Part of 3. Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad – Senedd Cymru am 3:17 pm ar 16 Hydref 2019.
Wel, mae hynny'n hollol gywir, ceir dwy system wefru. Ni allaf ateb eich cwestiwn ynglŷn â hynny'n union, ond gallaf ddweud wrthych fod staff y Comisiwn yno i roi gwybodaeth ynghylch cerbydau trydan i unrhyw un a phawb yn y Cynulliad, yn Aelodau Cynulliad a'r staff eu hunain. Mae ganddynt wybodaeth helaeth y gallwch ei chael ganddynt, ac os ydych yn ystyried y peth, fel yn wir y mae llawer erbyn hyn yn ystyried defnyddio cerbydau trydan, gallaf eich sicrhau eu bod yn mynd ati i chwilio am yr wybodaeth honno.