Part of the debate – Senedd Cymru am 4:10 pm ar 16 Hydref 2019.
Diolch, Lywydd. Mae Cymru mewn sefyllfa wych i arwain yn fyd-eang ar leihau gwastraff plastig untro yn sylweddol, gan ddefnyddio'r arferion, y dystiolaeth a'r gwaith ymchwil gorau yn rhyngwladol, a'n pwerau newydd dros drethi ac ardollau i ysgogi newid ymddygiad, a thrwy gyflwyno cynllun gweithredu trawslywodraethol gyda chyfres gynhwysfawr o fesurau, targedau a cherrig milltir. Gallwn atal y llanw plastig sydd ar gynnydd a rhaid inni wneud hynny, oherwydd mae'n ymddangos fwyfwy yn debycach i tswnami nag i lanw.
Caiff tua 40 y cant o'r plastig a gynhyrchir ei ddefnyddio mewn deunydd pacio yn y DU, ac mae'r DU yn cynhyrchu tua 2.4 miliwn tunnell y flwyddyn o wastraff deunydd pacio, gyda thua 1.7 miliwn tunnell ohono'n dod o gartrefi. Mae dros 90 y cant o blastigau'n deillio o danwyddau ffosil, felly dyna sydd i gyfrif am 6 y cant o'r defnydd o olew yn fyd-eang, sy'n cyfateb i'r diwydiant awyrennau. Yn ôl adroddiad yn 2016, caiff tua 237 miliwn o gwpanau coffi ac 183 miliwn o gaeadau cwpanau coffi eu defnyddio bob blwyddyn yng Nghymru, sef 2,600 tunnell o gwpanau coffi a 550 tunnell o gaeadau. Amcangyfrifir mai 0.25 y cant yn unig a ailgylchir. Ac yn frawychus, dywedir bod 72 y cant o ddeunydd pacio plastig yn cael ei ollwng i'r amgylchedd neu ei gludo i safleoedd tirlenwi ledled y byd.
Gwyddom fod macroblastigau'n llygru ein hafonydd a'n pridd, ein traethau a'n moroedd, o ddŵr wyneb i ffosydd cefnforol dwfn, ac mae microblastigau'n halogi rhew ac eira arctig dilychwin yn y Pyreneau uchaf, llynnoedd anghysbell ym Mongolia a Llynnoedd Mawr Gogledd America, priddoedd gorlifdir yn y Swistir, tywod y Sahara, a'r dŵr daear a'r dŵr glaw sy'n bwydo ein cnydau ac yn rhoi dŵr i ni ei yfed. Ar ôl lapio ein bwyd a phopeth arall mewn plastig, y deunydd rhyfeddol hwn a grëwyd o wyddoniaeth yr ugeinfed ganrif, rydym yn awr yn lapio'r blaned mewn plastig hefyd. A chanfuwyd microblastigau mewn cregyn gleision, mewn pysgod, mewn ieir a hyd yn oed mewn mêl—mewn mêl. Gan eithrio figaniaid, rhydd hyn ystyr cwbl newydd i 'Yr hyn rwyt ti'n ei fwyta wyt ti.'
Mae plastigau mor ddefnyddiol mewn cymaint o ffyrdd, ac eto yn ein diwylliant tafladwy, mae plastigau untro bellach yn dinistrio'r blaned a garwn, ac yn difetha'r amgylchedd a welwn o'n cwmpas a'r microamgylchedd na allwn ei weld mor hawdd. Felly, gadewch i ni edrych ar rai o'r ffyrdd y gall deddfwriaeth helpu i droi'r llanw ar blastigau.
Mae gwaharddiadau llwyr ar blastigau untro fel bagiau siopa, rhywbeth a wnaed ym Mangladesh ac yng Nghanada, wedi gweithio; gwaharddwyd gwellt plastig yn rhai o daleithiau UDA, a gwaharddwyd cyllyll a ffyrc plastig yn Ffrainc, a dyma'r ffordd hawsaf o gael effaith ddramatig. Yng Nghymru, dylem fabwysiadu ymagwedd ehangach, a dylem gynnwys ffyn cotwm a chyllyll a ffyrc, trowyr diod a gwellt, platiau, ffyn balwnau, cynwysyddion bwyd polystyren ehangedig, cynwysyddion diod a chwpanau, hancesi gwlyb, cydau bach plastig ar gyfer sawsiau, a dylem ystyried cael gwared ar bob bag siopa untro yn llwyr erbyn hyn.
Dylem weithredu ynglŷn â'r dryswch sylweddol ynghylch y gallu i ailgylchu deunyddiau yng Nghymru, er gwaethaf ein llwyddiant mawr yn gwella cyfraddau ailgylchu, a chanfod ffyrdd megis Cronfa Ellie i godi ymwybyddiaeth o sut i ailgylchu deunyddiau anos fel beiros, pacedi creision, brwsys dannedd a thopiau poteli glanhau. Byddai cyflwyno nod masnach a logo 'gwnaed yng Nghymru, ailgylchir yng Nghymru' yn ysgogi ailddefnyddio ac ailgylchu yng Nghymru, fel y byddai argymhellion i'w gwneud yn ofynnol i fusnesau gael gwared ar blastigau ar gyfer eitemau a ddosberthir, a'u hailgylchu, o ddeunydd pacio bwyd i beiriannau golchi, neu fêls gwair a lapir mewn plastigion, fel y gwelsom yn gynharach heddiw.
Gallai ariannu mentrau i hyrwyddo'r newid i eitemau glanweithiol amldro helpu i ymgysylltu ag ysgolion a meddygon teulu a chanolfannau cymorth cyn-geni. Gallai ystyried ei gwneud yn ofynnol i osod ffowntenni dŵr mewn mannau cyhoeddus gryfhau uchelgais Cymru i fod yn genedl ail-lenwi dŵr. A gadewch imi ddweud, mae mecanweithiau ariannol yn gweithio. Arweiniodd cyflwyno treth o 5c ar gwpanau papur at gynnydd o 156 y cant yn y defnydd o gwpanau y gellir eu hailddefnyddio mewn cwta chwe wythnos yn Starbucks yn Llundain. Mae'n gweithio. Mae tystiolaeth yn dangos po fwyaf yw'r dreth ar blastigau, y mwyaf yw'r effaith. Yng Nghymru, gallem ymestyn hyn i gynnwys cynhyrchion niweidiol sydd y tu allan i gyfrifoldeb estynedig cynhyrchwyr a chyfyngiadau marchnad, felly dillad a balwnau plastig, gwm cnoi, beiros untro, deunydd pacio i ddiogelu eitemau post a hancesi gwlyb. Yn fyd-eang, profwyd bod cynlluniau dychwelyd ernes yn cynyddu cyfraddau ailgylchu, yn lleihau halogiad ac yn symleiddio'r defnydd o ddeunyddiau. Tra bod y DU yn cnoi cil ar hyn, gallai cynllun dychwelyd ernes a weinyddir yn ganolog yma yng Nghymru greu swyddi, sbarduno galw'r farchnad, a sicrhau bod manteision cynllun o'r fath yn cael eu cadw yng Nghymru, ac wrth gyflawni'r nod hwn, dylem sicrhau bod pob cynhwysydd o bob maint o fewn y mesurau dychwelyd ernes hyn.
Gallem gyflwyno treth plastigau untro wedi'i thargedu'n ofalus yn seiliedig ar gyfran y deunydd wedi'i ailgylchu yn y cynnyrch a chyda chosbau am ddefnyddio plastig newydd sbon. Gallem gynnig cymhellion treth hefyd, fel rhyddhad treth dros dro neu ostyngiadau ar gyfer cefnogi caffael cynaliadwy a swmp-brynu mewn ardaloedd gwella busnes ar gyfer trefi diwastraff, neu sefydliadau eraill sy'n mynd ar drywydd statws diwastraff, fel ysgolion ac ysbytai, neu hyd yn oed fanwerthwyr a busnesau diwastraff unigol, a mentrau ailddefnyddio ac atgyweirio. A dylem gyflwyno cynllun gweithredu ar ostwng y defnydd o blastig untro, gan fynd i'r afael â gwahanol sectorau'n briodol, yn debyg iawn, mae'n rhaid i mi ddweud, i gynllun datgarboneiddio presennol Llywodraeth Cymru, sy'n canolbwyntio ar feysydd allweddol megis gofal cymdeithasol a ffermio, twristiaeth ac adeiladu. Ym maes twristiaeth er enghraifft, Lywydd, gallem gynnig Cymru ddiwastraff fel cyrchfan ar gyfer y byd, yn hytrach na pholisi gwastraff uchelgeisiol yn unig. O ran caffael, gallem ddatblygu canllawiau wedi'u diwygio a'u hatgyfnerthu i hyrwyddo caffael cynaliadwy drwy ein sefydliadau angori, fel y byrddau iechyd, awdurdodau addysg, gwasanaethau tai a gofal cymdeithasol, a chael gwared ar anghysonderau fel cartonau llaeth plastig mewn ysgolion. Gallem gyflwyno gofyniad i bob digwyddiad, rhaglen a phrosiect a ariennir yn gyhoeddus wahardd plastigau untro, a mynd ymhellach i sicrhau y dylai pob digwyddiad, gan gynnwys gwyliau bwyd a digwyddiadau chwaraeon, ymrwymo i wahardd plastigau untro fel rhan o'u gofynion trwyddedu. Ac o ran targedau a cherrig milltir, gallwn fynd ymhellach na'r gyfarwyddeb ar blastig untro a chyflwyno dull yng Nghymru o fesur sut y mae hyn yn effeithio ar leihau allyriadau carbon a dadansoddi data sbwriel a chyfansoddiad gwastraff.
Nawr, dim ond syniadau agoriadol yw'r rhain ynglŷn â'r hyn y gallai'r ddeddfwriaeth hon ei wneud. Edrychaf ymlaen at glywed gan fy nghyd-Aelodau yn y Cynulliad a'r Gweinidog hefyd, cyn imi orffen yr hyn a fydd, rwy'n siŵr, yn ddadl adeiladol iawn ar sut i atal y llanw plastig.