– Senedd Cymru am 4:10 pm ar 16 Hydref 2019.
Yr eitem nesaf yw'r ddadl ar gynnig deddfwriaethol gan Aelod, ac mae'r eitem yma ar ddefnyddio plastigau untro, a dwi'n galw ar Huw Irranca-Davies i wneud y cynnig. Huw Irranca-Davies.
Cynnig NDM7155 Huw Irranca-Davies
Cefnogwyd gan Alun Davies, Andrew R.T. Davies, David Rees, Dawn Bowden, Delyth Jewell, Hefin David, Jack Sargeant, Jayne Bryant, Joyce Watson, Neil McEvoy, Rhianon Passmore, Vikki Howells
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil ar ddefnyddio plastigau untro.
2. Yn nodi mai diben y Bil hwn fyddai:
a) lleihau'n sylweddol y defnydd o blastigau untro yn seiliedig ar yr arferion a'r ymchwil rhyngwladol gorau, a fyddai'n sefydlu Cymru fel arweinydd byd o ran lleihau gwastraff plastig;
b) cyflwyno trethi ac ardollau priodol er mwyn lleihau'n sylweddol y gwaith o gynhyrchu plastigau untro yng Nghymru a'r defnydd ohonynt;
c) cyflwyno cynllun gweithredu trawslywodraethol gan gynnwys cyfres gynhwysfawr o fesurau i leihau'n sylweddol y defnydd o blastigau untro;
d) pennu targedau a cherrig milltir ar gyfer lleihau plastigau untro penodol.
Diolch, Lywydd. Mae Cymru mewn sefyllfa wych i arwain yn fyd-eang ar leihau gwastraff plastig untro yn sylweddol, gan ddefnyddio'r arferion, y dystiolaeth a'r gwaith ymchwil gorau yn rhyngwladol, a'n pwerau newydd dros drethi ac ardollau i ysgogi newid ymddygiad, a thrwy gyflwyno cynllun gweithredu trawslywodraethol gyda chyfres gynhwysfawr o fesurau, targedau a cherrig milltir. Gallwn atal y llanw plastig sydd ar gynnydd a rhaid inni wneud hynny, oherwydd mae'n ymddangos fwyfwy yn debycach i tswnami nag i lanw.
Caiff tua 40 y cant o'r plastig a gynhyrchir ei ddefnyddio mewn deunydd pacio yn y DU, ac mae'r DU yn cynhyrchu tua 2.4 miliwn tunnell y flwyddyn o wastraff deunydd pacio, gyda thua 1.7 miliwn tunnell ohono'n dod o gartrefi. Mae dros 90 y cant o blastigau'n deillio o danwyddau ffosil, felly dyna sydd i gyfrif am 6 y cant o'r defnydd o olew yn fyd-eang, sy'n cyfateb i'r diwydiant awyrennau. Yn ôl adroddiad yn 2016, caiff tua 237 miliwn o gwpanau coffi ac 183 miliwn o gaeadau cwpanau coffi eu defnyddio bob blwyddyn yng Nghymru, sef 2,600 tunnell o gwpanau coffi a 550 tunnell o gaeadau. Amcangyfrifir mai 0.25 y cant yn unig a ailgylchir. Ac yn frawychus, dywedir bod 72 y cant o ddeunydd pacio plastig yn cael ei ollwng i'r amgylchedd neu ei gludo i safleoedd tirlenwi ledled y byd.
Gwyddom fod macroblastigau'n llygru ein hafonydd a'n pridd, ein traethau a'n moroedd, o ddŵr wyneb i ffosydd cefnforol dwfn, ac mae microblastigau'n halogi rhew ac eira arctig dilychwin yn y Pyreneau uchaf, llynnoedd anghysbell ym Mongolia a Llynnoedd Mawr Gogledd America, priddoedd gorlifdir yn y Swistir, tywod y Sahara, a'r dŵr daear a'r dŵr glaw sy'n bwydo ein cnydau ac yn rhoi dŵr i ni ei yfed. Ar ôl lapio ein bwyd a phopeth arall mewn plastig, y deunydd rhyfeddol hwn a grëwyd o wyddoniaeth yr ugeinfed ganrif, rydym yn awr yn lapio'r blaned mewn plastig hefyd. A chanfuwyd microblastigau mewn cregyn gleision, mewn pysgod, mewn ieir a hyd yn oed mewn mêl—mewn mêl. Gan eithrio figaniaid, rhydd hyn ystyr cwbl newydd i 'Yr hyn rwyt ti'n ei fwyta wyt ti.'
Mae plastigau mor ddefnyddiol mewn cymaint o ffyrdd, ac eto yn ein diwylliant tafladwy, mae plastigau untro bellach yn dinistrio'r blaned a garwn, ac yn difetha'r amgylchedd a welwn o'n cwmpas a'r microamgylchedd na allwn ei weld mor hawdd. Felly, gadewch i ni edrych ar rai o'r ffyrdd y gall deddfwriaeth helpu i droi'r llanw ar blastigau.
Mae gwaharddiadau llwyr ar blastigau untro fel bagiau siopa, rhywbeth a wnaed ym Mangladesh ac yng Nghanada, wedi gweithio; gwaharddwyd gwellt plastig yn rhai o daleithiau UDA, a gwaharddwyd cyllyll a ffyrc plastig yn Ffrainc, a dyma'r ffordd hawsaf o gael effaith ddramatig. Yng Nghymru, dylem fabwysiadu ymagwedd ehangach, a dylem gynnwys ffyn cotwm a chyllyll a ffyrc, trowyr diod a gwellt, platiau, ffyn balwnau, cynwysyddion bwyd polystyren ehangedig, cynwysyddion diod a chwpanau, hancesi gwlyb, cydau bach plastig ar gyfer sawsiau, a dylem ystyried cael gwared ar bob bag siopa untro yn llwyr erbyn hyn.
Dylem weithredu ynglŷn â'r dryswch sylweddol ynghylch y gallu i ailgylchu deunyddiau yng Nghymru, er gwaethaf ein llwyddiant mawr yn gwella cyfraddau ailgylchu, a chanfod ffyrdd megis Cronfa Ellie i godi ymwybyddiaeth o sut i ailgylchu deunyddiau anos fel beiros, pacedi creision, brwsys dannedd a thopiau poteli glanhau. Byddai cyflwyno nod masnach a logo 'gwnaed yng Nghymru, ailgylchir yng Nghymru' yn ysgogi ailddefnyddio ac ailgylchu yng Nghymru, fel y byddai argymhellion i'w gwneud yn ofynnol i fusnesau gael gwared ar blastigau ar gyfer eitemau a ddosberthir, a'u hailgylchu, o ddeunydd pacio bwyd i beiriannau golchi, neu fêls gwair a lapir mewn plastigion, fel y gwelsom yn gynharach heddiw.
Gallai ariannu mentrau i hyrwyddo'r newid i eitemau glanweithiol amldro helpu i ymgysylltu ag ysgolion a meddygon teulu a chanolfannau cymorth cyn-geni. Gallai ystyried ei gwneud yn ofynnol i osod ffowntenni dŵr mewn mannau cyhoeddus gryfhau uchelgais Cymru i fod yn genedl ail-lenwi dŵr. A gadewch imi ddweud, mae mecanweithiau ariannol yn gweithio. Arweiniodd cyflwyno treth o 5c ar gwpanau papur at gynnydd o 156 y cant yn y defnydd o gwpanau y gellir eu hailddefnyddio mewn cwta chwe wythnos yn Starbucks yn Llundain. Mae'n gweithio. Mae tystiolaeth yn dangos po fwyaf yw'r dreth ar blastigau, y mwyaf yw'r effaith. Yng Nghymru, gallem ymestyn hyn i gynnwys cynhyrchion niweidiol sydd y tu allan i gyfrifoldeb estynedig cynhyrchwyr a chyfyngiadau marchnad, felly dillad a balwnau plastig, gwm cnoi, beiros untro, deunydd pacio i ddiogelu eitemau post a hancesi gwlyb. Yn fyd-eang, profwyd bod cynlluniau dychwelyd ernes yn cynyddu cyfraddau ailgylchu, yn lleihau halogiad ac yn symleiddio'r defnydd o ddeunyddiau. Tra bod y DU yn cnoi cil ar hyn, gallai cynllun dychwelyd ernes a weinyddir yn ganolog yma yng Nghymru greu swyddi, sbarduno galw'r farchnad, a sicrhau bod manteision cynllun o'r fath yn cael eu cadw yng Nghymru, ac wrth gyflawni'r nod hwn, dylem sicrhau bod pob cynhwysydd o bob maint o fewn y mesurau dychwelyd ernes hyn.
Gallem gyflwyno treth plastigau untro wedi'i thargedu'n ofalus yn seiliedig ar gyfran y deunydd wedi'i ailgylchu yn y cynnyrch a chyda chosbau am ddefnyddio plastig newydd sbon. Gallem gynnig cymhellion treth hefyd, fel rhyddhad treth dros dro neu ostyngiadau ar gyfer cefnogi caffael cynaliadwy a swmp-brynu mewn ardaloedd gwella busnes ar gyfer trefi diwastraff, neu sefydliadau eraill sy'n mynd ar drywydd statws diwastraff, fel ysgolion ac ysbytai, neu hyd yn oed fanwerthwyr a busnesau diwastraff unigol, a mentrau ailddefnyddio ac atgyweirio. A dylem gyflwyno cynllun gweithredu ar ostwng y defnydd o blastig untro, gan fynd i'r afael â gwahanol sectorau'n briodol, yn debyg iawn, mae'n rhaid i mi ddweud, i gynllun datgarboneiddio presennol Llywodraeth Cymru, sy'n canolbwyntio ar feysydd allweddol megis gofal cymdeithasol a ffermio, twristiaeth ac adeiladu. Ym maes twristiaeth er enghraifft, Lywydd, gallem gynnig Cymru ddiwastraff fel cyrchfan ar gyfer y byd, yn hytrach na pholisi gwastraff uchelgeisiol yn unig. O ran caffael, gallem ddatblygu canllawiau wedi'u diwygio a'u hatgyfnerthu i hyrwyddo caffael cynaliadwy drwy ein sefydliadau angori, fel y byrddau iechyd, awdurdodau addysg, gwasanaethau tai a gofal cymdeithasol, a chael gwared ar anghysonderau fel cartonau llaeth plastig mewn ysgolion. Gallem gyflwyno gofyniad i bob digwyddiad, rhaglen a phrosiect a ariennir yn gyhoeddus wahardd plastigau untro, a mynd ymhellach i sicrhau y dylai pob digwyddiad, gan gynnwys gwyliau bwyd a digwyddiadau chwaraeon, ymrwymo i wahardd plastigau untro fel rhan o'u gofynion trwyddedu. Ac o ran targedau a cherrig milltir, gallwn fynd ymhellach na'r gyfarwyddeb ar blastig untro a chyflwyno dull yng Nghymru o fesur sut y mae hyn yn effeithio ar leihau allyriadau carbon a dadansoddi data sbwriel a chyfansoddiad gwastraff.
Nawr, dim ond syniadau agoriadol yw'r rhain ynglŷn â'r hyn y gallai'r ddeddfwriaeth hon ei wneud. Edrychaf ymlaen at glywed gan fy nghyd-Aelodau yn y Cynulliad a'r Gweinidog hefyd, cyn imi orffen yr hyn a fydd, rwy'n siŵr, yn ddadl adeiladol iawn ar sut i atal y llanw plastig.
Hoffwn ddiolch i Huw Irranca-Davies am ddod â'r cynnig hwn gerbron y Senedd. Roeddwn yn falch o gefnogi'r cynnig i gyflwyno Mesur ar leihau'r defnydd o blastig untro ar ran grŵp Plaid Cymru.
Ers i blastig gael ei ddefnyddio ar raddfa ddiwydiannol, mae llygredd o'i herwydd wedi cynyddu'n ddyddiol i'r graddau anferth rydym yn ei weld heddiw, am y rheswm sylw nad yw plastig yn pydru dros amser. Yn ôl Beachwatch, mae cynnydd wedi bod dros y ddegawd ddiwethaf mewn darnau o blastig ar gyfer pob 100m o arfordir, o 381 darn i 485 darn. Nawr, mae pob un darn o blastig yn llygru'r amgylchedd yna ac mae'n cael effaith ofnadwy ar fywyd naturiol.
Clywodd bwyllgor amgylchedd y Senedd yn ddiweddar gan Brifysgol Caerdydd fod hanner y pryfed yn Afon Taf â phlastig ynddyn nhw a bod meicroblastigau yn bla ledled afonydd Cymru. Dyw hon ddim yn broblem y gallwn ein hailgylchu ein ffordd ohoni ychwaith oherwydd natur plastig, ac mae'n destun pryder bod dros 60 y cant o blastig y mae Cymru yn ei ailgylchu yn cael ei allforio. Ni ddylai gwlad sydd eisiau bod yn gyfrifol yn fyd-eang allforio llygredd i lefydd eraill.
Fe wnes i gyhoeddi'n ddiweddar y byddai Plaid Cymru mewn Llywodraeth yn anelu at wahardd plastig untro diangen erbyn canol y ddegawd nesaf. Gallai Llywodraeth Cymru ddechrau ar y gwaith hwn nawr drwy gyhoeddi bwriad i wahardd bagiau plastig cyn gynted â bod hynny'n ymarferol, fel mae 70 o wledydd eisoes wedi'i wneud, gan anelu wedyn i wahardd wet wipes a pholystyren, a rhai o'r pethau eraill y mae Huw Irranca-Davies wedi'u gosod mas.
Mae camau eraill a all gael eu cymryd, yn cynnwys addysgu pobl ynglŷn â'r angen i leihau ein defnydd o blastigau untro; labelu cynnyrch plastig er mwyn galluogi cwsmeriaid i wneud penderfyniadau goleuedig wrth brynu nwyddau; hyrwyddo cynnyrch sydd ddim yn cyfrannu at y broblem gyda label nodedig, fel y mae Fairtrade wedi'i wneud gyda chynnyrch moesegol; cyflwyno levy ar gynnyrch fel cwpanau plastig, sydd wedi cael ei osod mas, er mwyn annog pobl i ddefnyddio rhai eu hunain; a chyflwyno rheoliadau i leihau defnydd mewn gwyliau ac ati.
Llywydd, mae Plaid Cymru yn falch o gefnogi'r cynnig deddfwriaethol hwn heddiw fel cam bach ond cam pwysig ar y ffordd tuag at waredu plastigau untro o'r economi. Diolch.
Rwy'n falch iawn o gefnogi menter Huw Irranca, oherwydd ni allwn barhau i fwyta plastig ac anadlu gronynnau plastig yn yr aer a anadlwn. Ni allwn sefyll o'r neilltu a gwneud dim i atal y mynyddoedd plastig rydym yn eu creu rhag cynyddu ymhellach, yn ôl y briff a gawsom gan yr amrywiol elusennau sy'n cefnogi'r fenter hon, oherwydd ein methiant i ddod o hyd i ddewisiadau eraill mwy cynaliadwy ar gyfer eitemau technoleg isel bob dydd, pan fo cymaint o ddeunyddiau amgen eraill y gallwn eu defnyddio.
Gallwn ymfalchïo yn ein henw da am ailgylchu yng Nghymru, gan ein bod yn drydydd yn y byd, ond mae angen inni wneud mwy—ni allwn sefyll o'r neilltu a gwylio ein cefnforoedd yn cael eu gwenwyno. Yn y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ddydd Llun, roeddem yn edrych ar ein perfformiad o ran ailgylchu trefol ac mae dau beth a glywsom wedi aros yn fy meddwl. Un yw bod y bagiau startsh ŷd ar gyfer ailgylchu bwyd a gaiff eu dosbarthu'n rhad ac am ddim gan lawer o awdurdodau lleol, ond y bydd eraill yn codi tâl amdanynt, yn tagu'r peirianwaith a ddefnyddir i brosesu gwastraff bwyd mewn gwirionedd, a bod llawer o awdurdodau lleol bellach yn mynd i droi'n ôl at ofyn i bobl ei roi mewn bagiau plastig yn lle hynny, a byddent yn eu tynnu wedyn o'r gwastraff bwyd yn y safle ailgylchu. Nawr, mae hynny'n ymddangos yn wallgofrwydd llwyr i mi. Beth sydd o'i le ar ychydig o bapur newydd i lapio eich sglodion neu eich gwastraff bwyd ynddo? Mae honno i'w gweld yn ffordd lawer gwell o leinio'r cadi bwyd, ac nid wyf yn deall pam nad yw awdurdodau lleol yn symud yn syth at y deunydd llawer mwy cynaliadwy a llai niweidiol hwnnw.
Yn ail, clywsom fod ailgylchu sbwriel wrth fynd mewn digwyddiadau cyhoeddus mawr fel digwyddiadau chwaraeon ar gam cynnar iawn—nad oedd pobl wedi cael y syniad mewn gwirionedd, os oes gennych botel yn eich llaw, y gallwch naill ai ei thaflu ar y llawr neu ei rhoi yn y bin gwastraff gweddilliol. Roedd yn wych gweld bod biniau ar wahân wedi'u darparu yn yr Eisteddfod fel y gallai pobl ei roi yn y bin plastig, y bin papur neu'r bin gwastraff gweddilliol, ond mae'n galw am gryn dipyn o oruchwyliaeth.
Felly, hoffwn ganmol y bobl a drefnodd Hanner Marathon Caerdydd yn gynharach y mis hwn, oherwydd fe wnaethant ymdrechu'n galed iawn i sicrhau, pan fydd gennym y digwyddiadau mawr hyn—ac yn amlwg, mae marathon yn galw am weithredu dros ardal eithaf helaeth, ac nid mewn un cae yn unig—roeddent wedi meddwl o ddifrif am y math o bethau yr oedd angen iddynt eu gwneud. I ddechrau, roeddent yn cyflogi tîm glanhau i weithio yn y digwyddiad gyda chyfranogwyr, i sicrhau nad oedd gwastraff yn cael ei halogi gan ei atal rhag cael ei ailgylchu wedyn; rhaid oedd peidio â rhoi bwyd gyda gwastraff deunydd caled ailgylchadwy; a buont hefyd yn gweithio gyda'u partner dŵr, Brecon Carreg, i gynnig poteli dŵr llai o faint o blastig ailgylchadwy, er mwyn galluogi pobl i ddeall pwysigrwydd ailgylchu a chynaliadwyedd. Maent wedi—
Mae angen i chi ddod â'ch cyfraniad i ben. Mae gennyf nifer o siaradwyr sydd am gyfrannu.
O'r gorau. Ac maent wedi rhoi diwedd ar fagiau nwyddau plastig yn y digwyddiad. Gallai pob digwyddiad wneud y math hwn o beth i sicrhau nad ydym yn cynhyrchu mwy ohono, ond efallai y bydd angen deddfwriaeth er mwyn rhoi ffocws i'n syniadau.
Mewn unrhyw ddadl ynglŷn â defnyddio plastig, rhaid i ni ofalu nad ydym yn taflu'r babi allan gyda dŵr y bath. Mae i blastig lawer math o ddefnydd dilys costeffeithiol a synhwyrol. Felly, os ydym am fod yn effeithiol yn ein brwydr yn erbyn llygredd plastig, rhaid inni ganolbwyntio ein hymdrechion ar y defnydd ohono y gellir ei osgoi'n llwyr, neu'r mathau o ddefnydd y mae modd eu hymestyn. Dylem geisio lleihau'r defnydd o eitemau plastig untro yn helaeth, neu'n well byth, ei ddileu'n llwyr. Rwy'n credu y byddem i gyd yn cytuno bod defnyddio eitemau plastig untro bellach ar lefelau epidemig. Nid oes amheuaeth ychwaith fod eitemau plastig untro yn cyfrannu'n helaeth at lefelau llygredd y Ddaear. Y prif droseddwr yw'r botel blastig dafladwy, wrth gwrs. Mae'r ystadegau'n erchyll. Mae'r hil ddynol yn prynu 1 filiwn o boteli plastig bob munud. Dim ond 23 y cant sy'n cael eu hailgylchu, sy'n golygu bod dros dri chwarter yn cael eu gadael ar ôl i lygru'r blaned. Gwelwyd cynnydd eithriadol yn y defnydd o boteli plastig dros yr ychydig ddegawdau diwethaf, yn bennaf o ganlyniad i brynu dŵr potel, rhywbeth nad oedd nemor ddim sôn amdano yn y DU tan y 1980au, ac yn gyfyngedig yn bennaf i boteli gwydr ar y cyfandir a gweddill y byd datblygedig. Mae'r diwydiant diodydd meddal yn ei gyfanrwydd yn ffactor pwysig yn y ffigurau ar gyfer plastig untro.
Felly, gwyddom beth yw'r broblem—a oes yna ateb hirdymor, cynaliadwy? Rwy'n credu y dylem i gyd gytuno nad oes un ateb syml. Fe'i ceir mewn nifer o ymyriadau, a gallwn ni yng Nghymru weithredu rhai ohonynt yn unochrog, ac eraill a fydd yn galw am gydweithrediad a gweithredu ar lefel y DU ac yn rhyngwladol. Mae'r opsiynau ar gyfer ymyriadau unochrog i Gymru yn gyfyngedig. Trafodwyd y posibilrwydd o gyflwyno system dychwelyd ernes yn y Cyfarfod Llawn o'r blaen. Rwy'n gredwr mawr yn yr ateb hwn, ar yr amod fod yn rhaid i'r ernes fod ar lefel a fydd yn annog pobl i ailgylchu o ddifrif. Gallem edrych ar y posibilrwydd o annog cynhyrchwyr ac archfarchnadoedd i leihau eu defnydd o ddeunydd pacio plastig, a gallwn sefydlu banciau ailgylchu i hwyluso'r broses o ailgylchu poteli.
Ni, wrth gwrs, oedd y wlad gyntaf i gyflwyno tâl am fagiau plastig, ond o gofio bod 4 triliwn o fagiau plastig yn cael eu dosbarthu bob blwyddyn yn fyd-eang, gyda dim ond 1 y cant yn cael eu hailgylchu, efallai y gallem ystyried gwahardd bagiau plastig yn gyfan gwbl yng Nghymru, ac fel gyda'r tâl, efallai y dôi pob un o lywodraethau'r DU i'n hefelychu.
Diolch i'r Aelod dros Ogwr am ddod â'r ddadl hon i'r Siambr. Rhaid inni beidio â gadael hyn i fod yn drafodaeth ddiddorol yn unig. Rhaid i Lywodraeth Cymru wneud popeth yn ei gallu i helpu i liniaru'r drychineb amgylcheddol hon, ac rydym yn falch o gefnogi'r cynnig deddfwriaethol hwn.
A gaf fi ddechrau, hefyd, drwy ddiolch i'm cyd-Aelod, Huw Irranca-Davies, am gyflwyno'r ddadl hon heddiw ac i'r cyd-Aelodau ar draws y Siambr a gefnogodd y cynnig deddfwriaethol hwn hefyd? Gwastraff plastig yw un o'r symptomau mwyaf amlwg o niwed amgylcheddol a gwaddol na ddylem gael ein cyhuddo o'i adael ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Mae ein cefnforoedd, ein hafonydd, ein traethau, ein caeau a'n gwrychoedd yn aml iawn wedi'u llenwi â phlastigau untro a daflwyd, fel y mae'r ecosystemau y maent yn eu darparu.
Gyda'r cynnig deddfwriaethol arloesol hwn, mae gennym gyfle gwirioneddol i wneud Cymru'n enghraifft ryngwladol o ymarfer gorau o ran lleihau plastigau defnydd untro. Fel unigolion, mae newidiadau y gallwn ac y dylem i gyd eu gwneud i leihau ein gwastraff plastig, ond rwy'n credu'n gryf na allwn gyflawni'r gostyngiadau enfawr mewn plastigau untro sydd eu hangen arnom drwy weithredu fel unigolion yn unig. Nid ei negyddu yw hyn, ond yn rhy aml fe'i defnyddir yn esgus am ddiffyg gweithredu deddfwriaethol.
Felly, mae hwn yn fater y mae'n rhaid i bob un ohonom fod o ddifrif yn ei gylch, fel deddfwyr ac fel dinasyddion, yn rhan o'r argyfwng hinsawdd y mae'r Siambr hon a Llywodraeth Cymru wedi'i ddatgan, a hynny'n gwbl briodol. Rwy'n credu, fel y mae'r Llywodraeth hon yng Nghymru'n credu, fod yn rhaid i ni weithredu ar unwaith er mwyn cenedlaethau'r dyfodol cyn i'r sefyllfa waethygu, ac oherwydd hynny hoffwn ganmol y camau sy'n cael eu cymryd yn fy etholaeth ar hyn o bryd. Mae Cyngor Caerffili wedi addo gwario pob ceiniog o grant urddas yn ystod mislif Llywodraeth Cymru ar gyfer y fwrdeistref ar gynnyrch mislif di-blastig yn unig. Mae'r enghraifft hon o gaffael cyhoeddus cadarnhaol, sy'n cael ei harwain gan y Cynghorydd Philippa Marsden gyda diolch i'r ymgyrchydd o Gaerdydd, Ella Daish, yn enghraifft wych o sut y gall sefydliadau yng Nghymru ddefnyddio eu pŵer caffael pwerus i leihau gwastraff plastig ac arwain y ffordd. Yn aml, mae cynhyrchion hylendid a mislif ymhlith prif achosion gwastraff plastig untro, a dylid croesawu unrhyw ffordd y gallwn gymell newid gwirfoddol i ddewisiadau amgen sy'n fwy ecogyfeillgar.
Rhaid i Lywodraeth—yn lleol, rhanbarthol, cenedlaethol a rhyngwladol—wneud mwy na chwarae rhan. Rhaid iddynt arwain y ffordd ac ymladd y frwydr fel na wnaeth erioed o'r blaen. Er y gwn fod llawer o enghreifftiau o arferion gorau ledled Cymru, yn amlach na pheidio cynlluniau unigol yw'r rhain, felly gallai'r Bil arloesol a phwysig hwn helpu i hwyluso ymagwedd gyfannol a strategol ar gyfer lleihau gwastraff plastig, ac ni ddylid ei adael i Greta Thunbergs y byd hwn nodi ble y mae cenhedloedd yn arwain, a chael eu ceryddu am wneud hynny.
Rydym ni yng Nghymru wedi llwyr gydnabod y brys ac wedi datgan argyfwng hinsawdd—y cyntaf i wneud hynny. I'r rhan fwyaf yn y Siambr hon, mae'r ddadl wedi symud ymlaen. Mater o sut y cyflawnwn ein mandad yw hi bellach, nid pam. Mae sefydlu targedau cenedlaethol ar unwaith a chynllun gweithredu trawslywodraethol pwysig yn dangos pa mor bwysig yw'r argyfwng hinsawdd i ni fel y gall Cymru ddod yn arweinydd byd-eang o ran lleihau ei defnydd o blastigau untro. Felly, rwy'n annog holl Aelodau'r Siambr hon i gydnabod newid hinsawdd a gweithio gyda ni i wneud y newid hwnnw, a symud Cymru allan o argyfwng hinsawdd a thuag at sefydlogrwydd o ran yr hinsawdd.
Dwi'n codi i groesawu ac i gefnogi'r cynnig deddfwriaethol yma. Wrth restru'r holl gamau—y nifer o gamau—y byddai modd i'w cymryd, roedd e'n dechrau swnio fel maniffesto Plaid Cymru nôl yn 2016, ond yn sicr dwi yn falch iawn o weld bod yr uchelgais o gael Cymru yn arwain y byd yn y maes yma yn un sydd yn y cynnig. Oherwydd mae'n rhaid imi ddweud dŷn ni ddim wedi gweld digon o symud gan Lywodraeth Cymru ar hyn hyd yma, ac mae'r gweithio ar y cyd yma gyda Llywodraeth San Steffan—wel, dŷn nhw ddim mewn lle da ar hyn o bryd. Dwi'n ofni eu bod nhw braidd yn rhy dysfunctional i fod, efallai, yn gweithredu ar y cyflymder y byddwn ni'n hoffi eu gweld nhw yn gweithredu arno fe. Yn y cyfamser, rŷn ni'n gweld yr Alban, wrth gwrs, yn mynd ymlaen i weithredu rhai o'r syniadau yma. Felly, dwi'n meddwl bod yna wersi inni yn hynny o beth.
Nawr, mae'r pwyllgor newid hinsawdd, wrth gwrs, wedi bod yn edrych ar y maes yma, ac wedi galw am strategaeth 10 mlynedd er mwyn lleihau'r defnydd o blastig, ac, sut bynnag rŷn ni'n ei gwneud hi, mae'n bwysig edrych ar sectorau yn benodol, boed yn ofal cymdeithasol, yn amaethyddiaeth, yn dwristiaeth, adeiladu neu iechyd. Roeddwn i'n sylwi'r wythnos yma bod yr NHS yn Lloegr wedi addo torri 100 miliwn o eitemau plastig y flwyddyn o ysbytai Lloegr, yn cynnwys gwellt a chwpanau, cytleri ac yn y blaen. Wel, lle ŷm ni yng Nghymru, felly, nad ŷm ni yn rhannu'r un uchelgais?
Mae cynllun dychweled ernes yn rhywbeth rŷn ni, ers blynyddoedd, yn y blaid yma wedi dweud mae angen ei weithredu. Mae 10 y cant o'r holl wastraff yn dod o boteli plastig a chaniau y byddai modd eu hailgylchu yn y modd yna. Cyfrifoldeb estynedig i gynhyrchwyr—mae'n rhaid inni symud y gost o'r trethdalwr i'r cynhyrchwyr i ddelio â'r gwastraff yma, ac, os gwnawn ni hynny, fydd e ddim yn hir nes bod nhw'n ymateb drwy weithredu mewn ffordd wahanol iawn a chynhyrchu llai o'r gwastraff yma yn y lle cyntaf.
Mi glywon ni am gyfraniad posib levies gwahanol, a dwi'n cytuno—hynny yw, mae eisiau edrych ar bethau fel dillad sydd yn cynnwys plastigau, mae angen edrych ar falŵns, mae angen edrych ar pens un defnydd, mae angen—. Un o'r pethau sydd yn fy ngwylltio i yw derbyn yr holl becynnau yma yn y post sydd â phob math o becynnau yn berthyn iddyn nhw. Mae'n rhaid inni fod yn llawer llai bodlon i dderbyn sefyllfaoedd o'r fath. Mae eisiau edrych ar eithrio o dreth siopau di-wastraff, zero-waste shops. Ac, wrth gwrs, rhywbeth arall rŷn ni wedi bod yn galw amdano fe yn gyson dros y blynyddoedd yw bod angen newid y rheoliadau cynllunio ar gyfer trwyddedu gwyliau a digwyddiadau cyhoeddus, sy'n golygu, os oes unrhyw ddefnydd o blastig defnydd un tro, yna dyw'r digwyddiad yn ddim yn cael digwydd. Mae'n bosibl i'w wneud e, felly come on, Llywodraeth Cymru—lle mae'r momentwm? Lle mae'r brwdfrydedd? Achos dyw amser ddim o'n plaid ni, ac felly mae fy amynedd i yn dechrau rhedeg yn brin hefyd.
Hoffwn ddiolch i Huw Irranca-Davies am ddod â'r cynnig deddfwriaethol hwn gerbron heddiw, ac rwy'n falch iawn o'i gefnogi'n llwyr. Rydym wedi dod gryn dipyn o ffordd yn ein hymwybyddiaeth a sut rydym yn ailgylchu. Roedd yn rhywbeth y cefais ddealltwriaeth ohono gyntaf—fel llawer o bobl fy oed i—pan oeddwn yn 10 mlwydd oed, yn dilyn ymgyrch ailgylchu Blue Peter. Fe arweiniodd Wastesavers yn fy awdurdod lleol yng Nghasnewydd y ffordd yma yng Nghymru, ond nid yw ailgylchu'n ddigon bellach mewn gwirionedd.
Rwy'n credu bod awydd gwirioneddol gan bobl i wybod mwy ynglŷn â sut y gallant newid eu harferion a chwtogi ar faint o blastig a ddefnyddiant bob dydd. Rhaid inni roi diwedd ar y diwylliant tafladwy a meddwl sut y gallwn leihau, ailddefnyddio ac ailgylchu. Wrth gwrs, ni all arferion unigolion fod yn ddigon ar eu pen eu hunain—mae rhai archfarchnadoedd yn dechrau ar y broses o leihau plastig, tra bod y Llywodraeth yn yr Eidal yn ystyried cyflwyno gostyngiadau ar bris eitemau bwyd a glanedyddion a werthir heb ddeunydd pacio, ac i hyrwyddo gwerthu diodydd, shampŵ a hylifau eraill o gynwysyddion amldro. Gallwch gael gwellt wedi'u gwneud o basta hyd yn oed, sy'n cynnig ateb ymarferol i'r hyn sydd bellach yn broblem enwog. Mae'r enghreifftiau hyn yn arloesol ac i'w croesawu, a dyma'r math o syniadau y mae angen inni edrych arnynt, yn y sector preifat a ninnau fel Llywodraeth, i helpu i hyrwyddo'r newid hwn. Ac mae Huw ac eraill yn y Siambr hon heddiw wedi sôn am rai o'r cynlluniau y credaf y dylem ystyried gweithredu arnynt.
Gwelir canlyniadau plastig untro ym mhobman. Yn fy etholaeth i, Gorllewin Casnewydd, ceir grwpiau gwirfoddol gwych sy'n gweithio'n ddiflino i helpu i wneud eu cymunedau lleol yn llefydd gwell i fyw a gweithio ynddynt ac i ymweld â hwy. Mae grwpiau fel Pride in Pill, Celtic Horizons Litter Pickers, Rogerstone Routes a Duffryn Dusters oll yn casglu bagiau dirifedi o blastig yn rheolaidd. Un o'u gelynion pennaf yw poteli plastig. Fel y cyfryw, maent yn awyddus i weld cynllun dychwelyd ernes yn cael ei sefydlu ar boteli. Mae'n ddealladwy eu bod yn teimlo'n rhwystredig ynglŷn â'r amser y mae'n ei gymryd, ac mae hwn yn syniad gwych, sy'n boblogaidd iawn ac yn rhywbeth y mae'r cyhoedd am ei weld, ac rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog yn gallu rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni yn ei chyfraniad yn nes ymlaen. Ac wrth siarad â physgotwyr sy'n pysgota ar Afon Wysg, gwn fod plastig yn fater o bwys—mae'n mygu ein moroedd, ein cefnforoedd, ein hafonydd a'n dyfrffyrdd.
Rwyf am orffen drwy sôn yn gyflym am gynhyrchion mislif. Cynnyrch mislif yw'r pumed eitem fwyaf cyffredin a geir ar draethau Ewrop—yn fwy eang na chwpanau coffi, cyllyll a ffyrc neu wellt untro. Ac fel y dywedodd Rhianon Passmore, hoffwn dalu teyrnged i Ella Daish, sydd wedi argyhoeddi Sainsbury's i roi'r gorau i gynhyrchu dodwyr plastig ar gyfer eu brand eu hunain o damponau. Ac fe ddarbwyllodd gyngor Caerffili i brynu cynhyrchion mislif diblastig yn unig â grant cynnyrch mislif am ddim i ysgolion Llywodraeth Cymru. A byddai'n wych gweld pob cyngor yn dilyn ei esiampl. Gwn mai nod Ella yw gweld pob cynnyrch mislif yn dod yn ddi-blastig, ac rwy'n llwyr gefnogi Ella yn hyn o beth. Felly, mae llawer mwy y gallwn ei wneud. Mae gennym gyfle gwirioneddol yma yng Nghymru. Byddwch yn uchelgeisiol, byddwch yn feiddgar, ac rwy'n gobeithio'n fawr y bydd Aelodau o bob rhan o'r Siambr yn cefnogi hyn heddiw.
Fel eraill, rwy'n ddiolchgar iawn i'r Aelod dros Ogwr am gyflwyno'r ddadl hon y prynhawn yma. Lywydd, cofiwn y sgyrsiau a'r dadleuon a gawsom am y tâl o 5c ar fag siopa. Ac ar y pryd, roedd honno'n cael ei hystyried yn ddeddfwriaeth arloesol. Arweiniodd at leihad o 71 y cant yn eu defnydd, a chafodd hynny ddwy effaith, wrth gwrs: newidiodd ymddygiad y cyhoedd ac fe ddangosodd bŵer y Llywodraeth i newid ymddygiad y cyhoedd ac i ysgogi newid yn niwylliant ymddygiad. Ond pan oeddem yn gwneud hynny, wrth gwrs, roeddem yn meddwl ein bod yn torri tir newydd, ac ar flaen y gad o ran gweithredu amgylcheddol ar y pryd. Ond ers hynny, yn y degawd ers y dadleuon hynny, rydym wedi gweld sut y mae microblastigau a phlastigau nid yn unig yn anharddu ein hamgylchedd, ond yn gwenwyno ein hecosystemau. Rwy'n cofio clywed Syr David Attenborough yn dweud, lle bynnag y mae'n mynd yn awr, lle bynnag y mae—boed yn y mynyddoedd a'r rhostiroedd neu ar yr arfordir—fod plastig wedi'i daflu ym mhob man. Ac mae'n dweud am Lywodraeth y DU:
Nid oes gan y Llywodraeth syniad, erbyn iddynt weithredu fe fydd yn rhy hwyr.
A dyna gerydd i Lywodraethau ar draws y byd. Rydym wedi gweld bod Greenpeace wedi canfod bod hyd yn oed y rhannau mwyaf diarffordd o Antarctica wedi'u halogi gan ficroblastigau erbyn hyn, gan ddifetha un o'r amgylcheddau mwyaf dilychwin ar y blaned, ond yn aml iawn, bydd y tameidiau bach iawn hynny o blastig, llai nag ugeinfed ran o filimedr o led, yn cael eu camgymryd am ysglyfaeth gan anifeiliaid bach y môr. Mae'r microblastigau'n gwneud eu ffordd i fyny'r gadwyn fwyd, gan achosi niwed posibl i anifeiliaid mwy, fel adar y môr a morfilod, yn ogystal â mynd yn rhan o'n cadwyn fwyd ein hunain drwy bysgod cregyn. Fel hyn, rydym wedi cyrraedd pwynt argyfwng. Mae angen inni weld gweithredu gan Lywodraeth eto, a Llywodraeth yn cymryd yr awenau.
Credaf ein bod yn cynhyrchu mwy o wastraff yn y Deyrnas Unedig nag a ddeallwn mewn gwirionedd. Gwelsom astudiaethau sy'n dweud ein bod yn cynhyrchu 50 y cant yn fwy o wastraff plastig nag a ragwelwyd. Ac rydym ni yng Nghymru, yn gwbl briodol, yn hyrwyddo cyfraddau ailgylchu uchel, ond rwyf am ddweud yn glir fy mod yn credu bod ein cyfrifoldeb am y gwastraff a grëwn yn mynd ymhell y tu hwnt i ganolfannau ailgylchu lleol.
Eisoes gwelsom sut y mae gwastraff o Gymru wedi dod i ben ei daith yn y cefnfor tawel. Mae'n gwbl annerbyniol ein bod yn caniatáu i unrhyw wastraff o gwbl o'r wlad hon lygru ein moroedd a'n cefnforoedd, ac yn annerbyniol ein bod yn gollwng ein gwastraff ar y bobl dlotaf ar y blaned. Ni ddylem fod yn gwneud hynny. Credaf fod angen i ni weithredu a chredaf fod yn rhaid i Lywodraeth Cymru weithredu hefyd. Rydym wedi gweld galwadau o blith y bobl, galwadau cynyddol, o bob rhan o'r byd am weithredu, a galwadau cynyddol yng Nghymru—galw o blith y bobl am newid. Rwyf wedi gweld, ac fe soniais yn gynharach sut roedd Llywodraeth Cymru yn gallu sbarduno newid ymddygiad, ond rydym hefyd yn gweld sut y caiff newid ei sbarduno gan bobl yn deall effaith ein hymddygiad ar y blaned. Sawl un ohonom a all anghofio'r llun o grwban môr wedi'i lapio mewn sach blastig, neu'r llun o storc wedi'i lapio mewn bag plastig? Daeth y BBC â'r lluniau hynny i ni. Os na ddefnyddiwn ein pŵer i ddeddfu, bydd y lluniau hyn yn dal i ddod, a'r pryd hwnnw, ni yw'r rhai a fydd yn euog am ganiatáu i hynny ddigwydd.
Y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol, Hannah Blythyn.
Diolch, Lywydd. Hoffwn ddiolch i Huw Irranca-Davies a'r holl Aelodau sydd wedi bod yn rhan o gyflwyno'r ddadl hon heddiw. Credaf fod cryfder y gefnogaeth drawsbleidiol i siaradwyr yn y ddadl yn dyst i'r angerdd amhleidiol yn y maes hwn, angerdd a rannaf yn bersonol ac yn wleidyddol. Credaf fod y diddordeb mewn mynd i'r afael â'r defnydd o blastig untro yn y fan hon, yn y lle hwn, hefyd yn adlewyrchu, ac efallai wedi'i lywio'n rhannol gan yr hyn a glywaf yn uchel ac yn glir ar draws y wlad, boed gan ein heco-ysgolion neu gan ein cymunedau sy'n gweithredu i roi diwedd ar y defnydd o blastig untro. Mae llawer iawn o ymrwymiad ac ewyllys da ar draws y wlad i sbarduno newid yn faint o blastig a ddefnyddiwn a lleihau'r defnydd o blastig untro ac rwy'n cefnogi hynny'n frwd.
Ar y cychwyn, rwyf am egluro fy mod yn sicr yn cytuno ag Aelodau sy'n galw arnom i atal neu leihau cynnyrch a deunydd pacio plastig dianghenraid neu ddeunydd na ellir ei ailgylchu. Rwy'n awyddus i fynd ymhellach ac yn gyflymach yn y maes hwn, ond yn gyntaf, rwyf am grybwyll yn fyr iawn yr hyn rydym wedi'i wneud a'r hyn rydym yn ei wneud. Gallwn ymfalchïo, fel y dywedodd yr Aelodau, yn yr hyn a wnaethom hyd yma. Cymru oedd y wlad gyntaf yn y DU i gyflwyno tâl am fagiau plastig yn 2011, ac rydym yn arweinydd byd-eang mewn perthynas ag ailgylchu, gyda phlastig ymhlith y deunyddiau a gesglir gyda deunyddiau eraill o bob cartref yng Nghymru.
Rydym wedi lansio ymgynghoriad yn ddiweddar, sydd, i bob pwrpas, yn ei gwneud yn ofynnol i fusnesau gasglu deunyddiau ar wahân ar gyfer eu casglu i'w hailgylchu, yn union fel y mae deiliaid tai yng Nghymru wedi bod yn ei wneud ers blynyddoedd. O ganlyniad i hyn bydd mwy o ddeunyddiau o ansawdd uchel yn cael eu gwahanu i'w hailgylchu a llai o wastraff yn mynd i safleoedd tirlenwi. Ond fel y clywsoch yma heddiw, er mwyn mynd i'r afael o ddifrif â gwastraff plastig a llygredd, gwyddom fod yn rhaid i ni fynd y tu hwnt i ailgylchu a lleihau gwastraff yn y lle cyntaf.
Roedd agoriad Huw Irranca-Davies yn sôn am ddull ehangach o fynd ati i wahardd rhai eitemau plastig untro. Dyna pam ein bod am gyflwyno gwaharddiad neu gyfyngiad ar werthu'r 10 eitem blastig untro fwyaf cyffredin. Bydd hyn yn cynnwys gwellt, trowyr diodydd, ffyn cotwm, cyllyll a ffyrc plastig untro, a deunydd pacio bwyd polystyren ehangedig a chynwysyddion diod.
Er mwyn sicrhau ein bod yn cael yr effaith fwyaf sy'n bosibl, rydym wedi bod yn cydweithio â Llywodraethau eraill i sicrhau newid ehangach ac rydym eisoes wedi cyhoeddi ein bod yn datblygu diwygiadau i'r gyfundrefn deunydd pacio drwy gyfrifoldeb estynedig cynhyrchwyr a datblygu argymhellion i gynhyrchu cynllun dychwelyd ernes ochr yn ochr â Llywodraeth y DU.
Rwyf am ei gwneud yn glir i'r Aelodau, er ein bod yn gweithio'n ddiwyd gyda chymheiriaid ledled y DU yn Llywodraeth y DU a Llywodraeth yr Alban ar gynigion deddfwriaethol ac angen Gorchymyn i weithredu ar blastig untro—clywn gan fusnesau a defnyddwyr y byddai hyn yn gwneud pethau'n haws yn gyffredinol i bawb—yn yr un modd hoffwn sicrhau Aelodau nad oes arnom ofn gweithredu ar ein pen ein hunain os oes angen, ac rydym wedi ymrwymo i weithio'n gyfochrog â hwy.
Mae Bil Amgylchedd y DU a gyflwynwyd ddoe yn cynnwys darpariaethau a fydd yn ein galluogi i ddatblygu rheoliadau newydd yng Nghymru ar gyfer mentrau sy'n sicrhau newid sylfaenol megis cyfrifoldeb estynedig cynhyrchwyr, cynlluniau dychwelyd ernes, taliadau am eitemau plastig untro a labelu amgylcheddol a safonau ar gyfer cynhyrchion—pob un yn llwybrau rwyf wedi ymrwymo i'w dilyn. Fodd bynnag, fel y dywedais, er ein bod wedi ymrwymo i weithio ar y cyd, mewn modd trawsffiniol, nid oes arnom ofn gweithredu ar ein pennau ein hunain lle mae angen a bwrw ymlaen â phethau y gallwn eu gwneud ar sail Cymru'n unig hefyd.
Lywydd, dechreuais drwy nodi fy nghefnogaeth i alwadau'r Aelodau am weithredu ar blastigau untro, a'n nod fel rhan o hyn yw symud tuag at economi fwy cylchol yng Nghymru, lle y caiff gwastraff ei osgoi a lle y cedwir adnoddau mewn defnydd cyn hired ag y bo modd. Mae hyn nid yn unig yn lleihau gwastraff, mae hefyd yn rhan allweddol o'r camau gweithredu sydd eu hangen ar newid yn yr hinsawdd, ac ar ddiwrnod ein cynhadledd hinsawdd gyntaf, mae'n sicrhau cyfleoedd economaidd ehangach a mwy fel rhan o'r newid i economi carbon isel. A gwn fod llawer o fusnesau eisoes yn troi oddi wrth blastigau untro.
Mae Aelodau wedi codi'r posibilrwydd o gyflwyno Bil plastigau untro, ac mae'n iawn ein bod yn anelu at atal neu leihau cynhyrchion a deunydd pacio plastig diangen na ellir eu hailgylchu lle y gallwn wneud hynny. Rwyf wedi ymrwymo i weithredu i leihau ein defnydd o gwpanau coffi untro a chwpanau untro eraill ar gyfer diodydd. Mae amrywiaeth o opsiynau'n cael eu harchwilio ar hyn o bryd—opsiynau sy'n cynnwys ardollau, taliadau neu drethi posibl. Er ein bod am i bethau ddigwydd cyn gynted ag y bo modd, credaf fod yr Aelodau wedi cydnabod ei bod yn amlwg, yn anffodus, fod yna brosesau i fynd drwyddynt ac y gall rhai pethau fod yn eithaf cymhleth, ac mae angen inni sicrhau, os gwnawn bethau, ein bod yn eu gwneud yn y ffordd gywir heb unrhyw ganlyniadau anfwriadol. Felly, tra bod y cynigion hyn yn cael eu llunio a'u cwblhau, rwyf wedi gofyn i swyddogion nodi mesurau a chamau eraill y gallem eu cymryd i arwain y ffordd yng Nghymru yn llawer cynt—camau a allai adeiladu ar y llu o fentrau gwirfoddol a ddatblygwyd gan gwmnïau ledled y DU. Er enghraifft, rwy'n credu bod un neu ddau o'r Aelodau wedi cyffwrdd â'r gwastraff a gynhyrchir gan ddigwyddiadau mawr neu stadia, ac er ein bod wedi gweld newid o ran arferion da ac arferion gorau yn rhai o'r digwyddiadau a'r gweithgareddau y mae'r Aelodau wedi eu crybwyll yn y ddadl hon heddiw ac wedi gweld camau ymlaen, efallai fod arnom angen ychydig o ymdrech eto i gael y maen i'r wal ar y gwaith hwnnw yn awr.
Fel Llywodraeth, rydym yn cytuno bod yn rhaid i ddatrys her llygredd plastig fod yn ganolog i'n hymdrechion i leihau gwastraff ac mae angen dull gweithredu cynhwysfawr ac uchelgeisiol. Rwyf eisoes wedi crybwyll wrth yr Aelodau y byddwn yn cyhoeddi strategaeth newydd a chynhwysfawr ar gyfer ymgynghori arni yn ddiweddarach eleni, strategaeth a fydd yn adeiladu ar ein cynnydd cynharach gyda strategaeth 'Tuag at Ddyfodol Diwastraff'. Bydd yn nodi cynllun i roi camau pellach ar waith ar blastigau a deunyddiau eraill. Bydd yn ddull strategol, traws-sector o fynd i'r afael â llygredd plastig, a deunyddiau eraill yn ogystal. Fel y mae Aelodau wedi sôn heddiw, hanfod hyn oll yw ein defnydd o ddeunyddiau untro. Ac rwyf am dangos i'r Aelodau gyda'r strategaeth hon ein bod yn sôn yn aml am strategaethau'n cael eu hysgrifennu, a'u cwblhau cyn eu gosod ar y silff, ond rwy'n awyddus i hyn fod yn llawer mwy arloesol a bod yn rhan o sgwrs weithredol a darparu llwyfan ar gyfer gweithredu a cherrig milltir gweladwy.
Rwy'n gwybod bod angen i mi orffen, Lywydd, felly i grynhoi, clywsom lawer o syniadau, llawer o arbenigedd ac mae llawer o frwdfrydedd yn y maes hwn, a hoffwn ei botelu a mynd ag ef gyda mi, ond rwy'n sicrhau'r Aelodau y buaswn yn gwneud hynny mewn potel y gellir ei hailddefnyddio a'i hail-lenwi. Ond yn wir, i gloi, i dawelu meddwl yr Aelod, hoffwn ddweud fy mod yn awyddus i edrych ar y modd y byddwn yn sefydlu ffordd o ddod â phobl at ei gilydd, er mwyn ein cael mewn ystafell ac o amgylch y bwrdd i siarad am y syniadau hyn a sut y bwriadwn eu rhoi ar waith a'u datblygu, a hefyd, yn bwysig, er mwyn creu mecanwaith i alluogi cymunedau ledled y wlad i gyfrannu at hyn. O'r hyn a glywais heddiw yn y ddadl hon a'r gwaith gyda rhanddeiliaid a dinasyddion fel ei gilydd ac o fewn y Llywodraeth, gwn ein bod, gyda'n gilydd ac ar y cyd, yn parhau i arwain y ffordd yng Nghymru tuag at fyd mwy cynaliadwy a dyfodol sy'n gweithio er budd ein hamgylchedd, ein cymunedau a'n heconomi. Diolch yn fawr.
Huw Irranca-Davies i ymateb i'r ddadl.
Diolch, Lywydd. Weinidog, diolch yn fawr. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i'm cyd-Aelodau Delyth Jewell, Jenny Rathbone, David Rowlands, Rhianon Passmore, Llyr Gruffydd, Jayne Bryant ac Alun Davies—
Munud yn unig sydd gennych.
O, mae'n ddrwg gennyf—am eu holl gyfraniadau, oherwydd credaf fod ansawdd y ddadl hon a gawsom heddiw wedi dangos y Cynulliad ar ei orau, a hoffwn ddiolch hefyd i'r rheini sydd wedi cefnogi ond sydd heb siarad heddiw. Ceir cefnogaeth drawsbleidiol gref iawn gyda llawer o faterion sydd o ddiddordeb cyffredin. Weinidog, os yw hynny'n helpu i'ch cefnogi ac yn eich annog i roi cynigion ar ddeddfu gerbron y Cabinet, os oes angen, ond o ran pethau eraill y gallwn eu gwneud yn gynharach, byddai hynny'n gwbl ragorol.
Yn fy sylwadau byr i gloi, y pethau sy'n sefyll allan yma yw'r syniad hwn o alw o blith y bobl am newid. Mae'r cyhoedd yn ogystal â'r gwleidyddion am weld hyn. Ni ddylem adael y gwaddol o blastigau cynyddol ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Ac fel y dywedodd Llyr, 'Come on, Lywodraeth Cymru.' Ond mewn gwirionedd, 'Come on, Lywodraeth Cymru a ninnau hefyd, gyda'n gilydd' ydyw—pob un ohonom gyda'n gilydd, yr hyn y gallwn ei wneud yma. Felly mae'n ymateb calonogol iawn.
A gaf fi ddiolch i'r holl sefydliadau sydd wedi cefnogi hyn yn ogystal: Cyfeillion y Ddaear Cymru, Cadwch Gymru'n Daclus, y Gymdeithas Cadwraeth Forol ac aelodau o Cyswllt Amgylchedd Cymru, sydd wedi helpu gydag ymchwil a dadleuon ar gyfer hyn? Ac a gaf fi ddweud wrth y Gweinidog, ar yr ymateb calonogol y mae wedi ei roi, pe bai'r Llywodraeth yn dymuno cyd-ddatblygu'r cynigion yn y dyfodol a'r mesurau i wneud Cymru yn arweinydd byd ar leihau'r defnydd o blastigau untro, fe wêl ein bod yn gyfeillion parod i wneud hyn? Felly rydym yn barod i helpu.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.