Part of the debate – Senedd Cymru am 3:22 pm ar 16 Hydref 2019.
Diolch ichi am eich ateb. Wrth gwrs, mae yna nifer fawr o gwestiynau yn deillio o'r hyn sydd wedi digwydd. Yn y lle cyntaf, dwi'n meddwl, mae pobl yn crafu eu pennau ac yn gofyn i'w hunain, 'Beth aeth o'i le?' Oherwydd dim ond yn 2017 y cafodd y cwmni £22 miliwn o fuddsoddiad—£5 miliwn o hwnnw gan Lywodraeth Cymru, £2 filiwn ymhellach gan Cyllid Cymru—a wedyn, fisoedd yn ddiweddarach, ar ddiwedd y flwyddyn ariannol hyd at Fawrth 2018, roedd y cwmni yn cofrestru colledion o £5 miliwn, a £2 filiwn eto yn y flwyddyn ariannol diwethaf. Felly, rŷn ni eisiau sicrwydd gan y Llywodraeth ac fe fyddwn i yn licio gweld bod y Llywodraeth yn dangos tystiolaeth eich bod chi wedi gwneud y gwaith o ymchwilio yn ddigon trwyadl i mewn i'r cynlluniau yma cyn gwneud y buddsoddiad.
Mae'r Llywodraeth hefyd, dwi wedi gweld mewn adroddiadau yn y wasg, yn dweud eich bod chi'n ymwybodol bod yna drafferthion wedi bod yn cwmni a'ch bod chi wedi bod yn gweithio gyda nhw ers 18 mis i drio gweithio drwy'r materion yma. Allwch chi, efallai, esbonio pa fath o adnoddau wnaethoch chi eu rhoi i'r perwyl hwnnw a pha reswm sydd yna na lwyddwyd i droi'r sefyllfa o gwmpas?
Rŷch chi wedi sôn am ddyfodol y gweithlu, ac rŷn ni yn gobeithio yn fawr iawn, fel ŷch chi'n awgrymu, y bydd y Llywodraeth yn troi pob carreg i sicrhau bod yna gyfleoedd cyflogaeth ar gael i'r rhai fydd yn colli eu swyddi. Wrth gwrs, y cwestiwn mwyaf yw: beth yw dyfodol y safle? Ar ôl buddsoddiad mor sylweddol, yn amlwg mae e'n safle sydd â chit newydd sbon. Hynny yw, fe fyddwn i'n tybio bod yna botensial i ddenu buddsoddwyr amgen i mewn i drio prosesu llaeth ar y safle. Byddwn i'n licio clywed pa gamau ŷch chi'n eu cymryd i wneud hynny.
Mae amseru mynd i ddwylo’r gweinyddwyr yn golygu hefyd—mi ddigwyddodd e jest ar yr adeg yr oedd y ffermwyr a'r cynhyrchwyr llaeth i fod i gael eu sieciau am ddarparu llaeth fis Medi. Mae hynny'n golygu bod y cwmni, i bob bwrpas, wedi cael gwerth chwe wythnos o laeth am ddim. Mae hynny'n golygu colledion difrifol posib i'r ffermwyr hynny. Pa waith mae'r Llywodraeth yn ei wneud i drio sicrhau y byddan nhw yn cael taliad, neu o leiaf rhywfaint o daliad, neu rhyw fath o ddigolledu am y llaeth hwnnw?
A beth mae'r datblygiad yma'n ei ddweud am gyflwr y sector prosesu llaeth yng Nghymru? Hynny yw, flwyddyn diwethaf, mi gollom ni Arla yn Llandyrnog, nawr mae Tomlinsons, yn yr un rhan o Gymru i bob pwrpas, wedi mynd. Mae'r Llywodraeth, ac yr ŷm ni i gyd, yn rhoi pwys mawr ar bwysicrwydd datblygu brand Cymreig, ond o ganlyniad i hyn fydd y llaeth nawr ddim yn cael ei frandio fel llaeth o Gymru, ond llaeth Prydeinig fydd e. Felly, mae'n tanseilio ymdrechion y Llywodraeth i adeiladu'r sector bwyd a diod yng Nghymru, ac dwi eisiau gwybod beth ŷch chi'n ei wneud i adeiladu sector llaeth mwy hyfyw yma yng Nghymru.