Pwyntiau Gwefru Cerbydau Trydan

Part of 3. Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad – Senedd Cymru am 3:15 pm ar 16 Hydref 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Rowlands David Rowlands UKIP 3:15, 16 Hydref 2019

(Cyfieithwyd)

Gosododd y Comisiwn bedwar pwynt gwefru ym maes parcio Tŷ Hywel yng ngwanwyn 2018 i'w defnyddio gan staff ac ymwelwyr. Ers hynny, maent wedi cael eu defnyddio 692 o weithiau i gyflenwi dros 6,500 kWh o bŵer i geir trydan. Mae hyn wedi arbed mwy na 5.5 o dunelli o garbon deuocsid rhag cael eu hallyrru i'r atmosffer. Mae'r Comisiwn o'r farn fod y mannau parcio dynodedig yn gymhelliant i ddefnyddio cerbyd trydan a bod y Comisiwn yn adennill costau gwefru gan y defnyddwyr.