Part of 3. Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad – Senedd Cymru am 3:16 pm ar 16 Hydref 2019.
Diolch. Rwyf wrth fy modd ein bod wedi arbed 5.5 o dunelli yn y 18 mis ers iddynt gael eu defnyddio, ond buaswn yn awyddus iawn i ddeall yn union pa fath o bwyntiau gwefru cerbydau trydan ydynt, o ystyried bod dau fath gwahanol o gerbydau trydan, oherwydd buaswn o ddifrif yn hoffi newid i gerbyd dilygredd, gan fy mod yn cynrychioli un o'r ardaloedd mwyaf llygredig—neu'r ardal fwyaf llygredig, mae'n debyg—yng Nghymru. Ond nid wyf wedi'u gweld, nid wyf wedi gweld arwydd yn dweud, 'Pwyntiau gwefru cerbydau trydan y ffordd yma'. A ydych yn credu y gellid eu hyrwyddo'n well?