Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 3:06 pm ar 16 Hydref 2019.
Yn union, a dyna pam rwy'n cyfeirio at gymunedau eraill sydd hefyd yn byw yng Nghymru ac sydd eisiau cyfrannu at y strategaeth cysylltiadau rhyngwladol. Felly, o'r— [Torri ar draws.] O'r 3 miliwn—[Torri ar draws.] O'r 3 miliwn o ddinasyddion yr UE sy'n byw yn y Deyrnas Unedig, mae miliwn o'r rheini'n Bwyliaid, ac mae degau o filoedd ohonynt yma yng Nghymru ac yn awyddus i helpu i lunio'r strategaeth cysylltiadau rhyngwladol sydd gennych. Pa ymgysylltiad a fu gyda'r gymuned Bwylaidd a Phwyliaid alltud yma yng Nghymru i lywio eich strategaeth cysylltiadau rhyngwladol?