Part of 4. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:38 pm ar 16 Hydref 2019.
Wel, rwyf wedi nodi angerdd yr Aelod wrth iddo fynegi ei bryder dros bobl Catalonia. Ond rwy'n credu ei bod yn werth pwysleisio bod gan wleidyddion mewn democratiaeth gyfrifoldeb penodol i weithio o fewn y gyfraith, ac mae gan y llysoedd gyfrifoldeb i orfodi'r gyfraith honno. Ond fel y pwysleisiodd y Prif Weinidog ddoe, ni ddylai fod lle mewn democratiaeth i'r math o gyfraith sy'n golygu bod gwleidyddion yn cael eu carcharu am fynegi eu barn gyfansoddiadol. Felly, mae hynny wedi'i fynegi'n glir iawn, a chredaf y byddai hynny'n ategu teimladau llawer o bobl yn y Cynulliad hwn.