal. Bydd hyn, wrth gwrs, yn meithrin siaradwyr Cymraeg newydd. Hefyd, drwy gynlluniau prentisiaeth yr Urdd, mae 35 o bobl ifanc yn gweithio yn ardaloedd tasglu’r Cymoedd er mwyn manteisio ar gyfleoedd lle y gall plant a phobl ifanc ddefnyddio’r Gymraeg yn y gymuned.