2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru ar 16 Hydref 2019.
5. Pa gamau pellach y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ddatblygu'r Gymraeg mewn ardaloedd lle mae llai o siaradwyr Cymraeg? OAQ54551
Diolch yn fawr, John. Dwi’n falch bod y de-ddwyrain wedi elwa ar gyllid cyfalaf i ehangu addysg a gofal plant cyfrwng Cymraeg sy’n cael eu darparu yn yr ardal. Bydd hyn, wrth gwrs, yn meithrin siaradwyr Cymraeg newydd. Hefyd, drwy gynlluniau prentisiaeth yr Urdd, mae 35 o bobl ifanc yn gweithio yn ardaloedd tasglu’r Cymoedd er mwyn manteisio ar gyfleoedd lle y gall plant a phobl ifanc ddefnyddio’r Gymraeg yn y gymuned.
Diolch yn fawr, Weinidog. Mae'r Gymraeg yng Nghasnewydd heddiw yn llawer mwy adnabyddadwy na phan ddaeth y Cynulliad i mewn i fodolaeth. Mae addysg Gymraeg yn parhau i dyfu, ac mae disgyblion ymhob ysgol cyfrwng Saesneg yn dysgu Cymraeg. Mae arwyddion a chyhoeddiadau yn ddwyieithog ac mae cyfleoedd i oedolion ddysgu a defnyddio'r Gymraeg, ond mae'r iaith yn dal yn gymharol wan a dim ond ychydig o Gymraeg sy'n cael ei siarad ar y strydoedd.
Mae gan Lywodraeth Cymru dargedau uchelgeisiol i gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg, a bydd angen inni weld cynnydd pellach o lawer mewn ardaloedd fel Casnewydd. Pa gamau fydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gyflawni'r cynnydd hwn?
Da iawn, John, a diolch yn fawr am hynny. Dwi'n meddwl eich bod chi'n enghraifft o sut mae'r Gymraeg yn dal dychymyg pobl mewn ardaloedd fel Casnewydd, ac rŷch chi'n enghraifft i bobl eraill yn yr ardal. Felly, diolch yn fawr ichi am yr ymdrech o ddysgu Cymraeg. Pe byddai lot mwy o bobl yn gwneud hynny, byddwn ni'n cyrraedd y nod at y filiwn yn hawdd.
Beth sydd yn ddiddorol yw bod y nod yna o gyrraedd yr uchelgais yn rhywbeth sydd wedi cael ei adnabod gan y cyngor yn lleol, ac mae'r ffaith y byddan nhw'n sefydlu pedwaredd ysgol Gymraeg yn yr ardal dwi'n meddwl yn gydnabyddiaeth bod angen camu ymlaen.
Felly, ar hyn o bryd, mae tua 6 y cant o blant blwyddyn 7 o'r ardal yn mynychu ysgolion Cymraeg. Mewn 10 mlynedd, rŷn ni'n gobeithio y bydd 11 i 15 y cant o blant yr oedran yna yn mynychu ysgolion Cymraeg. Ac mae'r ffaith ein bod wedi gallu rhoi arian cyfalaf i helpu i ddatblygu'r ysgol newydd yn gam pwysig, dwi'n meddwl, yn y cyfeiriad cywir. Ar ben hynny, rŷn ni'n helpu lot o fyfyrwyr i sicrhau eu bod nhw'n cario ymlaen i siarad Cymraeg unwaith maen nhw'n gadael ysgol. Felly, jest i roi enghraifft i chi, mae 140 o fyfyrwyr ar gyrsiau gofal blynyddoedd cynnar ac iechyd a gofal, ac maen nhw wedi cwblhau 10 awr o Gymraeg yn y gweithle. Felly, mae sicrhau eu bod nhw'n gallu defnyddio'r Gymraeg unwaith maen nhw wedi'i dysgu hefyd yn hanfodol.
Weinidog, mae adroddiad 'Hawlio cyfleoedd' Comisiynydd y Gymraeg yn dangos mai dim ond 37 y cant o bobl sy'n credu bod y cyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg yn cynyddu, ac felly mae'n amlwg bod yn rhaid gwneud mwy i godi ymwybyddiaeth o wasanaethau Cymraeg, a bod angen gwneud mwy i nodi a gwella sgiliau Cymraeg, yn enwedig yn y gweithlu.
Mewn ymateb i'r adroddiad hwn, a allwch chi ddweud wrthym ni beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i helpu sefydliadau cyhoeddus i wella eu prosesau mewnol i sicrhau cydymffurfiaeth, a pha gamau penodol y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd mewn meysydd lle mae llai o siaradwyr Cymraeg, i sicrhau bod gan sefydliadau cyhoeddus ddigon o staff syn gallu cynnig gwasanaethau Cymraeg yn y lle cyntaf?
Diolch yn fawr. Dwi yn meddwl bod y cyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg yn y gweithlu yn cynyddu. Fe fyddwch chi'n ymwybodol bod y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn rhoi cyrsiau arbennig ymlaen ar gyfer pobl sydd am siarad Cymraeg yn y gweithle. Felly, mae sicrhau bod mwy o bobl yn gallu dysgu yn help aruthrol, dwi'n meddwl, ond hefyd gwaith y comisiynydd yw sicrhau bod y safonau yn yr holl adrannau a'r holl ardaloedd lle mae angen iddyn nhw gydymffurfio gyda'r safonau newydd—mae'n bwysig eu bod nhw yn cael cyfle hefyd. Beth dŷn ni wedi bod yn trafod gyda'r comisiynydd, a beth mae e'n awyddus i'w wneud, yw sicrhau eu bod nhw ddim jest yn plismona safonau ond hefyd yn sicrhau bod yna gyfle i bobl hyrwyddo'r Gymraeg, i ddefnyddio’r Gymraeg, a bod yr help yna yn ychwanegol yn cael ei roi mewn i'r system.