Part of 4. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:39 pm ar 16 Hydref 2019.
Beth bynnag ein barn ni fel unigolion am annibyniaeth i Gymru, beth bynnag ein safbwynt ar yr egwyddor o wledydd llai yn yr ynysoedd yma, neu ar draws Ewrop, yn mynnu eu hawl i ryddid, ac i gymryd y cyfrifoldeb am eu dyfodol eu hunain, mi ddylai gweithredoedd y wladwriaeth Sbaeneg yr wythnos yma, yn carcharu naw o ddemocratiaid am gyfanswm o 100 mlynedd am y drosedd o fynnu llais i'w pobl, ddychryn pob un ohonon ni.
Mi oeddwn i yn Senedd Catalonia rhyw ddeufis yn ôl; dwi'n ddiolchgar am y croeso a dderbyniais i a fy nheulu. Mi sefais i yno yn y Siambr, lle mynnodd yr arweinwyr gwleidyddol roi eu ffydd yn y bobl maen nhw yn eu cynrychioli. Mi sefais i dan luniau llywyddion y Senedd honno dros y blynyddoedd—gwleidyddion sydd wedi mynnu i Gatalonia fod yn genedl ac wedi mynnu iddi gael ei Senedd ei hun i warchod ei buddiannau a lleisio ei dyheadau. Yn eu plith nhw oedd Carme Forcadell, sydd heddiw mewn carchar, yn euog o'r drosedd o ganiatáu dadl yn y Senedd honno.
Y diwrnod hwnnw hefyd mi oeddwn i'n gwisgo'r bathodyn yma—y symbol sydd i'w weld ymhob cwr o Gatalonia: ar dai, ar geir, mewn ffenestri, ar y ffyrdd a phalmentydd, ac yng nghalonau miliynau o bobl Catalonia. Y symbol o undod a chefnogaeth i'r rhai hynny—pobl fel chi a fi—sydd dan glo yn enw democratiaeth. Mi wn i yn iawn fod yna wahaniaeth barn yng Nghatalonia ar ddyfodol y wlad ac ar ei pherthynas â'r wladwriaeth Sbaenaidd, ond mae'r wladwriaeth honno, wrth gwrs, yn gwadu llais i'r bobl i benderfynu ar ei ffawd ei hunain.