Pwyntiau Gwefru Cerbydau Trydan

Part of 3. Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad – Senedd Cymru am 3:18 pm ar 16 Hydref 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 3:18, 16 Hydref 2019

Dwi wedi defnyddio pwynt gwefru fy hun. Fe'i ddefnyddiais pan oeddwn i'n gwneud ffilm ar ddod ar siwrnai o'm hetholaeth i i'r Cynulliad, i ddangos yr heriau o ddefnyddio car trydan oherwydd gwendidau yn ein rhwydwaith gwefru ni ar draws Cymru. Dwi yn falch o glywed bod yna waith yn cael ei wneud i annog staff i ddefnyddio mwy o geir trydan. Tybed a allwch chi, un, ddweud a oes yna fwy o geir trydan—? Tybed a allwch chi ddweud wrthyf a oes yna gynlluniau i gael mwy o pool cars trydan? Yn ddiweddar, dwi'n meddwl mai un ar gytundeb les tair blynedd oedd yn gar trydanol gan y Comisiwn, ac mi fyddai'n syniad ehangu hynny. Hefyd, a allwch chi ddweud wrthyf pa drafodaethau sydd wedi bod efo'r Llywodraeth ynglŷn â chaniatáu lle ar yr ystâd i osod pwyntiau gwefru ar gyfer eu ceir disel presennol nhw?