– Senedd Cymru am 3:21 pm ar 16 Hydref 2019.
Eitem 4 yw'r cwestiynau amserol, a bydd Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth yn ateb y cyntaf y prynhawn yma. Llyr Gruffydd.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Wrth gwrs, mae cyd-destun y cwestiwn yma wedi newid ychydig ers ei osod e, ond mae e'n dal yn ddilys.
1. Yn dilyn yr ansicrwydd am brosesydd llaeth Tomlinsons Dairy, a’r ffaith fod yna 70 o ffermydd llaeth a channoedd o swyddi yn ddibynol ar yr hufenfa, pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gynorthwyo’r cwmni a’r gweithlu? 351
Diolch yn fawr iawn. Yn amlwg, mae'n newyddion siomedig iawn fod y cwmni wedi mynd i ddwylo'r gweinyddwyr, ac mae hyn yn peri gofid i'r gweithlu ac i'r gadwyn gyflenwi ehangach, ac mae ein meddyliau gyda'r rhai yr effeithiwyd arnynt. Deallwn fod tua 331 o bobl wedi'u heffeithio: cafodd 247 ohonynt eu diswyddo ddoe ac mae'r gweddill wedi'u cadw am gyfnod byr. Fel y dywedaf, mae ein meddyliau gyda hwy, ac rydym yn eu cefnogi. Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam i helpu'r holl staff yr effeithiwyd arnynt. Rydym wedi sefydlu tasglu uniongyrchol i ymateb i'r sefyllfa ddiswyddo yn y cwmni, a bydd y digwyddiad cefnogi a chyfeirio ar gyfer staff yn cael ei gynnal ddydd Llun yng nghanolfan adnoddau Plas Pentwyn yn Wrecsam.
Diolch ichi am eich ateb. Wrth gwrs, mae yna nifer fawr o gwestiynau yn deillio o'r hyn sydd wedi digwydd. Yn y lle cyntaf, dwi'n meddwl, mae pobl yn crafu eu pennau ac yn gofyn i'w hunain, 'Beth aeth o'i le?' Oherwydd dim ond yn 2017 y cafodd y cwmni £22 miliwn o fuddsoddiad—£5 miliwn o hwnnw gan Lywodraeth Cymru, £2 filiwn ymhellach gan Cyllid Cymru—a wedyn, fisoedd yn ddiweddarach, ar ddiwedd y flwyddyn ariannol hyd at Fawrth 2018, roedd y cwmni yn cofrestru colledion o £5 miliwn, a £2 filiwn eto yn y flwyddyn ariannol diwethaf. Felly, rŷn ni eisiau sicrwydd gan y Llywodraeth ac fe fyddwn i yn licio gweld bod y Llywodraeth yn dangos tystiolaeth eich bod chi wedi gwneud y gwaith o ymchwilio yn ddigon trwyadl i mewn i'r cynlluniau yma cyn gwneud y buddsoddiad.
Mae'r Llywodraeth hefyd, dwi wedi gweld mewn adroddiadau yn y wasg, yn dweud eich bod chi'n ymwybodol bod yna drafferthion wedi bod yn cwmni a'ch bod chi wedi bod yn gweithio gyda nhw ers 18 mis i drio gweithio drwy'r materion yma. Allwch chi, efallai, esbonio pa fath o adnoddau wnaethoch chi eu rhoi i'r perwyl hwnnw a pha reswm sydd yna na lwyddwyd i droi'r sefyllfa o gwmpas?
Rŷch chi wedi sôn am ddyfodol y gweithlu, ac rŷn ni yn gobeithio yn fawr iawn, fel ŷch chi'n awgrymu, y bydd y Llywodraeth yn troi pob carreg i sicrhau bod yna gyfleoedd cyflogaeth ar gael i'r rhai fydd yn colli eu swyddi. Wrth gwrs, y cwestiwn mwyaf yw: beth yw dyfodol y safle? Ar ôl buddsoddiad mor sylweddol, yn amlwg mae e'n safle sydd â chit newydd sbon. Hynny yw, fe fyddwn i'n tybio bod yna botensial i ddenu buddsoddwyr amgen i mewn i drio prosesu llaeth ar y safle. Byddwn i'n licio clywed pa gamau ŷch chi'n eu cymryd i wneud hynny.
Mae amseru mynd i ddwylo’r gweinyddwyr yn golygu hefyd—mi ddigwyddodd e jest ar yr adeg yr oedd y ffermwyr a'r cynhyrchwyr llaeth i fod i gael eu sieciau am ddarparu llaeth fis Medi. Mae hynny'n golygu bod y cwmni, i bob bwrpas, wedi cael gwerth chwe wythnos o laeth am ddim. Mae hynny'n golygu colledion difrifol posib i'r ffermwyr hynny. Pa waith mae'r Llywodraeth yn ei wneud i drio sicrhau y byddan nhw yn cael taliad, neu o leiaf rhywfaint o daliad, neu rhyw fath o ddigolledu am y llaeth hwnnw?
A beth mae'r datblygiad yma'n ei ddweud am gyflwr y sector prosesu llaeth yng Nghymru? Hynny yw, flwyddyn diwethaf, mi gollom ni Arla yn Llandyrnog, nawr mae Tomlinsons, yn yr un rhan o Gymru i bob pwrpas, wedi mynd. Mae'r Llywodraeth, ac yr ŷm ni i gyd, yn rhoi pwys mawr ar bwysicrwydd datblygu brand Cymreig, ond o ganlyniad i hyn fydd y llaeth nawr ddim yn cael ei frandio fel llaeth o Gymru, ond llaeth Prydeinig fydd e. Felly, mae'n tanseilio ymdrechion y Llywodraeth i adeiladu'r sector bwyd a diod yng Nghymru, ac dwi eisiau gwybod beth ŷch chi'n ei wneud i adeiladu sector llaeth mwy hyfyw yma yng Nghymru.
Diolch am y cwestiynau hynny. Rwy'n rhannu pryder a rhwystredigaeth yr Aelod, ond gellid maddau i rywun am feddwl, o wrando ar dôn ei gyfraniad, mai bai Llywodraeth Cymru oedd hyn rywsut. Cwmni masnachol yw hwn. Mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud popeth yn ei gallu i helpu'r cwmni hwn, fel y mae benthycwyr masnachol y cwmni ei hun wedi'i wneud. Daeth y rhan fwyaf o'r arian a roddwyd, nid gan Lywodraeth Cymru na'r banc datblygu, ond gan y banciau—y banciau, ni allwn ond tybio, a wnaeth eu diwydrwydd dyladwy eu hunain ac a wnaeth eu penderfyniadau masnachol eu hunain ynglŷn ag a oedd buddsoddi miliynau lawer o bunnoedd yn y busnes hwn yn beth doeth i'w wneud. Penderfynasant ei fod. Erbyn diwedd yr wythnos ddiwethaf, roedd y benthycwyr masnachol a Llywodraeth Cymru a'r banc datblygu yn amlwg wedi cyrraedd y pwynt lle nad oeddem yn credu bod rhoi mwy a mwy o gredyd i gwmni sy'n cronni dyledion, ac sydd eto i gynhyrchu unrhyw gyfrifon diweddar, yn beth doeth i'w wneud mwyach.
Nawr, fe ofynnoch chi am dystiolaeth o'n cefnogaeth, a gallaf eich sicrhau fod Ken Skates, fel yr Aelod Cynulliad lleol, a Lesley Griffiths fel y Gweinidog, wedi gwneud yn siŵr fod Llywodraeth Cymru wedi bod yn cadw llygad manwl ar y cwmni. Rydym wedi bod mewn deialog â hwy'n gyson. Fe sonioch chi am rywfaint o'r cymorth ymarferol rydym wedi'i roi iddynt—grant o £5 miliwn yn 2018 a ddefnyddiwyd ganddynt yn llawn. Fe wnaethom eu helpu i gael gwared ar safle potelu, a llwyddasant i'w werthu am oddeutu £6 miliwn. Gwnaethom helpu i ryddhau rhai o'r ymrwymiadau grant ar y safle hwnnw i helpu i roi'r cyfle gorau posibl iddynt allu goroesi. Darparwyd benthyciadau gan y banc datblygu eu hunain, ac nid yw pob un ohonynt wedi'u had-dalu. Felly nid wyf yn credu y gallwch ddweud yn rhesymol nad yw Llywodraeth Cymru wedi gwneud popeth yn ei gallu i helpu'r cwmni masnachol hwn.
Nawr, rydych chi'n iawn i fod yn bryderus am yr effaith ar y diwydiant mewn cyfnod sydd eisoes yn un anodd i'r diwydiant. Rydym yn dal i gredu bod hwn yn fusnes cadarn os yw'n cael ei weithredu'n briodol, ac rydym yn obeithiol y bydd y gweinyddwyr yn gallu dod o hyd i brynwr a fydd yn gallu parhau i weithredu'r ffatri ar y safle ac ailgyflogi cymaint o bobl leol â phosibl. Rwy'n credu bod gennym reswm i fod yn optimistaidd am hynny: aeth GRH Food ger Porthmadog i ddwylo'r gweinyddwyr oddeutu chwe mis yn ôl, ac mae bellach yn weithredol unwaith eto. Felly, o ran capasiti'r diwydiant bwyd a'n strategaeth, credaf y gallwn fod yn hyderus fod hynny'n mynd i'r cyfeiriad cywir, ond ni allwn ficroreoli pob busnes na bod yn gyfrifol am bob penderfyniad rheoli y maent yn ei wneud. Gallwn wneud ein gorau drwy ein swyddfeydd a thrwy ein partneriaid i gefnogi a helpu, ac rydym yn hyderus ein bod wedi gwneud hynny.
Diolch am eich datganiad hyd yn hyn, Weinidog. Rwy'n siarad, wrth gwrs, fel y llefarydd materion gwledig, ac yn amlwg mae'r gefnogaeth i'r gweithwyr sydd wedi colli eu swyddi yn allweddol bwysig. O glywed am y digwyddiad galw heibio sy'n cael ei drefnu ar gyfer dydd Llun—gobeithio y bydd yn gam cyntaf tuag at gael llawer o'r unigolion hynny'n ôl mewn gwaith.
Ond hoffwn godi dau fater gyda chi, cynhaliodd Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr ddigwyddiad i fyny'r grisiau amser cinio a oedd yn tynnu sylw at yr effaith ar y sector ffermydd llaeth. Roedd tua 100 a mwy o gynhyrchwyr yn cyflenwi'r ffatri, yn ôl yr hyn a ddeallaf. Bydd yn rhaid i lawer gymryd eu lle yn y ciw o gredydwyr i'r cwmni sydd yn nwylo'r gweinyddwyr, ac ymddengys na thelir am werth chwe wythnos o laeth yn ôl pob tebyg. Pa gymorth y gall Llywodraeth Cymru ei roi i geisio sicrhau na chaiff llif arian ei dorri yn ystod yr hydref drwy gynllun y taliad sengl? Mewn un enghraifft a bwysleisiwyd i mi, o dan y cynllun benthyg y mae'r Llywodraeth wedi'i ddarparu dan y taliad sengl, os cawsoch y benthyciad hwnnw o fewn y tair blynedd diwethaf, ni fyddech yn gymwys ar ei gyfer eleni. Nid wyf yn gwybod a yw hynny'n gywir ai peidio, ond pe gallech gadarnhau hynny, buaswn yn ddiolchgar iawn. Oherwydd os ydych wedi cael y benthyciad yn ystod y tair blynedd diwethaf, mae'n debyg na allwch ei gael, ond o ystyried yr amgylchiadau force majeure i'r ffermwyr llaeth hyn, mae'n hanfodol fod y llif arian yn cael ei gynnal.
Yn ail, roedd yn dda clywed eich bod yn weddol optimistaidd ynghylch dyfodol y safle, oherwydd yn anffodus, nid oes gennym lawer o gapasiti prosesu llaeth hylif yma yng Nghymru. A allwch chi roi'r newyddion diweddaraf i ni ynglŷn â pha mor optimistaidd ydych chi ynghylch sicrhau dyfodol hirdymor y gwaith fel y gellir gwneud defnydd da ohono unwaith eto, a throi llaeth Cymru yn gynnyrch yfadwy y gellir ei roi ar y silffoedd i ddefnyddwyr ac i mewn i oergelloedd mor gyflym â phosibl? Oherwydd os collwn y safle hwn, rwy'n credu fy mod yn gywir i ddweud na fydd gennym ffatri fawr ar gyfer prosesu llaeth hylif yma yng Nghymru.
Diolch am y cwestiynau. Rydym mor hyderus ag y gallwn fod, ond yn amlwg, mae hynny'n ddibynnol ar fod popeth arall yn gyfartal, ac nid yw popeth arall yn gyfartal. Gwyddom fod y diwydiant o dan gryn dipyn o straen. Mae'r cwmni wedi wynebu rhai problemau sy'n unigryw i'r cwmni, ond mae hefyd wedi wynebu'r problemau y mae eraill yn eu hwynebu. Mae anwadalrwydd y gyfradd gyfnewid ers i Lywodraeth y DU fethu cyflawni'r cytundeb a negododd â'r Undeb Ewropeaidd, a'r ansicrwydd y mae hynny wedi'i achosi, wedi bod yn ffactor arwyddocaol yn sefyllfa'r cwmni, yn enwedig o ran argaeledd llif arian. Mae honno'n broblem ar draws y diwydiant. [Torri ar draws.] Rwy'n ofni na allaf glywed y gŵr anrhydeddus sy'n gweiddi ar fy nhraws, ond rwy'n ceisio ateb y cwestiynau y mae'n eu gofyn; efallai nad dyma'r ateb y chwiliai amdano, ond dyma'r gwir. Mae effaith ansicrwydd y sefyllfa gyda Brexit yn cael effaith amlwg a gwirioneddol ar y diwydiant, ac mae wedi cael effaith benodol yn yr achos hwn. Nid dyna'r unig ffactor, ond mae'n ffactor arwyddocaol. [Torri ar draws.] Mae'r gŵr bonheddig yn dweud ei fod yn sgandal. Hoffwn ddweud wrtho ei bod hi'n sgandal ei fod yn rhoi ei fysedd yn ei glustiau ac yn anwybyddu'r hyn sy'n digwydd o'n cwmpas ni ac effaith y polisïau byrbwyll y mae'n eu dilyn, ac y bu'n eu dilyn yn ddifeddwl dros y tair blynedd diwethaf. Wel, dyma ganlyniad hynny. Dyma sut y mae'n edrych—swyddi, bywoliaeth, dyfodol diwydiant yn ein gwlad, yng ngogledd Cymru—canlyniad yr ansicrwydd a'r amrywiad yn y gyfradd gyfnewid, a'r effaith ar lif arian busnesau. Nawr, gallwn wneud popeth a allwn, ond dyna'r cyfan y gallwn ei wneud. Ni allwn atal y grymoedd hyn sy'n cael eu rhyddhau ganddo ef a'i gyd-Aelodau byrbwyll.
O ran y sylwadau penodol y mae'n eu gwneud—[Torri ar draws.] Mae'n dweud 'rwtsh llwyr'. Wel, rwy'n ofni ei fod wedi cyfeirio at gynllun benthyciadau y mae'n honni ei bod wedi bod yn weithredol ers tair blynedd ond nid yw ond wedi bod yn weithredol ers blwyddyn. Felly, os yw eisiau cyfnewid sylwadau am 'rwtsh llwyr', gallwn ein dau chwarae'r gêm honno. Buaswn yn hapus i ysgrifennu ato ar rai o'r pwyntiau manwl a wnaeth.FootnoteLink Gallaf roi ymrwymiad diffuant iddo: byddwn yn gwneud popeth a allwn i sicrhau dyfodol y diwydiant hwn, a'r busnes hwn, ond mae terfynau i'r hyn y gallwn ei wneud.
Daeth £5 miliwn, rwy'n credu, o'r buddsoddiad o £22 miliwn yn Tomlinsons yn 2017 gan Lywodraeth Cymru, ac wrth gwrs, mae hynny'n codi cwestiynau ynglŷn â lefel y warchodaeth gytundebol i'r bunt gyhoeddus. Ond fel y clywsom, dyma'r ail safle prosesu llaeth yng Nghymru i gau, sy'n golygu y bydd mwy na hanner y cynnyrch llaeth bellach yn gorfod cael ei gludo i rywle arall. Cafodd y bwrdd arwain llaeth eu cyfarfod diwethaf bedair blynedd yn ôl, ond mae ei gasgliadau'n dal i sefyll, gan gynnwys yr angen i ddenu proseswyr y pen uchaf i Gymru. Mae Cymru'n gynhyrchydd llaeth o'r radd flaenaf ar draws cyfandir Ewrop a thu hwnt. Mae cynhyrchu llaeth yn symud i'r gogledd ac i'r gorllewin am fod porfa'n tyfu'n well yma. Felly, ers yr argymhelliad hwnnw gan y bwrdd arwain llaeth bedair blynedd yn ôl, sut rydych chi yn, neu wedi, rhoi'r camau angenrheidiol ar waith i ddatblygu a diogelu'r sector prosesu yng Nghymru, nid yn unig o ran llaeth, ond hefyd o ran gwneud y mwyaf o'r cyfle masnachol i ddatblygu cydrannau llaeth Cymru, sy'n cynnig cyfleoedd cyffrous i sicrhau twf yn yr economi wledig yn y dyfodol, a marchnata hynny i berchnogion newydd posibl, wrth i chi chwilio am rywun i'w brynu fel busnes sy'n tyfu?
Mae'n rhyfedd mai byrdwn y feirniadaeth yw nad ydym wedi gwneud digon i ddiogelu'r cwmni, ac yna mae'n cwestiynu'r gefnogaeth rydym wedi'i rhoi. Dwy elfen o gymorth a roddwyd gennym yn uniongyrchol—y grant £5 miliwn ar gyfer cynllun penodol i'w helpu i ddatblygu a dod yn fwy gwydn, a'r grant buddsoddi mewn busnesau bwyd, a gafodd ei roi yn unol â phroses diwydrwydd dyladwy ac a oedd yn bodloni'r holl amodau grant—rhoddwyd y cymorth ychwanegol gan Fanc Datblygu Cymru i'w helpu gyda llif arian a materion eraill, ac yn amlwg, ynghyd â'r buddsoddwyr masnachol, nid ydym wedi gallu sicrhau ad-daliad llawn o hwnnw. Ond os gellir ein cyhuddo o unrhyw beth, yn sicr ni ellir ein cyhuddo o beidio â chynnig digon o gefnogaeth i'r cwmni.
Ond mae yna bethau na allwn eu rheoli. Clywn y gŵr bonheddig yn sôn yn aml am rinweddau'r farchnad. Wel, mae'r marchnadoedd yn weithredol yma, ac mae cwmnïau masnachol, unigol yn gwneud penderfyniadau, mae rheolwyr yn gwneud penderfyniadau, ac mae canlyniadau i'r penderfyniadau hynny. Rydym yn dal i fod yn hyderus fod yna fusnes da i'w redeg yma, ac rydym yn gobeithio y bydd y gweinyddwyr yn llwyddo i sicrhau darparwyr amgen. Byddwn yn gweithio gyda hwy i barhau i'w cefnogi. Ar y pwyntiau ehangach y mae'r gŵr bonheddig yn eu gwneud am gefnogaeth i'r diwydiant, fe ofynnaf i fy nghyd-Aelod, Lesley Griffiths, ysgrifennu ato i roi ymateb manwl.
Diolch i'r Dirprwy Weinidog. Mae'r cwestiwn nesaf i'w ateb gan Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol, ac mae'r cwestiwn i'w ofyn gan Alun Davies.