Part of 4. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:35 pm ar 16 Hydref 2019.
Lywydd, rwy'n credu bod pob un ohonom wedi cael ein syfrdanu gan y newyddion am garcharu arweinwyr gwleidyddol Catalonia yr wythnos hon. Ac ers hynny, cawsom ein syfrdanu gan y lluniau o drais gwladwriaethol a welwn yn dod o Gatalonia. Mae llawer ohonom wedi teimlo bod ein democratiaeth yn ddiogel, fod ein hawliau fel dinasyddion Ewropeaidd yn ddiogel ac wedi'u gwarantu. Ond rydym i gyd yn gwybod ein bod, dros y blynyddoedd diwethaf, wedi gweld gydag eglurder arswydus nad yw'r rhyddid a'r hawliau rydym wedi'u cymryd yn ganiataol yn cael eu diogelu, ac efallai fod angen inni frwydro unwaith eto, fel y mae eraill wedi'i wneud yn y gorffennol, i sicrhau democratiaeth a rhyddid ar ein cyfandir. Mae digwyddiadau diweddar yng Nghatalonia wedi gwneud i lawer ohonom deimlo'n ofnus dros bobl y wlad honno. Ni ddylai hyn fod yn digwydd yn Ewrop, Lywydd. Ni ddylid caniatáu iddo ddigwydd yn yr Undeb Ewropeaidd, ac mae'n rhaid i ni, bobloedd Ewrop, sefyll yn unedig gydag arweinwyr gwleidyddol Catalonia a garcharwyd a chyda phobl Catalonia.
Mae'r hawl i benderfynu drosom ein hunain yn hawl ddynol sylfaenol, wedi'i hymgorffori yn erthygl 1 o Siarter y Cenhedloedd Unedig. Mae'n un o'r egwyddorion arweiniol y mae cyfraith ryngwladol, a'r drefn ryngwladol, wedi'i seilio arnynt. Mae'n hawl rydym ni yng Nghymru wedi'i harfer ddwywaith yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ac y mae pobl yr Alban yn ei thrafod heddiw. Lle bynnag y bydd rhywun yn sefyll ar yr ateb i gwestiwn annibyniaeth, mae'n rhaid i'r hawl i wneud penderfyniad o'r fath fod y tu hwnt i amheuaeth. Mae Llywodraeth Sbaen wedi torri'r egwyddor sylfaenol hon, ac mae'n rhaid iddynt wynebu canlyniadau eu gweithredoedd. Lywydd, nid wyf yn credu bod creulondeb gwladwriaeth Sbaen yn gydnaws â'i lle wrth y prif fwrdd yn Ewrop. Dylai pawb sy'n gwerthfawrogi rhyddid a democratiaeth gondemnio gweithredoedd cyfunol gwladwriaeth Sbaen, gan gynnwys ei byddin, ei heddlu a'i system gyfiawnder.
Credaf ei bod yn amlwg fod gwladwriaeth Sbaen yn cyflawni troseddau yn erbyn pobl Catalonia. Ac ni all y lle hwn, na'n Llywodraeth ni, ganiatáu i droseddau o'r fath gael eu cyflawni yn ein cartref Ewropeaidd. Rwy'n cydnabod mai Llywodraeth y Deyrnas Unedig sy'n arwain ar faterion tramor, ond nid wyf yn credu y byddai'r un ohonom sy'n eistedd yma, na'r bobl a gynrychiolwn, eisiau inni sefyll o'r neilltu a gadael i'r pethau hyn ddigwydd ar garreg ein drws. Credaf fod yn rhaid i Lywodraeth Cymru ddweud hyn yn glir, a defnyddio pob dull sydd ar gael iddi, i sefyll dros hawliau dynol sylfaenol yng Nghatalonia, ac yn ein cartref Ewropeaidd. Rwy'n gobeithio, Weinidog, y byddwch yn dwyn y materion hyn i sylw pellach Llywodraeth y DU, ond hefyd yn uniongyrchol gyda Llywodraeth Sbaen. Nid yw'n ddigon da gweld heddlu Sbaen yn curo pobl Catalonia, ac yn carcharu arweinwyr etholedig, oherwydd y safbwyntiau sydd ganddynt, ac oherwydd eu bod wedi ceisio cyflawni mandad gwleidyddol ac arfer eu hawl ddynol sylfaenol i benderfynu drostynt eu hunain.