Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 2:46 pm ar 16 Hydref 2019.
Diolch yn fawr, Weinidog. Mae'r Gymraeg yng Nghasnewydd heddiw yn llawer mwy adnabyddadwy na phan ddaeth y Cynulliad i mewn i fodolaeth. Mae addysg Gymraeg yn parhau i dyfu, ac mae disgyblion ymhob ysgol cyfrwng Saesneg yn dysgu Cymraeg. Mae arwyddion a chyhoeddiadau yn ddwyieithog ac mae cyfleoedd i oedolion ddysgu a defnyddio'r Gymraeg, ond mae'r iaith yn dal yn gymharol wan a dim ond ychydig o Gymraeg sy'n cael ei siarad ar y strydoedd.
Mae gan Lywodraeth Cymru dargedau uchelgeisiol i gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg, a bydd angen inni weld cynnydd pellach o lawer mewn ardaloedd fel Casnewydd. Pa gamau fydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gyflawni'r cynnydd hwn?