Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 3:07 pm ar 16 Hydref 2019.
Diolch. Ymgynghorwyd â'r cwnsleriaid anrhydeddus, gan gynnwys y bobl sy'n cynrychioli Gwlad Pwyl, felly maent i gyd wedi cael copi o'r strategaeth. Rydym wedi ei hanfon at lysgenadaethau ledled y Deyrnas Unedig hefyd, ond rwy'n credu mai'r peth allweddol i ni ei danlinellu—a'r hyn sy'n cael ei danlinellu'n glir iawn yn y strategaeth—yw ein bod eisiau dathlu'r cymunedau alltud o wledydd tramor sydd wedi gwneud Cymru yn gartref iddynt. Un o'r pethau rydym yn eu hawgrymu yw y byddwn bob blwyddyn yn sefydlu ac yn dathlu cymuned benodol sydd wedi gwneud cyfraniad mawr i fywyd Cymru. Felly, gobeithio, ar ryw adeg, y bydd y gymuned Bwylaidd, sef un o'r rhai mwyaf yng Nghymru, yn un o'r cymunedau a fydd yn cael eu dathlu.