Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 2:56 pm ar 16 Hydref 2019.
Mae gweddnewidiad Merthyr Tudful a Rhymni dros y blynyddoedd diwethaf i fod yn ardal sy'n cynnig profiad cyfoethog o'r radd flaenaf i ymwelwyr wedi bod yn ysbrydoliaeth fawr i mi wrth ddatblygu treftadaeth ddiwydiannol ledled Cymru. Yn ychwanegol at hynny, mae'r buddsoddiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud mewn prosiectau cyffrous, Rock UK a BikePark Wales, yn pwysleisio pwysigrwydd gweithgarwch hamdden mewn ardal ddiwydiannol draddodiadol.